GOULD, ARTHUR JOSEPH (1864-1919), chwaraewr pêl droed (Rygbi)

Enw: Arthur Joseph Gould
Dyddiad geni: 1864
Dyddiad marw: 1919
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: chwaraewr pêl droed (Rygbi)
Maes gweithgaredd: Chwaraeon a Gweithgareddau Hamdden
Awdur: Moelwyn Idwal Williams

Ganwyd yng Nghasnewydd 10 Hydref 1864, yn un o deulu nodedig mewn mabolgampau a chyda'r bêl droed - bu yntau'n chwarae dros Gasnewydd mor gynnar â'r 16 oed; ac o hynny hyd 1898 daliodd ati. Cefnwr oedd ar y cychwyn - bu'n gefnwr dros Gasnewydd am dri thymor, ac fel cefnwr y cafodd ei ' gap ' cyntaf dros Gymru. Ond fel canolwr y daeth yn wir enwog. Bu'n cynrychioli Cymru gynifer â 27 o weithiau, rhwng 1885 a 1897. Yr oedd yn hynod chwim ei droed, ac yn sgoriwr uchel - am gryn amser, ganddo ef yr oedd y 'record' o 44 o 'geisiau' mewn un tymor, yn erbyn y clybiau pwysicaf yn y Deheudir. Gyda chlwb Casnewydd y bwriodd y rhan fwyaf o'i yrfa, ond bu hefyd yn chwarae dros Richmond (1886-7) a Middlesex (1887-8). Fel rhedegwr, hefyd, yr oedd iddo fri mawr. Bu farw 2 Ionawr 1919; y mae gwely coffa iddo yn Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd.

Brawd (hynaf) iddo oedd ROBERT GOULD (1864? - 1932), blaenwr, a fu'n chwarae dros Gasnewydd o 1879 hyd 1889, ac a gynrychiolodd Gymru 11 o weithiau rwng 1882 a 1887; bu farw 29 Rhagfyr 1932.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.