Ei enw cofrestredig oedd John Davies, ond mynnodd modryb gyfeirio ato fel Haydn am ryw reswm, a glynodd yr enw: am weddill ei oes John Haydn Davies ydoedd i bawb. Fe'i ganwyd yn Heol Hendrewen, Blaencwm, Rhondda Fawr, ar 3 Chwefror 1905, yn fab i Daniel Davies (1881-1971), saer maen, a'i wraig Lucy (ganwyd Morgan, c.1881-1961). Symudodd ei rieni i'r Rhondda o Sir Gaerfyrddin cyn geni John a'i chwaer iau Rebecca. Priododd Rebecca â John I. Price, cyfansoddwr emyn-donau y cynhwyswyd rhai o'i donau yn Caneuon Ffydd.
Cyflwynwyd ef i gerddoriaeth yng nghapel Bedyddwyr Blaencwm, lle'r oedd y gweinidog, y Parch. W. Cynon Evans, yn ŵr gradd o'r Coleg Sol-ffa. Bu John Haydn yn gryf o blaid y dull sol-ffa ar hyd ei fywyd ac fe'i defnyddiodd yn ddi-ffael wrth hyfforddi corau. Dysgodd y fiolin hefyd fel plentyn a bu'n canu'r offeryn hwnnw am weddill ei oes. Ar ôl mynychu ysgol elfennol Blaencwm, enillodd ysgoloriaeth i Ysgol Ramadeg Tonypandy, ac wedyn hyfforddodd fel athro yng Ngholeg Caerllion. Treuliodd ei holl yrfa yn dysgu mewn dwy ysgol yn y Rhondda: Ysgol Gynradd Blaencwm, lle y daeth yn brifathro, ac o 1960 yn brifathro Ysgol Gynradd Brodringallt yn Ystrad.
Roedd yn athro ysgol ifanc pan ddaeth yn arweinydd Cymdeithas Gorawl Blaencwm, ond oherwydd ei allu amlwg fe'i penodwyd yn fuan wedyn yn arweinydd cynorthwyol Côr Meibion Treorci. Daeth yn brif arweinydd y côr yn 1946 ac arhosodd yn y swydd nes iddo ymddeol yn 1968 gyda'r teitl 'arweinydd emeritws'. O dan ei stiwardiaeth ef yr enillodd y côr ei fri mwyaf, yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Enillodd yn yr Eisteddfod Genedlaethol wyth gwaith, yn Eisteddfod y Glowyr bum gwaith, a chymerodd ran mewn amryw achlysuron cyhoeddus blaenllaw, teithiau a darllediadau.
Bu Davies yn beirniadu'n fynych, ac roedd yn hanesydd lleol nodedig, ond mae ei enw parhaol yn seiliedig ar ei allu neilltuol fel hyfforddwr corawl. Er na chafodd lawer o addysg gerddorol ffurfiol, ni chyfyngodd hynny ar rychwant a soffistigeiddrwydd ei allu cerddorol. Dan ei arweiniad ef daeth Côr Meibion Treorci yn un o'r ensembles mwyaf a fu erioed yng Nghymru a gwnaeth lawer i ddiffinio idiom y côr meibion mawr. Elwodd o'r ffaith fod y côr wedi dirwyn i ben dair blynedd cyn iddo fe gymryd drosodd yn 1946: yn sgil hynny gallai ailgychwyn gyda dalen lân. Cyfrinach ei lwyddiant oedd techneg ymarfer systemataidd iawn; gwelai gywirdeb llefaru yn allweddol i eglurder ansawdd, a brawddegu disgybledig gyda chydbwysedd harmonig yn fodd i sicrhau testunau dealladwy yn ogystal â sain hardd. Byddai rihyrsals yn cychwyn gydag ymarferion estynedig i greu teimlad greddfol o undod cyn canu unrhyw gyfansoddiad ysgrifenedig, a byddai rhesi o ddynion, llawer ohonynt wedi treulio'r rhan fwyaf o'u diwrnod wrth y ffas lo, yn ufuddhau i bob sill o'i gyfarwyddiadau.
Roedd Davies yn ddyn bychan o gorff, yn dawel ei leferydd, yn feddylgar ac yn gwrtais bob amser. Hyd yn oed yn ei arddegau roedd wedi dysgu llawer o Golden Treasury Palgrave ar ei gof, ac yn ei bumdegau aeth ati i feistroli Almaeneg er mwyn medru darllen Beibl Luther yn yr iaith wreiddiol a gosod caneuon gwerin Almaeneg gyda chydymdeimlad ag ystyr eu testunau. Roedd y nodweddion hyn yn rhan fawr o gyfaredd ei bersonoliaeth pan esgynnai ar y podiwm.
Ar wahân i'w gyfnod yng Ngholeg Caerllion, bu'n byw ym mhen uchaf y Rhondda Fawr ar hyd ei oes, a chysegrodd waith ei fywyd i gylch cyfyng y rhan fach honno o'r cwm; gellid tybio mai eilbeth oedd bri rhyngwladol Côr Treorci. Roedd cartref cyntaf y teulu yn Stryd Scott, ac wedyn yn 'Gwynant', Stryd Dumfries, Treherbert. Priododd ag Olwen Williams, merch Uriel Roger Williams, siopwr, yn y Porth yn Ionawr 1942, a bu iddynt ddau o blant, Susan a Geraint. Mynychai Gapel Cymraeg Blaencwm, Tynewydd, ac ef oedd ei ysgrifennydd am dros ddeugain mlynedd. Rhoddwyd MBE iddo am ei wasanaeth i gerddoriaeth yn 1961, ac fe'i derbyniwyd i'r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn 1960 dan yr enw barddol Gwion - enw nant ym mlaen y cwm sy'n llifo i afon Rhondda ac yn nes ymlaen i afon Taf.
Bu John Haydn Davies farw o thrombosis coronaidd ar 17 Mehefin 1991 yn Ysbyty Dwyrain Morgannwg. Cynhaliwyd ei angladd yng Nghapel Blaencwm, lle roedd wedi addoli ers ei blentyndod, ac fe'i claddwyd ym mynwent Treorci.
Dyddiad cyhoeddi: 2015-07-14
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.