WILLIAMS, WILLIAM (1832-1900), meddyg anifeiliaid

Enw: William Williams
Dyddiad geni: 1832
Dyddiad marw: 1900
Plentyn: William Owen Williams
Rhiant: William Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: meddyg anifeiliaid
Maes gweithgaredd: Addysg; Natur ac Amaethyddiaeth
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd ym mhlwyf Cefn Meiriadog, ger Llanelwy, yn fab i William Williams, ac yn ŵyr i Thomas Williams, ' ffarier ' o gryn enw. Aeth yntau i'r un alwedigaeth â'i daid, yn 17 oed, ond torrodd ei iechyd yn 20 oed ac aeth i Awstralia am dair blynedd. Wedyn, aeth i Dick's Veterinary College yn Edinburgh. Dechreuodd yn 1857 ar yrfa lwyddiannus iawn yn Bradford, ac yn 1866 penodwyd ef yn brifathro ei hen goleg; eithr tua 1871 sefydlodd y 'New Veterinary College' yn Edinburgh. Ystyrid ef yn awdurdod yn ei alwedigaeth: bu'n llywydd (1879-80) y R.C.V.S.; a chyhoeddodd lyfrau safonol ar ei bwnc. Bu farw yn 1900. Mab iddo, a aned yn Bradford yn 1860, oedd

WILLIAM OWEN WILLIAMS (1860 - 1911), AddysgNatur ac Amaethyddiaeth

a astudiodd yng ngholeg ei dad ac ym Mharis, ac a fu'n athro ac wedyn (1900) yn brifathro yn y ' New Veterinary College '; yn 1903 penodwyd ef yn feddyg i'r stablau brenhinol. Yn 1904 etholwyd ef i gadair meddygiaeth a llawfeddygiaeth anifeiliaid ym Mhrifysgol Lerpwl. Bu farw 7 Medi 1911.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.