WILLIAMS, ROWLAND ('Hwfa Môn '; 1823 - 1905), gweinidog gyda'r Annibynwyr

Enw: Rowland Williams
Ffugenw: Hwfa Môn
Dyddiad geni: 1823
Dyddiad marw: 1905
Rhiant: Grace Williams (née Rowlands)
Rhiant: Robert Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Annibynwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd; Eisteddfod; Barddoniaeth
Awdur: Richard Griffith Owen

Ganwyd yn Pen y Graig, Trefdraeth, Môn, Mawrth 1823. Pan oedd yn 5 oed symudodd y teulu i fyw i Ros-tre-Hwfa, ger Llangefni, a chyda'r Methodistiaid Calfinaidd y magwyd ef nes oedd yn 14 oed. Prentisiwyd ef yn saer coed gydag un John Evans, Llangefni; bu'n gweithio wrth ei grefft wedyn ym Mangor, Deiniolen, Porthdinorwig, a lleoedd eraill. Yn 1847 dychwelodd i Fôn ac yn fuan codwyd ef i bregethu gan eglwys Smyrna, Llangefni, a derbyniwyd ef i Goleg Annibynnol y Bala y flwyddyn honno. Ar derfyn ei gwrs cafodd alwad yn weinidog i eglwysi Bagillt a'r Fflint ac urddwyd ef yno 4 Mehefin 1851. Symudodd i Bryn Seion, Brymbo, yn 1855 a bu â gofal eglwys Wrecsam am gyfnod. Yn 1862 aeth i Bethesda, Arfon, ac yna oddi yno yn 1867 i eglwys Fetter Lane, Llundain (Tabernacl, Kings Cross, yn ddiweddarach) ac arhosodd yno hyd 1881 pryd y dychwelodd i Gymru yn weinidog yr eglwys yn Llannerch-y-medd. Ni bu'n gysurus yno a symudodd yn 1888 i Langollen. Ymddeolodd yn 1893 ac aeth i fyw i'r Rhyl ac yno y bu farw 10 Tachwedd 1905; claddwyd ym mynwent gyhoeddus y Rhyl. Fel pregethwr, yr oedd yn llithrig ei ymadrodd ond ni chyrhaeddodd y rheng flaenaf o bell ffordd; yr oedd bob amser yn ddihareb o faith. Ynglŷn â'r eisteddfod y daeth i amlygrwydd fwyaf, a hynny mewn dyddiau pan ' ystyrid ennill mewn eisteddfod yn wrhydri ynddo'i hun … ' Urddwyd ef yn fardd yn eisteddfod Aberffraw yn 1849 a dewisodd yr enw 'Hwfa Môn. O bryd i'w gilydd enillodd lu o wobrau eisteddfodol ac yn eu plith y gadair genedlaethol yng Nghaernarfon (1862), pryd y curodd 'Eben Fardd,' yr Wyddgrug (1873), a Birkenhead (1878), a'r goron yng Nghaerfyrddin (1867). O 1875 i 1892 ef oedd un o brif feirniaid yr eisteddfod. Fel yn hanes y rhelyw o'i gyfoeswyr aethai'r gynghanedd yn feistres arno yn lle bod yn llawforwyn iddo, ac o ganlyniad ni chyfansoddodd ddim o werth parhaol. Yn 1894 etholwyd ef yn archdderwydd ac o bosibl mai ar bwys y swydd hon y cofir amdano fwyaf. Credai'n ddiysgog yn hynafiaeth gorsedd y beirdd ac ymboenodd fwy na mwy er ceisio ei diwygio. Cyhoeddodd ddwy gyfrol o'i waith barddonol.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.