brodor o Sir Gaernarfon. Derbyniwyd ef yn aelod o Goleg Brenhinol y Llawfeddygon yn 1843, daeth yn L.S.A. yn 1844, ac enillodd radd M.D. ym Mhrifysgol S. Andrews yn 1847. Etholwyd ef yn gymrawd o'r Coleg Meddygol a Llawfeddygol Brenhinol, ac am beth amser bu'n feddyg yn ysbyty Môn ac Arfon. Ar ôl ymarfer am ysbaid yng Nghaernarfon, symudodd i Lundain. Ef oedd awdur Cancer of the Uterus and Other Parts (Llundain, 1868); cyfrannodd hefyd erthyglau lluosog i'r cylchgronau meddygol. Ei gyfraniad mwyaf gwerthfawr i feddygiaeth oedd cymeradwyo iodin fel gwrth-heintydd a bromin er trin cancr. Cymerodd hefyd ddiddordeb byw mewn llenyddiaeth Gymraeg a hynafiaeth Geltaidd. Ysgrifennodd Descriptions of British and Druidical Remains in the neighbourhood of Caernarvon a King Arthur's Well, Llanddeiniolen, near Caernarvon - a chalybeate spring, with directions for its use; ymddangosodd cyfieithiad Cymraeg hefyd o'r gwaith olaf. Bu farw 15 Tachwedd 1886 yn 67 mlwydd oed, a chladdwyd ef ym mynwent Paddington ar 19 Tachwedd.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/