Ganwyd David Henry yn y Llethri, Llangyndeyrn, Sir Gaerfyrddin, ar 27 Ionawr 1816, mab Thomas a Barbara Henry, aelodau yng nghapel Annibynnol Pen-y-graig. Derbyniwyd ef yn aelod o'r achos yno pan oedd yn ifanc iawn. Prentisiwyd ef yn deiliwr gyda'i dad pan oedd yn 12 oed, a bu'n gweithio fel teiliwr teithiol drwy gymoedd de Cymru am gyfnod, cyn iddo gartrefu ym Maesteg, Morgannwg, yn 1842, lle dechreuodd bregethu yng nghapel Soar ym mis Hydref 1843. Mynychodd yr ysgol a gedwid gan y Parch. Thomas Roberts, gweinidog capel Park Street, Llanelli, yn 1844, ond dychwelodd i Faesteg yn 1847, gan barhau i ymarfer ei grefft fel teiliwr, a phregethu yn achlysurol. Priododd Jane, merch Rees Powell o'r Brychgoed, Defynnog, Brycheiniog, 27 Rhagfyr 1847. Ganwyd tair merch a dau fab o'r briodas. Un o'r meibion oedd y Parch. Thomas Mathew Henry (1854-1883), gweinidog Annibynnol ym Meddgelert, Sir Gaernarfon
Urddwyd David Henry yn weinidog ar eglwys Annibynnol Y Cymer, Glyncorrwg, Morgannwg, ym mis Gorffennaf 1849, ond symudodd oddi yno i ofalu am y ddau achos ym Milo, Llanfihangel Aberbythych, a Phen-y-groes, Llandybïe, yn 1857. Enillodd nifer o wobrau mewn eisteddfodau, gan gynnwys traethodau ar hanes lleol, ym Maesteg, 1859, a Chaerfyrddin, 1867. Nid yw'r gweithiau hyn wedi goroesi, er bod dwy fedal, a ddyfarnwyd iddo, mewn dwylo preifat. Cyfrannodd erthyglau a barddoniaeth i Y Diwygiwr, misolyn yr Annibynwyr Cymraeg, dan y ffugenw 'Myrddin Wyllt'. Cyhoeddodd bregeth, Gwresogrwydd Crefyddol (1860), a'r Llawlyfr Iforaidd (1863), ar gyfer aelodau cymdeithas gyfeillgar yr Iforiaid. Ei gyhoeddiad mwyaf diddorol yw Pryddest, neu Hanesgerdd, o Ddull Dygiad Priodasau yn Mlaen yn y Ddwy Ganrif Ddiwethaf (1858), a ddyfarnwyd yn gydradd gyntaf mewn eisteddfod yn Ystradgynlais y flwyddyn honno. Cynnwys y gerdd hir hon ddisgrifiadau lliwgar o'r amryfal arferion priodas poblogaidd a ffynnai yn ne Cymru yn ystod y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Bu farw 12 Gorffennaf 1873, a'i gladdu ym mynwent capel Milo.
Dyddiad cyhoeddi: 2014-07-03
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.