JONES, THOMAS MORRIS ('Gwenallt '; 1859 - 1933), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, llenor a newyddiadurwr

Enw: Thomas Morris Jones
Ffugenw: Gwenallt
Dyddiad geni: 1859
Dyddiad marw: 1933
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, llenor a newyddiadurwr
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: David Myrddin Lloyd

Ganwyd yn nhref Caernarfon. Wedi'r ysgol elfennol fe'i prentisiwyd yn swyddfa'r Herald, ond oddeutu 20 oed dechreuodd bregethu. Bu yn ysgol Clynnog a Choleg y Bala. Ordeiniwyd ef yn 1887. Bu'n weinidog ym Magillt (1885-9), Penmachno (1889-99), Bethlehem, Bae Colwyn (1899-1911), ac yng Ngwespyr a Gronant (1911-33). Bu farw mewn ysbyty yng Nghaer, 21 Ionawr 1933, a'i gladdu ym mynwent Coed Bell, Gronant, ar 25 Ionawr. Tra oedd yn weinidog ym Magillt priododd a merch Thomas Roberts, swyddog elusennol; cawsant fab a dwy ferch. Sgrifennodd T. M. Jones lawer i gylchgronau a newyddiaduron Cymru, ond fe'i cofir yn arbennig am ddau lyfr: Llenyddiaeth fy Ngwlad, sef hanes y newyddiadur a'r cylchgrawn Cymraeg (Holywell, 1893), a Cofiant y Parch. Roger Edwards, yr Wyddgrug (Gwrecsam, 1908). Bu'n fuddugol yn yr eisteddfod genedlaethol yn 1890 ac yn 1891 am draethodau ar y Wasg Gymraeg ac ar y newyddiadur a'r cylchgrawn. Bu hefyd yn gyd- awdur â'r Parch. T. Parry ar y gyfrol Hanes dechreuad a chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Ngholwyn Bay a'r cylch (Dolgellau, 1909).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.