WILSON, JOHN (1626-c.1695/6), dramodydd

Enw: John Wilson
Dyddiad geni: 1626
Dyddiad marw: c.1695/6
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: dramodydd
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Cecil John Layton Price

Bedyddiwyd yn S. Stephen, Walbrook, Llundain, 27 Rhagfyr 1626, mab hynaf Aaron a Marie Wilson. Ganed

AARON WILSON

yng Nghaerfyrddin yn 1586, derbyniwyd ef i Goleg y Frenhines, Rhydychen, 1601, graddiodd yn 1611, a daeth yn offeiriad S. Stephen, Walbrook, yn 1625. Yr oedd yn Frenhinwr cadarn a daeth i wrthdarawiad â phobl Plymouth pan ddewiswyd ef yn archddiacon Exeter ac yn ficer Plymouth yn 1633/4. Cymerwyd ef i'r ddalfa gan gorfforaeth Plymouth pan dorrodd y Rhyfel Cartrefol allan a'i anfon yn garcharor i Portsmouth. Aeth yn wael yno eithr yn Exeter y bu farw ar 4 Gorffennaf 1643. Aeth ei fab,

JOHN WILSON,

i Goleg Exeter, Rhydychen, 5 Ebrill 1644, i Lincoln's Inn, 1646, a dyfod yn fargyfreithiwr 10 Tachwedd 1652. Yr oedd yntau yn Frenhinwr brwd. Dewiswyd ef yn gofiadur Londonderry 20 Rhagfyr 1666; fel ei dad eto, methodd yntau gyd-dynnu â'r gorfforaeth. Yr oedd yn fwy o lwyddiant fel awdur nag fel swyddog cyhoeddus. Heblaw ei ddramau, cyfieithodd Moriae Encomium (Erasmus) yn 1668 a chyhoeddodd ddau draethawd gwleidyddol - A Discourse on Monarchy, 1684, a Jus Regium Coronae, 1686?). Daeth yn fwyaf adnabyddus fel awdur dwy gomedi - The Cheats, 1662, a The Projectors, 1665, a dwy drasiedi - Andronicus Comnenius, 1664, a Belphegor, 1690. Bu The Cheats yn boblogaidd iawn a pharhawyd i'w chwarae hyd ddiwedd y ganrif. Yn nhrydedd olygfa y drydedd act ceir llawer o gyfeiriadau at y Cymry ynghyd â'r ymadrodd od hwn - ' I suckt a Welch Nurse, and soe by a Synecdoche may be calld a Welch Man.'

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.