Ganwyd Cayo Evans ar 22 Ebrill 1937 yng Nglandenys, Silian, plasty wrth ymyl y ffordd fawr ddwy filltir i'r gorllewin o Lanbedr Pont Steffan. Roedd ei dad, John Cayo Evans (1879-1958) yn Athro Mathemateg yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan a bu'n Uchel Sirydd Sir Aberteifi yn ystod 1941-42. Ei fam oedd Freda Cayo Evans (ganwyd Cluneglas) o Gellan, Ceredigion.
Fe'i haddysgwyd yn ysgol fonedd Millfield yng Ngwlad yr Haf, lle y daeth o dan ddylanwad ei Feistr Tŷ, Yanick Helkzman o Wlad Pwyl, cyn-filwr a chenedlaetholwr pybyr a oedd wedi ymladd yn erbyn yr Almaenwyr a'r Rwsiaid. Hwnnw, yn anad neb, wnaeth ei droi yn elyn digyfaddawd i'r sefydliad Prydeinig. Yn 1955, yn ddeunaw oed, fe'i consgriptiwyd i wasanaethu gyda Chyffinwyr De Cymru a bu'n rhan o'r brwydro yn erbyn herwfilwyr Comiwnyddol yn y Dwyrain Pell adeg ymgyrch a gâi ei adnabod fel Argyfwng Malaya. Wedi i'w dymor o wasanaeth cenedlaethol ddod i ben, treuliodd gyfnod yng Ngholeg Amaeth Cirencester cyn dychwelyd adref i ganolbwyntio ar fridio ceffylau Palomino ac Appaloosa ym Mridfa Glandenys. Priododd â Gillianne Mary Davies o Langeitho yn 1966, a bu un ferch a dau fab o'r briodas, Dalis (ganwyd 1966), Rhodri (ganwyd 1967) a Iestyn (1969-1993). Ysgarwyd hwy yn 1975.
Radicaleiddiwyd Cayo yn y 1960au cynnar, hynny'n arbennig gan foddi Capel Celyn. Ar ddiwrnod agoriad argae Tryweryn ar 21 Hydref 1965 y gwelwyd aelodau o Fyddin Rhyddid Cymru (Free Wales Army) yn eu lifrai yn gyhoeddus am y tro cyntaf. Roedd Cayo yn un o naw o brif ffigurau'r fyddin a arestiwyd ym mis Chwefror 1969. Yn dilyn achos a barhaodd am 53 diwrnod ac a ddaeth i ben ar union ddiwrnod yr Arwisgo, 1 Gorffennaf 1969, cafwyd Cayo a dau arall yn euog o droseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus, gan gynnwys gwisgo lifrai anghyfreithlon, ac fe'u carcharwyd am 15 mis.
Er gwaethaf eu hagwedd fygythiol, bodolai'r FWA ar heip yn fwy na thrais. Gwisgent lifrai gwyrdd a dyfeisiodd Cayo fathodyn wedi ei seilio ar gynllun Eryr Gwyn Eryri. Gorymdeithient mewn ralïau a chynhalient wersylloedd ymarfer mewn mannau anghysbell, hynny'n aml ym mhresenoldeb y wasg a'r cyfryngau.
Cydoesai'r FWA â Mudiad Amddiffyn Cymru. Yn annibynnol i'w gilydd, tynnai propaganda'r FWA sylw'r awdurdodau oddi ar MAC. Hynny a fu'n gyfrifol am i MAC lwyddo i ffrwydro gwahanol dargedau yn anhysbys gyhyd. O ganlyniad i ddawn Cayo i greu propaganda, gwahoddwyd ef a rhai o'i gyd-aelodau i ymddangos ar raglen deledu David Frost yn 1967. Ffilmiwyd hwy hefyd gan griw teledu o Israel. Yn wir, dengys dogfennau a ryddhawyd yn 1999 y bu am y dim i'w cyhoeddusrwydd hwy, ochr yn ochr â gweithgareddau cudd MAC, arwain at ganslo'r Arwisgo. Ond canlyniad yr holl gyhoeddusrwydd fu i'r awdurdodau ddefnyddio'r heip hwnnw fel tystiolaeth ar gyfer erlyn yr FWA.
Daeth Cayo allan o'r carchar i ail-gydio yn ei fusnes bridio ceffylau, ond parhaodd yn amlwg fel actifydd gwleidyddol hefyd. Yn wahanol i'r rhelyw o'i gyd-aelodau o Fyddin Rhyddid Cymru, safai ar y dde'n wleidyddol. Yn wir, un o'i arwyr oedd y Cadfridog Franco. Roedd yn ffyrnig o wrthwynebus i'r Chwith, hynny, mae'n debyg, o ganlyniad i'w brofiadau o ymladd ym Malaya yn erbyn y Comiwnyddion.
Safai Cayo allan ymhob cynulliad gyda'i wisg hen-ffasiwn yn cynnwys cot hir, trowser tynn a sgidiau cowboi. Ble bynnag yr âi, fe wnâi ddenu torf o'i gwmpas. Perthynai iddo ddawn y Cyfarwydd gyda'i hanesion lliwgar, blodeuog.
Bu farw'n sydyn ar 28 Mawrth 1995 o ganlyniad i aflwydd ar y galon. Pan gladdwyd ef ym Mynwent Silian daeth cannoedd ynghyd yn cynnwys nifer o heddlu cudd a oedd wedi eu hysbysu y câi dryll ei danio dros yr arch, yn nhraddodiad angladdau aelodau o'r IRA. Yn hytrach cerddodd gŵr ifanc at lan y bedd gydag acordion a chwaraeodd nodau'r 'Cuckoo Waltz', hoff alaw Cayo.
Mae Cayo'n parhau i fod yn gymeriad chwedlonol. Yn 2000 fe wnaeth Bragdy Tomos Watkin ail-enwi Gwesty'r Apollo yng Nghaerdydd yn 'The Cayo Arms'. Roedd yn gerddor medrus ar yr acordion, ac yn 2008 cyhoeddodd Recordiau Anhrefn gryno ddisg dan y teitl 'Marching Songs of the Free Wales Army' (Anhrefn 018) a gasglwyd o blith tapiau a recordiwyd wrth iddo berfformio caneuon gwladgarol mewn gwahanol dafarndai. Yn 2003-04 cyhoeddwyd canlyniad pleidlais genedlaethol ar y dewis o 100 o brif arwyr Cymru. Cyrhaeddodd Cayo rif 33.
Dyddiad cyhoeddi: 2016-03-16
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.