WILLIAMS (neu PENROSE), LLEWELLIN (1725 - ?), morwr ac arlunydd

Enw: Llewellin Williams
Dyddiad geni: 1725
Dyddiad marw: ?
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: morwr ac arlunydd
Maes gweithgaredd: Celf a Phensaernïaeth; Diwydiant a Busnes
Awdur: Hywel David Emanuel

Williams oedd ei gyfenw teuluol, ond mabwysiadodd ' Penrose ' oddi wrth rhyw wneuthurwr llongau neu gapten llong a adwaenai. Ganed ef ym mis Mai 1725 ger Caerffili, Morgannwg, yr hynaf o ddau blentyn i forwr a gollodd ei fywyd rai blynyddoedd yn ddiweddarach mewn storm ar y môr ger arfordir yr Is-almaen. Aeth Williams i ysgol ramadeg ym Mryste, ac yno yr ymddiddorodd gyntaf mewn arluniaeth. Priododd ei fam eilwaith, a bu'r teulu yn byw am gyfnod yn swyddi Caerwrangon a Mynwy cyn dychwelyd i le anhysbys yn Ne Cymru. Oherwydd penderfyniad ei lysdad y dylai ddilyn y gyfraith, ymadawodd Williams â'i gartref ym Medi 1744, a chyrchodd i Fryste, gan basio trwy'r Pîl, Morgannwg, ar ei ffordd. Am lawer blwyddyn wedyn cafodd yrfa anturus ar y môr ac yn America, lle y treuliodd gyfnod helaeth ymhlith yr Indiaid. Yr adeg yma, cyfarfu â Benjamin West yr arlunydd, yr hwn mewn blynyddoedd ar ôl hyn a briodolodd ddatblygiad ei allu fel arlunydd yn rhannol i'w ymwneud â Williams yn Philadelphia. Wedi dychwelyd yn dlawd i Lundain ac wedyn i Fryste, noddwyd Williams gan Thomas Eagles, a chafodd loches yn Elusendy'r Marsiandwyr ym Mryste. Wedi marw Williams, cafodd Eagles ei holl lyfrau a hefyd ddyddiadur yn ei law ei hun a gynhwysai hanes anturiaethau wedi'u seilio i ryw raddau ar brofiadau Williams ymhlith yr Indiaid. Cyhoeddwyd y dyddiadur yn 1815 o dan y teitl The Journal of Llewellin Penrose, a Seaman. Ni lwyddwyd i ddarganfod adeg ei farw.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.