Ganwyd yn Job's Well, tref Caerfyrddin, 12 Medi 1757, yn fab i Thomas Williams. Aeth i Goleg Iesu, Rhydychen, yn 1773, ond o Goleg Wadham y graddiodd (1776), ac etholwyd ef yn 1780 yn gymrawd yno. Galwyd ef i'r Bar, o'r Inner Temple, yn 1784, a chafodd yrfa lwyddiannus iawn fel dadleuydd. Ond ymddiddorai hefyd yn hanes y gyfraith : cydolygodd y degfed arg. (1787), a'r unfed ar ddeg (1791), o Commentaries Blackstone, a chwanegodd nodiadau gwerthfawr at y trydydd arg. (1799-1802) o'r Reports of Cases … in the King's Bench in the reign of Charles II. Bu farw 27 Medi 1810; gweler y D.N.B. arno.
Mab iddo oedd
Syr EDWARD VAUGHAN WILLIAMS (1797 - 1875), bargyfreithiwr ac ysgolhaig CyfraithYsgolheictod ac Ieithoedd,
a ddadleuai yng nghylchdaith Deheudir Cymru. Dyrchafwyd ef yn farnwr yn y 'Common Pleas' yn 1847, a daliodd y swydd hyd ei ymddeoliad yn 1865, pan roddwyd ef ar y Cyfrin Gyngor. Heblaw ailgyhoeddi, 1824, nodiadau ei dad ar y gyfraith yn oes Siarl II, cyhoeddodd yn 1832 waith safonol, A Treatise on the Law of Executors and Administrators, a aeth i saith arg. yn ystod ei fywyd. Y mae yntau yn y D.N.B.
Mab i Syr Edward oedd
Syr ROLAND LOMAX BOWDLER VAUGHAN WILLIAMS (1838 - 1916) Cyfraith,
a fu'n farnwr ar Fainc y Frenhines ac yn y Llys Apêl. Ef oedd cadeirydd y comisiwn brenhinol helbulus ar yr Eglwys yng Nghymru, 1906 (Who was Who).
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.