WILLIAMS, MATHEW (1732 - 1819), mesurydd tir, awdur, ac almanaciwr

Enw: Mathew Williams
Dyddiad geni: 1732
Dyddiad marw: 1819
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: mesurydd tir, awdur, ac almanaciwr
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil
Awdur: William Llewelyn Davies

Ni nodwyd pa bryd y ganwyd ef, ond gwyddys iddo fod yn byw yn Llangadog (1774) ac yn Rhosmaen, gerllaw Llandeilo (1788). Cyhoeddodd (a) Y Mesurwr Cyffredinol (Caerfyrddin, 1775; arg. arall, yn 1785); (b) Speculum Terrarum et Caelorum: neu Ddrych y Ddaear a'r Ffurfafen … (Caerfyrddin, 1784; arg. eraill yn 1804 a 1826); (c.) Hanes Holl Grefyddau'r Byd,yn enwedig y Grefydd Grist'nogol (Caerfyrddin, 1799); (ch) cyfres o almanaciau - Britannus Merlinus Liberatus - o 1777 ymlaen hyd 1814 neu yn ddiweddarach; (d) De Ultimo Judicio: neu, Gan am y Farn Ddiweddaf … Wedi ei gyfansoddi a'i gydmaru a gwaith Saesonaeg B[enjamin] Francis (Caerfyrddin, 1794?). Y mae'n bosibl mai ef hefyd a gyfieithodd Traethawd ynghylch Caersalem Newydd o waith E. Swedenborg (Caerfyrddin, 1815; arg. arall yn 1885). Ceir dyfyniad (yn C.M. Hist. Journal, 1949, 48), o gopi o un o ddyddiaduron David Jones, Wallington, sydd yn Llyfrgell Caerdydd, yn dywedyd i ŵr o'r enw Mathew Williams farw yn 1790 - ' Mathew Williams, author of a Welsh Almanack, this 14 years past, printed yearly at Carmarthen. He was from them parts by birth, by trade a weaver, by profession a dissenter, 55 years of age. ' Sylwer, fodd bynnag, alw y Mathew Williams hwn yn wehydd; y mae'r gŵr dan sylw yn yr erthygl hon yn ei alw ei hun yn 'mesurydd tir' a 'land surveyor' yn rhai o'i lyfrau.

Sylwer fod dau ddyn o'r un enw yn byw yn y cyfnod, hwnnw hefyd yn fesurydd tir. Claddwyd ef yn Llandeilo-fawr, 30 Medi 1819, yn 87 oed. Profwyd ei ewyllys (dyddiedig 30 Mai 1819) 24 Mawrth 1820 (gweler ewyllysiau a chofnodion plwyfol yn Ll.G.C.).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.