PHILIP AP RHYS (fl. 1530), organydd a chyfansoddwr

Enw: Philip ap Rhys
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: organydd a chyfansoddwr
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth
Awdur: Dennis William Stevens

nad oes gennym ond tri o'i weithiau, a gynhwysir yn Add. MS. 29996 yn yr Amgueddfa Brydeinig. Gan eu bod yn digwydd yn rhannau cyntaf oll y llawysgrif, ni allant fod yn ddiweddarach na hanner cyntaf y 16eg ganrif. Ni wyddys ddim am dras na gyrfa'r cyfansoddwr, ond yn berffaith amlwg yr oedd yn Gymro; ar gefn y ddalen 28 o'r llawysgrif fe'i gelwir yn ' Phelyppe Apprys,' ar y ddalen 34 yn ' Phelype Aprys,' ar gefn 41 yn ' Phyllype Apryce,' ac ar gefn 6 yn 'P.R.' Ar 28 disgrifir ef fel ' off Saint Poulles, in London '; yr oedd yno pan oedd yr ysgol Duduraidd o organyddion ar ei huchafbwynt.

Serch mai ychydig o'i waith sydd ar gael, y mae iddo le hollol ar ei ben ei hun ymysg ei gyd-organyddion, oblegid cyfansoddodd offeren i'r organ, na lwyddwyd hyd yn ddiweddar iawn i'w hedfryd. Hon yn wir yw'r unig enghraifft Brydeinig o'i bath, er bod y cyfryw offerennau'n gyffredin ar y Cyfandir o tua 1425 hyd ddiwedd y 17eg ganrif - y mae digonedd o enghreifftiau yn Ffrainc, yr Almaen, a'r Eidal, ac yn wir nid yw offeren Philip ap Rhys yn gwahaniaethu rhyw lawer oddi wrth offerennau cyffelyb ei gyfoeswyr Cyfandirol. Y rhannau o'r offeren a 'osododd' ef yw'r ' Kyrie,' y ' Gloria,' yr Offrwm, y ' Sanctus ' a'r ' Benedictus,' a'r ' Agnus Dei ' - yr union gynllun ag a fabwysiadwyd gyhyd ar y Cyfandir. Ymddengys mai ar gyfer Sul y Drindod y cyfansoddodd ei offeren, oblegid yn is-deitl i'r Offrwm ynddi fe geir ' in die Sanctae Trinitatis,' ac y mae'r seilgan yr adeiladodd ef ei wrthbwynt arni'n cyfateb i'r Offrwm ' Benedictus sit Deus Pater ' a genir ar yr ŵyl honno. Trefnodd y gweddill o'i offeren yn eiliadau o organ a phlaen-gân - amrywia manylion yr eilio'n fawr oddi wrth ddulliau cyfansoddwyr y Cyfandir.

Ei ddau waith arall sydd gennym yw gosodiad o'r anthem ' Miserere mihi Domine ' ac o'r Offrwm ' Felix namque.' Gyda'i gilydd, rhydd y gweithiau hyn syniad digonol o'i alluoedd fel cyfansoddwr ac fel organydd, a dangos ei fod yn enghraifft deilwng o genhedlaeth ddisglair o gerddorion y cyfnod Tuduraidd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.