brodor o Sir Drefaldwyn Cafodd ei ordeinio yn 1868 gan esgob Llandaf a bu'n gurad yn Tredegar, sir Fynwy, 1868-76. Wedyn bu'n genhadwr ymhlith Cymry Llundain; ymddengys iddo fod yn llafurio ym mhlwyf S. Stephen's, Spitalfields hefyd. Dychwelodd i Gymru yn 1881 a bu'n gurad yn Newcastle (Penybont-ar-Ogwr) cyn cael ei ddewis, yn 1883, yn rheithor Penegoes, Sir Drefaldwyn. Ysgrifennodd Cymry Llundain (Caernarfon, c. 1867), A Defence of the Welsh People against the Misrepresentations of their English Critics (Caernarvon, 1869?), The Early British Church (London, 1877), Notes and Narratives of … Missionary and Ministerial Labours (Machynlleth, 1885). Bu farw yn niwedd mis Medi neu ddechrau mis Hydref, 1904.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.