Ganwyd 7 Rhagfyr 1807 yn Llanidloes, Sir Drefaldwyn. Dechreuodd astudio cerddoriaeth yn 10 oed, a chafodd ychydig wersi gan William Owen, Drefnewydd, a thrwy astudio'r gwerslyfrau cerddorol daeth yn gerddor da. Ei gyfraniad pwysig i gerddoriaeth Cymru oedd dwyn allan, yn 1846, Y Salmydd Cenhedlaethol, yn cynnwys salm-donau, tonau, a darnau corawl cysegredig wedi eu dethol o weithiau Handel, Haydn, Mozart, Beethoven, Kent, Farrant, ac eraill. Dyma'r llyfr cyntaf a gafodd y genedl o gerddoriaeth y meistri. Ynddo hefyd y ceir y dôn 'Llandinam,' 8.7.4., o drefniant 'Hafrenydd' dan yr enw 'Erpingham.' Ar y 40 tudalen olaf o'r llyfr ceir hyfforddiant cerddorol dan yr enw 'Trefn Wilhelm i ddysgu Canu.' Yn 1852 dug allan Ceinion Cerddoriaeth, yn cynnwys 220 o donau, a 70 o anthemau a chytganau o weithiau y meistri. Ar ddiwedd y Ceinion ceir Geirlyfr Cerddorol a ddygwyd allan wedi hynny yn llyfr ac a fu o wasanaeth mawr i gerddorion Cymru ddeall y termau cerddorol Eidaleg, etc. Cyhoeddodd hefyd Hymnau Nadolig, Y Rheol Gristnogol am Briodas, Y Gwirionedd a Chyfeiliorniad. Derbyniodd swm o arian gan y Llywodraeth yn gydnabyddiaeth am ei wasanaeth i gerddoriaeth a llenyddiaeth. Bu farw 16 Rhagfyr 1894 a chladdwyd ef ym mynwent eglwys Llanidloes.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.