Ganwyd gerllaw Hwlffordd, 3 Tachwedd 1844. Pan oedd yn ieuanc symudodd y teulu i Bontlotyn, a bu yntau am gyfnod yn gweithio yn y gwaith glo. Derbyniwyd ef i'r weinidogaeth Wesleaidd yn 1868, a bu'n gwasnaethu cylchdeithiau Caerfyrddin (1868), Aberystwyth (1869-71), Machynlleth (1872), Merthyr Tydfil (1873-5), Aberdâr (1876-8), Llanidloes (1879-81), Caerdydd (1882-4), a Ferndale (1885-7). Etholwyd ef yn gadeirydd talaith Deheudir Cymru yn 1880. Pleidiai'r cynllun o uno Wesleaeth Gymraeg a Wesleaeth Saesneg y Deau, 'amalgamation' fel y'i gelwid - a phan ganfu mor gyndyn oedd gwrthwynebiad ei gyd- Gymry yn y dalaith iddo, aeth drosodd i'r gwaith Saesneg. Wedi tymor ar gylchdaith Saesneg Loudoun Square, Caerdydd (1888-90), bu ar rai o gylchdeithiau pwysicaf Lloegr. Cymerth ran flaenllaw ynglŷn â dirwest ac addysg (yn enwedig ynglŷn â sefydlu Coleg Caerdydd), a dywedir iddo ddangos dawn arbennig fel trefnydd ar ei gylchdeithiau. Yn 1893 cyhoeddodd hanes Wesleaeth yng Nghymru, The Origin and History of Methodism in Wales; gweler hefyd Proc. Wesley Hist. Soc., ix. Bu farw ym Margate, 4 Awst 1913.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.