Ganwyd William Condry, neu Bill fel y'i hadnabyddid yn aml, yn Birmingham ar 1 Mawrth 1918, yn fab i Joseph Condry, gemydd, a'i wraig Agnes. Roedd ei rieni'n Glarionyddion, yn heddychwyr ac yn aelodau gweithgar o'r Blaid Lafur Annibynnol. Roedd ganddo frawd, Dennis, a chwaer, Kathleen (a fu farw'n 104 oed).
Astudiodd Condry ym Mhrifysgol Birmingham lle enillodd radd BA mewn Ffrangeg, Lladin a Hanes yn 1939 a Diploma mewn addysg yn 1940. Yn ystod y rhyfel bu'n wrthwynebydd cydwybodol a gweithiodd mewn coedwigaeth yn Swydd Henffordd. Yn 1945 cafodd radd BA (Anrh.) mewn Ffrangeg ym Mhrifysgol Llundain, ac wedyn MA mewn Ffrangeg o Brifysgol Cymru yn 1951. Dyfarnodd Prifysgol Cymru MSC er anrhydedd iddo yn 1980. Bu'n ddarlithydd allanol i'r Brifysgol o 1949 hyd 1959. Roedd ei wybodaeth enfawr am fyd natur yn ffrwyth hunan-addysgu a heb fawr o gyswllt â'i hyfforddiant academaidd.
Ar ôl y rhyfel priododd Condry â Penny yn Ebrill 1946 yn nyffryn Nantmor yn Eryri. Ni bu plant o'r briodas. Aethant i Geredigion wedyn i fyw ym Mwlch-gwair (uwchben Ponterwyd) ac yn Nhal-y-bont, ac yna i Feirionnydd yn Nglygyrog-ddu (yn uchel ar y bryniau rhwng Aberdyfi a Phennal). Yn y pen draw daethant yn ôl i Geredigion i Felin-y-cwm (yng Nghwm Einion uwchben Ffwrnais) ac o'r diwedd i Ynys Edwin ar aber Afon Dyfi. Roedd Ynys Edwin yn rhan yn wreiddiol o ystad Ynys-hir a fu'n eiddo i Hubert Mappin (o'r cwmni gemwaith enwog Mappin & Webb). Ar ôl i Mappin farw ym 1966, anogodd Condry ei weddw Patricia i werthu'r rhan fwyaf o'r tir i'r Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB) i'w droi'n warchodfa natur, gan gyflawni dymuniad Mappin. Condry oedd warden cyntaf y warchodfa o 1969 hyd 1982.
Bu Condry yn athro rhan-amser yn Ysgol Lapley Grange a fu yn Ffwrnais o 1949 hyd 1959. O 1947 hyd 1956 bu'n warden natur Canolbarth Cymru ar gyfer Cymdeithas Natur Gorllewin Cymru gynt, ac o 1950 hyd 1954 ef oedd golygydd Field Notes y Gymdeithas, cylchgrawn a ddaeth, yn 1955, yn Nature in Wales, eto dan olygyddiaeth Condry gyda dau arall. Am gyfnod o 42 mlynedd bu'n weithgar iawn yn y Gymdeithas a'r cyrff a'i dilynodd, Ymddiriedolaeth Naturiaethwyr Gorllewin Cymru ac Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gorllewin Cymru, gan wasanaethu ar bwyllgor cadwraeth Ceredigion ar gyfer y ddau gorff hyd 1991. Bu hefyd yn Llywydd ar Ymddiriedolaeth Naturiaethwyr Gogledd Cymru. Yn 1953 roedd yn un o sylfaenwyr y Bardsey Bird & Field Observatory, a daeth yn Ysgrifennydd Anrhydeddus iddo am wyth mlynedd, ac yna'n Llywydd, ac yn y diwedd yn Llywydd Anrhydeddus am Oes yn 1990. Yn 1949 roedd yn un o sylfaenwyr Pwyllgor y Barcud (a ffurfiwyd i warchod y barcud coch a oedd yn brin yng Nghymru yr adeg honno), ac yn 1965 dyfarnwyd Medal Arian yr RSPB iddo am wasanaeth i warchodaeth adar yng Nghymru.
