WILLIAMS, JOHN LEWIS (1882 - 1916), allforiwr glo ('Greenslade and Williams') a chwaraewr pêl droed (Rygbi), fel asgellwr

Enw: John Lewis Williams
Dyddiad geni: 1882
Dyddiad marw: 1916
Rhiant: Edward Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: allforiwr glo ('Greenslade and Williams') a chwaraewr pêl droed (Rygbi), fel asgellwr
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Chwaraeon a Gweithgareddau Hamdden
Awdur: Moelwyn Idwal Williams

Ganwyd 3 Ionawr 1882 yn fab i Edward Williams, Llwyncelyn, Eglwys Newydd (Caerdydd). Chwaraeai dros yr Eglwys Newydd ar y cychwyn, ond o 1903 ymlaen dros Gaerdydd, a bu'n cynrychioli Cymru hefyd 17 o weithiau rhwng 1906 a 1911. Yn rhyfel 1914, aeth i Ffrainc yn gapten yn y ' Welch Regiment '; a bu farw o'i glwyfau, 12 Gorffennaf 1916.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.