FOLLAND, HENRY (1878-1926), diwydiannwr

Enw: Henry Folland
Dyddiad geni: 1878
Dyddiad marw: 1926
Priod: Leah Norah Folland (née Thomas)
Plentyn: Pattie Eugenie Gregory (née Taylor)
Plentyn: Dudley Crofton Folland
Rhiant: Emma Folland
Rhiant: Thomas Folland
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: diwydiannwr
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes
Awdur: David Wynne Thomas

Ganwyd Henry Folland ar 15 Mehefin 1878 yn Waunarlwydd, Abertawe, un o bedwar o blant Thomas Folland, gweithiwr dur o Langwm yn Sir Benfro, a'i wraig Emma o Lanfynydd yn Sir Gaerfyrddin. Roedd ei fam a'i dad yn Gymry Cymraeg, a Chymraeg oedd iaith yr aelwyd. Yn 1891, yn ddeuddeg oed, dechreuodd Henry weithio mewn pwll glo yn Nhre-gŵyr, ryw filltir o'i gartref. Wrth gerdded adref oddi yno ar hyd y brif reilffordd cafodd ei daro gan drên ac o ganlyniad bu'n rhaid torri ei fraich chwith i ffwrdd, ac yntau ond yn bedair ar ddeg oed.

Diolch i ddiddordeb caredig ysgolfeistr yn Waunarlwydd cafodd hyfforddiant mewn llaw-fer a theipio a daeth yn glerc, gan weithio'n gyntaf yn swyddfa'r 'Cambria Daily Leader', papur newydd yn Abertawe, ac wedyn gyda Messrs. Leach, Flower and Co, gwneuthurwyr tunplat yn y Felin, Castell-nedd. Yn 1903 cafodd swydd fel llyfrifwr ac ariannwr yng Ngweithfeydd Raven yng Nglanaman, lle y gweithiodd ei ffordd i fyny i ddod yn rheolwr o fewn dwy flynedd, a'i ddyrchafu'n Gyfarwyddwr y flwyddyn ddilynol. Yn 1907 fe'i penodwyd yn Gyfarwyddwr Cwmni Dur a Thunplat Grovesend yng Ngorseinon, busnes mwy o lawer, a'r flwyddyn ddilynol daeth yn Rheolwr Gyfarwyddwr ar y cwmni. Pan fu farw William Lockett Agnew yn 1918, daeth Folland yn Gadeirydd y cwmni hefyd.

Roedd Henry Folland yn hynod am ei allu gyda ffigurau a'i sgiliau fel rheolwr. Dywedid ei fod yn fathemategydd disglair ac yn drefnydd penigamp gyda dealltwriaeth graff o feddylfryd ei weithwyr. Creodd berthynas fasnachol a phersonol gref a hirben gyda William Firth, Cyfarwyddwr arall Cwmni Grovesend, gan ffurfio tîm ymosodol llwyddiannus a unodd â Chwmni Richard Thomas yn 1923 i greu'r cwmni tunplat mwyaf yn Ewrop.

Yn 1906 priododd Leah Norah (Lily) Thomas (1874 - 1957), athrawes o Benclawdd, merch y Parch. John Thomas. Cawsant ddau o blant, Pattie Eugenie (ganwyd 1906) a Dudley Crofton (ganwyd 1912). Cartref cyntaf y teulu oedd Frondeg yng Nglanaman, ac ar ddechrau'r 1920au symudasant i dŷ mwy o faint, Llwyn Derw yn Blackpill, Abertawe.

Roedd Henry Folland yn weithgar iawn mewn bywyd cyhoeddus a daliodd amryw swyddi, gan gynnwys Ynad Heddwch, Uchel Siryf Sir Gaerfyrddin, ail Lywydd Coleg y Brifysgol Abertawe, Is-Lywydd Eisteddfod Genedlaethol Cymru, a Chadeirydd ardal De Cymru Ffederasiwn Diwydiant Prydain. Roedd ef a'i wraig yn aelodau blaenllaw o Gapel Bedyddwyr Mount Pleasant yn Abertawe. Gwnaeth Lily Folland hithau lawer o waith cyhoeddus a dyngarol, gan wasanaethu fel Ynad Heddwch a sefyll fel ymgeisydd y Rhyddfrydwyr yn etholaeth Gŵyr yn 1923. Dyfarnwyd CBE iddi am wasanaeth gwleidyddol a chyhoeddus yn ne Cymru yn 1939.

Bu farw Henry Folland o fethiant y galon ar 24 Mawrth 1926 tra ar ei wyliau yn yr Aifft. Fe'i claddwyd ym Mynwent Ystumllwynarth, Abertawe ar 24 Ebrill.

Cyflwynwyd Frondeg gan Mrs Folland, yn unol â dymuniad ei diweddar ŵr, i gymuned Glanaman, a daeth yn Ysbyty Bwth Cwm Aman yn 1935. Ail-enwyd y ffordd lle y safai, Ffordd Horney, yn Ffordd Folland gan y cyngor lleol yn 1936. Bu Llwyn Derw yn Ysbyty'r Groes Goch yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ac yn 1947 daeth yn rhan o Ysbyty Cyffredinol Abertawe.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2016-04-20

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.