Ganwyd yn y Trallwng, Sir Drefaldwyn, tua chanol y 18fed ganrif. Golygid iddo fyned i fusnes gwerthu sidan, eithr ymddangosodd am y tro cyntaf fel actiwr yn y Birmingham New Theatre yng nghymeriad Hamlet ar 27 Gorffennaf 1778. Oddi yno aeth at y Bath Company, ac, yn 1779, ymunodd (am gyflog o £5 yr wythnos) a'r rhai a oedd yn chwarae yn Drury Lane Llundain. Yn 1790 priododd a Mrs. Wilson, o Lewes, Sussex, aelod o gwmni Drury Lane, Cymerodd y Shakespeare Coffee House yn Bow Street, Llundain, drosodd, a phan orffennodd gyda chwmni Drury Lane cyflogwyd ef i gymryd gofal y Richmond Theatre. Wedi i'w wraig farw aeth i India'r Gorllewin lle y bu farw yn 1801. Dywedir fod llinellau Anthony Pasquin i ' Mr. Williames ' yn cyfeirio ato ef; pwysleisir ynddynt allu Williams fel actiwr, ei swildod, a'i lais melysber.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.