Ganwyd yn ardal Maentwrog, Sir Feirionnydd, 22 Tachwedd 1768, a'i fedyddio yn eglwys Ffestiniog. Cyhoeddwyd llu o englynion, cywyddau, awdlau, ac emynau o'i waith mewn cylchgronau - Seren Gomer, 1823-35, Y Dysgedydd, 1823-31, Y Gwyliedydd, 1824, Tywysog Cymru, 1832-3, Y Gwladgarwr, 1834-5. Bu'n fardd Cymdeithas Cymreigyddion Llanfair, Sir Feirionnydd (1823), a chymdeithas Maentwrog (1825). Enillodd dlws Cymdeithas Cymreigyddion Llundain yn 1834 am gywydd. Yr oedd yn byw yn Garth Gwyn, plwyf Maentwrog. Bu farw yn Tŷ Nant yn yr un plwyf, 11 Awst 1836, a chladdwyd ym mynwent capel y Bedyddwyr Albanaidd, Ramoth, plwyf Llanfrothen, lle y buasai yn aelod.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.