HODDINOTT, ALUN (1929-2008), cyfansoddwr ac athro

Enw: Alun Hoddinott
Dyddiad geni: 1929
Dyddiad marw: 2008
Priod: Rhiannon Hoddinott (née Huws)
Plentyn: Huw Ceri Hoddinott
Rhiant: Gertrude Hoddinott (née Jones)
Rhiant: Thomas Ivor Hoddinott
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cyfansoddwr ac athro
Maes gweithgaredd: Addysg; Cerddoriaeth
Awdur: Rhidian Griffiths

Ganed Alun Hoddinott ym Margoed ar 11 Awst 1929, yn fab i athro ysgol, Thomas Ivor Hoddinott, a'i briod Gertrude (ganwyd Jones). Symudodd y teulu i Gorseinon a chafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Tre-gŵyr, lle roedd traddodiad cerddorol cryf. Dechreuodd ganu'r ffidil yn ifanc ac roedd yn un o aelodau cyntaf Cerdddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru a ffurfiwyd yn 1946. Yn yr un flwyddyn enillodd ysgoloriaeth i Goleg y Brifysgol yng Nghaerdydd, ac yn ystod ei gyfnod yno cafodd wersi preifat mewn cyfansoddi gan y cyfansoddwr Arthur Benjamin yn Llundain. Graddiodd yn B.Mus. (Cymru) yn 1949 ac yn 1951 fe'i penodwyd i Goleg Cerdd a Drama Caerdydd (fel yr oedd ar y pryd). Yn 1953 enillodd Wobr Walford Davies am gyfansoddi a Medal Cymdeithas Arnold Bax yn 1957. Penodwyd ef yn ddarlithydd yn ei hen goleg yng Nghaerdydd yn 1959 ac enillodd D.Mus. (Cymru) yn 1960. Daeth yn Ddarllenydd yn 1963 ac esgyn i'r Gadair yn 1967. Sefydlodd Ŵyl Cerddoriaeth yr 20fed ganrif yng Nghaerdydd a llwyddodd i ddenu cyfansoddwyr blaenllaw megis Olivier Messiaen a Benjamin Britten i gyfrannu iddi. Ymddeolodd o'i gadair yn y Brifysgol yn 1987, ac o'r ŵyl yn 1989, er mwyn canolbwyntio ar gyfansoddi.

Daeth i sylw cyffredinol a'i gydnabod yn gyfansoddwr o gryn addewid yn 1954 pan berfformiwyd ei Gonsierto i'r clarinet (op.3) yng Ngŵyl Gerdd Cheltenham gan y clarinetydd enwog Gervase de Peyer a Cherddorfa Hallé dan arweiniad John Barbirolli. Er bod y gwaith neo-glasurol hwn wedi aros yn y repertoire, datblygodd Hoddinott arddull fwy cywrain a phersonol wedi hynny, gyda phwyslais ar liwiau cromatig a rhithmau cymhleth a phendant. Er cydnabod dylanwad y 'serialists' ni chefnodd ar donyddiaeth. Cyfansoddodd mewn nifer o wahanol ffurfiau: cynhyrchodd ddeg simffoni a gweithiau cerddorfaol nodedig am eu lliw, ac wedi eu hysbrydoli gan ddelweddau barddonol, yn eu plith The sun, the great luminary of the universe (1970). Cafodd lwyddiant hefyd fel cyfansoddwr operâu, sy'n cynnwys The Beach of Falesá, The Trumpet Major, a What the old man does is always right. Roedd yn falch o gael ei ystyried yn gyfansoddwr Cymreig, a thynnodd ar awduron Cymreig am destunau, ond ni welir dylanwad elfennau cerddoriaeth werin ar ei idiom arferol, ac mae'n debyg mai traddodiad yr Eidal oedd y dylanwad cerddorol cenedlaethol cryfaf arno.

Fe'i hurddwyd yn C.B.E. yn 1981, a dyfarnwyd iddo wobr Glyndŵr am gyfraniad rhagorol i'r celfyddydau yng Nghymru yn 1997. Priododd 2 Ebrill 1953 â Rhiannon Huws, merch y Parch. Llewellyn Caradog Huws, Gwauncaegurwen, a chawsant un mab, Ceri. Bu farw yn Abertawe, 11 Mawrth 2008. Cafodd neuadd newydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yng Nghanolfan y Mileniwm ei henwi'n Neuadd Hoddinott i gydnabod ei gyfraniad i gerddoriaeth yng Nghymru.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2014-05-01

Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.