Ganwyd ym Melin Mellteyrn, Sir Gaernarfon. Collodd ei rieni yn blentyn, a dygwyd ef i fyny gan ewythr yn Llithfaen, a chafodd yr addysg orau ganddo. Yn ddyn ieuanc trodd allan yn athro ysgol, a dysgai gerddoriaeth gan deithio o ardal i ardal. Ychwanegai at ei enw ' Dysgawdwr Muwsig,' ' Athro Cerdd,' a ' Siôn Singer.' Bu'n cadw ysgol yn Llanfair Talhaearn, sir Ddinbych. Symudodd i Fodedern, Môn, ac oddi yno i Frynsiencyn. Yn 1784 aeth i'r Ro Wen, Conwy, i gadw ysgol, ac oddi yno i'r Glascoed, Llanrwst, lle y sefydlodd eglwys i'r Bedyddwyr. Yn 1787 aeth i Aberdyfi. Yn 1788 ordeiniwyd ef yn weinidog gyda'r Bedyddwyr yn y Penrhyncoch ac Aberystwyth. Cododd ei olygiadau diwinyddol beth anesmwythyd yno, ac yn 1792 aeth i fugeilio eglwys y Bedyddwyr yn yr Hen Dŷ Cwrdd, Abertawe.
Efe oedd y cyntaf yng Nghymru i weled yr angen am lyfr yn yr iaith Gymraeg i ddysgu elfennau cerddoriaeth. Rhoddodd hysbysiad am y llyfr yn 1779 mewn llyfr a gyhoeddwyd yn Nhrefriw. Yn 1797 cyhoeddwyd y llyfr dan yr enw Cyfaill mewn llogell , yn dair rhan; dyma'r llyfr cyntaf a gyhoeddwyd yn Gymraeg i ddysgu cerddoriaeth. Tynnodd arno ei hunan wg ei enwad oherwydd ei ddaliadau Arminaidd, ac yn 1797 diarddelwyd ef gan y 'cwrdd chwarter.' Bu farw (meddai ei ferch) yn 1807. Efe oedd awdur yr emyn adnabyddus ' Aed sŵn efengyl bur ar led.'
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.