WILLIAMS, JOHN (1762 - 1823), pregethwr Methodist ac emynydd

Enw: John Williams
Dyddiad geni: 1762
Dyddiad marw: 1823
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: pregethwr Methodist ac emynydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Barddoniaeth
Awdur: Gomer Morgan Roberts

Ganwyd ym Meidrym, Sir Gaerfyrddin. Bu'n trigo yn Llanedi am dymor; symudodd oddi yno i werthu llaeth yn Abertawe. Bu farw 28 Tachwedd 1823. Yr oedd yn bregethwr nerthol, ond yn bur ddiystyr o reolau'r Corff Methodistaidd. Ceir saith o'i emynau yng nghasgliad ei gymydog, Daniel Evans o'r Mynydd-bach, Swp o Ffigys, etc., 1824. Bu rhai ohonynt mewn bri unwaith ond nis arferir yn awr.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.