BOOTS, JOHN GEORGE (1874 - 1928), chwaraewr pêl droed (Rygbi)

Enw: John George Boots
Dyddiad geni: 1874
Dyddiad marw: 1928
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: chwaraewr pêl droed (Rygbi)
Maes gweithgaredd: Chwaraeon a Gweithgareddau Hamdden
Awdur: Moelwyn Idwal Williams

Ganwyd 2 Gorffennaf 1874 yn Aberbîg, Mynwy. Dros Aberbîg (1890) y chwaraeodd gyntaf, ond yn 1895 ymunodd â thîm Casnewydd, fel blaenwr, a bu yn y tîm hwnnw am 27 mlynedd - bu'n ddiweddarach yn chwarae dros Cross Keys a thros y Pill Harriers, ac ar dro dros Blackheath. Anaml dros ben y gwelwyd gyrfa gyhyd ar y maes chwarae, a llysenwid ef yn ' Peter Pan.' Rhwng 1898 a 1904 cynrychiolodd Gymru 16 o weithiau. Bu farw 30 Rhagfyr 1928.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.