Ar ôl gorffen ei yrfa fel athro, rhoddodd Condry ei holl amser i waith naturiaethol, cadwraeth ac ysgrifennu. Mewn teyrnged iddo yn 1998, fe'i disgrifiwyd gan y Daily Telegraph fel un o'r ysgrifenwyr gorau am fyd natur yn yr ugeinfed ganrif. Ysgrifennodd 14 o lyfrau mawr, gan gynnwys dau yn y gyfres fawr ei bri Collins New Naturalist Series, sef The Snowdonia National Park (1966) a The Natural History of Wales (1981), ei weithiau mwyaf sylweddol mae'n debyg. Cyhoeddiadau eraill ganddo am Gymru oedd Exploring Wales (1970), Snowdonia (1987), Wales, the National Trust (1991) a Welsh Country Essays (1996). Mae Wildflower Safari, the Life of Mary Richards (1998) yn gofiant i'r botanegydd o Feirionnydd a ddaeth yn un o gasglwyr blodau mwyaf Kew yn Affrica drofannol. Ysgrifennodd Condry hunangofiant, Wildlife - My Life, a gyhoeddwyd yn 1995. Roedd yn ffotograffydd bywyd gwyllt medrus ac mae llawer o'i lyfrau'n cynnwys ei luniau ei hun. Yn ogystal â'i lyfrau, lluniodd gyfraniadau niferus i gyhoeddiadau fel Country Life a The Countryman, ac roedd yn ddarlledwr ac yn ddarlithydd poblogaidd. Camp hynod ganddo oedd cyfrannu'r golofn 'Country Diary' i'r Guardian bob yn ail wythnos am 41 o flynyddoedd (1957-98), gyda'r olaf yn ymddangos y diwrnod y bu farw. Ystyrid Condry yn un o'r dyddiadurwyr cefn gwlad gorau ym Mhrydain, a chyhoeddwyd detholiad o'i erthyglau, Welsh Country Diary, gan wasg Gomer yn 1993.
Mae gwaith gorau Condry yn darlunio byd natur yn fyw iawn, a hynny ar sail profiad personol a dealltwriaeth wyddonol. Byddai'n ychwanegu ambell sylw coeglyd weithiau, ond gwyliwr gwrthychol ydoedd bob amser, ac ni fyddai fyth yn defnyddio natur i adlewyrchu neu i ddwysáu ei deimladau ei hun. Yn ei ysgrifau arweiniodd ddarllenwyr i weld, i ddeall ac i barchu byd natur mewn ffordd a fu'n llesol tu hwnt i astudiaethau natur a chadwraeth. Ac felly hefyd yn ei ysgrifau topograffyddol a hanesyddol am Gymru, llwyddodd i ennyn yr un cydymdeimlad a dealltwriaeth. Ei batrwm yn ei lên yn ogystal ag yn ei fywyd oedd Henry David Thoreau, pwnc ei lyfr cyntaf, Thoreau (1954). Roedd Condry yn ŵr swynol, doniol a diymhongar, gydag argyhoeddiad tawel ynghylch materion o egwyddor neu gadwraeth, a daeth ei agwedd at fyd natur yn esiampl i'w dilyn gan lawer o bobl.
Bu farw William Condry o fethiant yr arennau yn Ysbyty Treforus, Abertawe ar 30 Mai 1998, yn 80 oed. Amlosgwyd ei gorff yn Aberystwyth ar 8 Mehefin a gwasgarwyd ei ludw ar un o'i hoff fynyddoedd, Cadair Idris. Byddai'n ymweld â'r mynydd hwnnw bron bob blwyddyn yn gynnar yn y gwanwyn i weld ei hoff dormaen glasgoch yn ei flodau.
Dyddiad cyhoeddi: 2015-07-15
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.