Ganwyd Haydn Davies yn Llanelli ar 22 Ebrill 1912. Addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg Llanelli a Choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth.
Haydn Davies oedd un o'r wicedwyr gorau na chwaraeodd i Loegr. Torrwyd ar draws ei yrfa gan yr Ail Ryfel Byd pan wasanaethodd fel capten yn y Magnelau Brenhinol. Fe'i dewiswyd i chwarae yn y Gêm Ragbrawf yn 1946, ond yn anffodus roedd ei yrfa yn cyd-daro gydag un Godfrey Evans a fu'n aelod rheolaidd o dîm Lloegr am nifer o flynyddoedd.
Chwaraeodd am y tro cyntaf i Forgannwg yn 1935, a chyflwynwyd iddo ei gap sirol yn 1938. Yn 1939 daliodd saith batiwr yn y gêm a gynhaliwyd ar Ŵyl y Banc yn erbyn India'r Gorllewin, a chyfrannodd at gipio wicedi chwe batiwr mewn un batiad yn y gêm yn erbyn swydd Gaerlŷr. Chwaraeodd ym mhob gêm bencampwriaeth rhwng 1947 ac 1957, gan ymddangos mewn 254 gêm yn olynol, ac yn achlysurol bu'n gapten tîm Morgannwg yn ystod absenoldeb Wilf Wooller. Er gwaethaf ei gorff trwchus a'i osgo a ymddangosai'n lletchwith, gan arwain at ei alw'n 'Panda', yr oedd yn eithriadol o heini a sionc a bu'n gyfrifol, fel wicedwr, am gipio nifer fawr o wicedi dramatig. Yr oedd y rhain, yn ogystal â'i apeliadau swnllyd a'i allu i daro chwechau enfawr, yn gwneud iddo fod yn ffigwr poblogaidd iawn gyda chefnogwyr Morgannwg a hefyd ar y meysydd criced yn gyffredinol. Ei sgôr uchaf oedd 80 heb fod allan yn ei Gêm Dysteb yn erbyn De Affrica yn 1951. Yn 1955 cyfrannodd at gipio wicedi wyth o fatwyr De Affrica yn Abertawe. Ymddeolodd yn 1958, wedi chwarae 423 o gêmau, sgorio 6,613 o rediadau, a chymryd 585 daliad a 204 stympiad.
Pan yn ŵr ifanc yr oedd yn chwaraewr rygbi dawnus ac enillodd ddau gap dros Ysgolion Cymru yn 1931. Yr oedd hefyd yn chwaraewr sboncen galluog a chynrychiolodd Gymru hefyd yn y gamp honno. Yn dilyn ei ymddeoliad fel cricedwr bu'n chwaraewr proffesiynol yng Nghlwb Sboncen a Thenis Caeredin, ac fe'i penodwyd yn ysgrifennydd yno yn 1964. Dychwelodd yng nghanol y 1970au i gadw tafarn yn Sir Benfro.
Bu farw Haydn Davies yn Hwlffordd ar 4 Medi 1993.
Dyddiad cyhoeddi: 2015-03-19
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.