WILLIAMS, THOMAS (Soranus, 1818-1865), meddyg a gwyddonydd

Enw: Thomas Williams
Ffugenw: Soranus
Dyddiad geni: 1818
Dyddiad marw: 1865
Rhiant: John Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: meddyg a gwyddonydd
Maes gweithgaredd: Meddygaeth; Gwyddoniaeth a Mathemateg
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yn 1818 yn fab i'r Parch. John Williams, ficer Llandyfrïog, Ceredigion. Aeth i Lundain i astudio meddygiaeth; enillodd wobr y R.C.S. yn 1843 am draethawd ' The Structure and Functions of the Lungs '; cafodd ei M.D. yn 1845. Wedi bod am amser yn ddarlithydd mewn anatomeg yn Guy's Hospital, ymsefydlodd yn Abertawe fel meddyg, a daeth i fri mawr yno. Ar hyd y cyfnod o 1841 hyd 1858 bu'n cyfrannu papurau i gylchgronau meddygol a gwyddonol yn Llundain. Cyhoeddodd yn Abertawe ddau bamffled, A Sketch of the Relation … between the Three Kingdoms of Nature, 1844, a The Science and Scientific Men of Wales, 1855, heblaw adroddiad (1854) ar effeithiau mwg y gweithfeydd copr. Etholwyd ef yn F.R.S. yn 1858. Bu farw 23 Mai 1865.

JOHN ROBERT WILLIAMS (bu farw 1852), offeiriad

Brawd Thomas Williams. Offeiriad cyntaf yr eglwys Gymraeg a sefydlwyd yn Ely Place, Llundain, yn 1843, trwy ymdrechion ail Gymdeithas y Cymmrodorion. Ymfudodd i America, a bu farw yn New York yn 1852.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.