JONES, THOMAS (1871 - 1938), ysgolfeistr a hynafiaethydd

Enw: Thomas Jones
Dyddiad geni: 1871
Dyddiad marw: 1938
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ysgolfeistr a hynafiaethydd
Maes gweithgaredd: Addysg; Hanes a Diwylliant
Awdur: William Rosser Jones

Ganwyd 10 Hydref 1871 yn Pontrhydfendigaid, Sir Aberteifi. Ar ôl cael addysg yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, bu'n athro ysgol, gan dreulio blynyddoedd lawer yn ysgolfeistr ysgol Trealaw, Dyffryn Rhondda, Sir Forgannwg. Ymddiddorodd yn hanes y Rhondda ac arweiniodd hyn ef i astudio hanes (yn enwedig enwau lleoedd, llên-gwerin, etc.) cylchoedd eraill. Ysgrifennodd gyfres o erthyglau i'r Brython (Lerpwl) ar lên-gwerin Morgannwg a chynullodd hefyd eirfa i dafodieithoedd y sir. Cyhoeddwyd yn Bulletin Bwrdd Gwybodau Celtaidd Prifysgol Cymru ei ' Bibliography of Monographs on the Place-Names of Wales ' (v, 249-64; vi, 171-8) a ' Bibliography of the Dialects of Wales ' (vi, 323-44; vii, 134-6). Bu farw 21 Ionawr 1938.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.