Ganwyd yn Nhan-y-coed, Penllin, bro Morgannwg, 30 Rhagfyr 1817, mab Evan Williams. Addysgwyd ef yn ysgol yr Eryr, y Bont-faen. Derbyniwyd ef yn aelod ym Mhenllin yn 18 oed, a dechreuodd bregethu yn 21 oed. Bu'n cadw ysgol am dymor ym Mrynsadler a'r Brychtwn, a bu mewn masnach wedyn yn y Bont-faen. Cafodd alwad i Benclawdd, Browyr, yn 1844, ac ordeiniwyd ef yn sasiwn Penybont-ar-Ogwr, 1848. Aeth i eglwys Saesneg Bethany, Abertawe, yn 1851, ac ar wahân i dymor o bum mlynedd yng Nghrughywel yno y bu weddill ei oes. Bu farw 10 Tachwedd 1900. Bu'n bregethwr poblogaidd ar hyd ei oes, ond fel awdur y disgleiriodd. Ei lyfr cyntaf oedd Y Puritaniaid (Dinbych, 1860); ac wedyn A Memoir of Wm. Griffiths, Gower (London 1863). Ef, nid hwyrach yw'r 'William Williams, Crughywel' a gyhoeddodd Gair at y Prophwydi (Holywell) yn 1870. Ei brif waith llenyddol yw Welsh Calvinistic Methodism (London, 1872, ail arg. 1884), cyfrol a ddengys gryn allu hanesyddol. Bu'n olygydd Y Cylchgrawn , 1851-5, a cheir llawer o'i ysgrifau (crynnifer ohonynt yn ymdrin â hanes Methodistiaeth Morgannwg) yn Y Drysorfa, Y Traethodydd, a'r Geninen; y maent yn ddifyr a darllenadwy.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.