JONES, RICHARD LEWIS ('DIC') (1934-2009), bardd ac amaethwr

Enw: Richard Lewis Jones
Dyddiad geni: 1934
Dyddiad marw: 2009
Priod: Sylvia Jean Jones (née Jones)
Plentyn: Esyllt Mair Jones
Plentyn: Rhian Medi Jones
Plentyn: Delyth Wyn Jones
Plentyn: Tristan Lewis Jones
Plentyn: Brychan Llyr Jones
Plentyn: Dafydd Dyfed Jones
Rhiant: Frances Louisa Jones (née Isaac)
Rhiant: Alban Lewis Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd ac amaethwr
Maes gweithgaredd: Eisteddfod; Natur ac Amaethyddiaeth; Barddoniaeth
Awdur: Idris Reynolds

Ganwyd Richard Jones, neu Dic fel y'i hadnabyddid drwy Gymru gyfan, ar ddydd Gwener y Groglith, 30 Mawrth 1934 ar fferm Pen-y-graig ger Tre'r-ddôl yng ngogledd Ceredigion. Un o ferched y teulu Isaac o Ben-y-graig oedd ei fam, Frances Louisa (1910-1986). Athrawes oedd wrth ei galwedigaeth ac ar ôl iddi symud i swydd yn Ysgol Blaen-porth priododd ag amaethwr lleol, Alban Lewis (Abba) Jones (1911-1957). Yno ar fferm Tan-yr-eglwys, yng ngodre'r sir, y magwyd Dic Jones. Yr oedd ganddo frawd hŷn, David Goronwy (1932-2002), ac yn ddiweddarach daeth tair chwaer, Rhiannon Maud Sanders (1935-), Margaret Elizabeth Daniel (1941-) ac Eleanor Mary Isaac Jones (1942-) i gwblhau'r teulu.

Cafodd ei addysg ffurfiol yn ysgolion cynradd Blaen-porth ac uwchradd Aberteifi cyn gadael yn bymtheg oed. Er iddo ddarganfod yn ddiweddarach ei fod wedi rhagori yn ei arholiadau terfynol nid oedd ganddo ddim diddordeb mewn parhau a'i astudiaethau. Yr oedd amaethu yn ei waed a threuliodd ei oes yn ffermio tiroedd Tan-yr-eglwys a'r Hendre gerllaw, daear a fu yn eiddo i'r teulu ers cenedlaethau. Adlewyrchir y pleser a brofodd wrth ddilyn crefft gyntaf dynol ryw yn ei ddwy awdl, 'Cynhaeaf' a 'Gwanwyn'.

Pan oedd Dic yn ei arddegau cynnar symudodd y Parchedig a Mrs Tegryn Davies yn weinidog a gwraig gweinidog i eglwysi Annibynnol Capel Mair a Biwla ac aethant ati i sefydlu aelwyd o Urdd Gobaith Cymru yn yr ardal. O ganlyniad i'w gweithgarwch diwylliwyd bro gyfan yn y Pethe a gwobrwywyd Aelwyd Aber-porth yn gyson ar lwyfannau Eisteddfodau Cenedlaethol y mudiad. Yn yr Aelwyd y daeth Dic i gyswllt â'r gynghanedd am y tro cyntaf a hynny wrth ganu awdl Gwilym Tilsley, 'Y Glöwr' fel aelod o gôr cerdd dant. Yn llawn cywreinrwydd aeth ati i ddysgu rhagor am y gyfundrefn soniarus honno, a chyn hir yr oedd yn cael gwersi cynghanedd gan Alun Cilie, un o benceirddiaid y fro. Meistrolodd y grefft ac enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ar bum achlysur. Agorodd y llwyddiannau hyn ddrysau iddo ac fe'i mabwysiadwyd gan y gymdeithas farddol gref a fodolai ar y pryd o dan gysgod Foel Gilie.

Yr oedd i'r Urdd ei ddibenion cymdeithasol hefyd. Yno y cyfarfu Dic â'i ddarpar wraig, Sylvia Jean (Sian) Jones (1938-) o Barc-llyn. Ganwyd iddynt chwech o blant, sef Delyth Wyn (1960-), Rhian Medi (1961-), Dafydd Dyfed (1963-), Brychan Llŷr (1970-), a'r efeilliaid, Tristan Lewis (1980-) ac Esyllt Mair (1980-1981). Ganwyd Esyllt gyda'r cyflwr Downes Syndrome ac fe'i collwyd ar ôl ychydig fisoedd. Cyfrifir y gerdd a gyfansoddodd Dic er cof amdani ymhlith marwnadau mawr yr iaith Gymraeg. Erbyn heddiw mae dau o'r plant, yr actores a'r gantores Delyth Wyn a'r cerddor a'r cyflwynydd Brychan Llŷr yn wynebau cyfarwydd ar y cyfryngau.

