BEYNON, WILLIAM ('BILL') (1891 - 1932), paffiwr

Enw: William Beynon
Dyddiad geni: 1891
Dyddiad marw: 1932
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: paffiwr
Maes gweithgaredd: Chwaraeon a Gweithgareddau Hamdden
Awdur: Moelwyn Idwal Williams

Ganwyd yn Port Talbot, a bu yn byw yn ddiweddarach yn Llangynwyd, Morgannwg. Bu Beynon yn paffio yn gyson o 1912 hyd 1918, ac yn ystod y cyfnod hwnnw ymladdodd â'r paffwyr blaenaf yn Ewrop ac America. Ei gampwaith mwyaf oedd yn 1913 pan enillodd fuddugoliaeth yn erbyn 'Digger Stanley' am y teitl o bencampwr Prydeinig ('bantam'), a hefyd am y 'Lonsdale Belt.' Yn ddiweddarach y flwyddyn honno enillodd Stanley y teitl yn ôl oddi wrth Beynon.

Cafodd Beynon ei ladd gan gwymp yn y pwll glo yn y Bryn, ger Port Talbot, ar 20 Gorffennaf 1932.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.