Ganwyd 8 Mai 1851 yn Tai Hywel o'r Llwyn, Cefn Coed y Cymer, sir Frycheiniog, mab i borthmon. Yn 13 oed aeth i weithio o dan y ddaear. Dechreuodd gystadlu mewn eisteddfodau, gan ennill ar ddrama yn Aberdâr ac ar bryddest yn Treherbert. Parodd cyfres o erthyglau a ysgrifennodd i'r Gwladgarwr (Aberdâr) ar ' Beirdd a barddoniaeth ' gryn gyffro ymysg y beirdd. Yn 1878 aeth i Lundain lle y parhaodd i gystadlu; enillodd yn eisteddfod Capel Jewin ar bryddest, a bu'n llwyddiannus yn eisteddfodau cenedlaethol Merthyr Tydfil a Dinbych hefyd. Ymfudodd i U.D.A. yn 1883. Ymsefydlodd yn Brooklyn, Ohio. Enillodd amryw wobrwyon yn eisteddfodau America, e.e. yn eisteddfod Ffair Fawr y Byd, Chicago, 1893. Ym mis Mai 1897 aeth i Utica i olygu Y Drych, gan barhau'n olygydd y newyddiadur hyd nes y bu farw yn 1931. Ymysg yr amryw lyfrau a gyhoeddodd yr oedd Rhwng Gwg a Gwen, 1903, Am Dro i Erstalwm, 1905?, Llyfr y Pedair Dameg, 1907?, Llyfr Pawb, 1908?, Llyfr y Ddau Brawf, 1911?, Llyfr y Ddau Adda, 1919. Bu farw 4 Mawrth 1931 yn Cefn Coed y Cymer.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.