Wedi llwyddiannau'r Urdd rhoes y bardd ei fryd ar ennill y Gadair Genedlaethol gan lwyddo yn Aberafan yn 1966. Dotiodd ysgolheigion a gwerin gwlad fel ei gilydd ar yr awdl ac ni allai un o'r beirniaid, sef y Dr Thomas Parry ond ein hannog ni oll i 'ddiolch yn wylaidd amdani - ac erfyn am ragor o'i chyffelyb'. A dyna a gafwyd ddeng mlynedd yn ddiweddarach yn Eisteddfod Genedlaethol Aberteifi. Ond, er i awdl Dic gael ei dyfarnu yn fuddugol gan y beirniaid, cafodd ei diarddel o'r gystadleuaeth oherwydd bod ei hawdur wedi mynychu cyfarfod o Bwyllgor Llên yr Eisteddfod honno. Er hynny cyfrifir 'Gwanwyn', fel 'Cynhaeaf', ymhlith awdlau mawr yr ugeinfed ganrif.

Cyhoeddwyd ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth Agor Grwn yn 1960 ac fe'i dilynwyd gan chwe chyfrol arall o gerddi. Wedi iddo farw cyhoeddwyd dwy ychwanegol, sef Cerddi Dic yr Hendre (gol. Ceri Wyn Jones) sy'n ddetholiad safonol o'i gerddi gorau ac hefyd Yr un hwyl a'r un wylo (gol. Elsie Reynolds) lle casglwyd at ei gilydd nifer sylweddol o'r cerddi cymdeithasol nas gwelwyd rhwng dau glawr cyn hynny.

Bardd y mesurau traddodiadol oedd Dic Jones. Enillodd glust a chalon cynulleidfa niferus a gall llaweroedd ohonynt ddyfynnu darnau helaeth o'r cerddi o'u cof. Ni hoffai gerddi tywyll a mynnai nad pos oedd barddoniaeth. Ac yntau'n gynganeddwr heb ei ail, parchai'r grefft. Erys y chwe englyn a weithiodd i'w ferch, Delyth Wyn, ar ei phenblwydd yn ddeunaw oed yn orchest eiriol y byddai Beirdd yr Uchelwyr yn falch ohoni. Ynddynt llwyddodd i gynganeddu'r gair 'deunaw' mewn pedair-ar-bymtheg o wahanol ffyrdd. Fel bardd, canodd i'r byd a welai o'i gwmpas a phan estynnai ei olygon tua'r gorwelion gwnâi hynny gyda doethineb gwladwr â'i draed yn gadarn ar ddaear ei filltir sgwâr.

Eto yr oedd yn fwy na bardd. Amlygir ei ddawn fel llenor yn ei hunangofiant, Os Hoffech Wybod …, a gyhoeddwyd gyntaf yn 1989. Bu hefyd yn cyfrannu colofn wythnosol i'r cylchgrawn Golwg am flynyddoedd lawer. Ar ben hynny etifeddodd ddawn gerddorol teulu Tan-yr-eglwys a bu yn aelod o Gôr Meibion Blaen-porth o'r dechrau hyd at ei farwolaeth. Sefydlwyd y côr hwnnw gan ei dad yn 1946. Bu hefyd, fel ail-denor, yn rhan o lwyddiannau Côr Pensiynwyr Aberteifi o dan faton ei chwaer, Margaret Daniel.

Daeth yn wyneb a llais cyfarwydd ar y cyfryngau a bu'n rhan o gyfresi poblogaidd fel 'Penigamp' a 'Talwrn y Beirdd'. Yr oedd galw cyson am ei wasanaeth dros Gymru gyfan fel beirniad eisteddfodol, tiwtor neu feuryn. Derbyniai hefyd wahoddiadau lu gan wahanol gymdeithasau a byddai bob amser yn eu hannerch, mewn sgwrs neu ddarlith, heb sgrap o bapur o'i flaen.

Dros y blynyddoedd datblygodd y ffermwr cydnerth a enillodd y Gadair Genedlaethol yn Aberafan yn eicon cenedlaethol. Dyfarnwyd iddo radd MA er anrhydedd gan Brifysgol Cymru am ei gyfraniad i lenyddiaeth ei wlad. Yna yn 2008 urddwyd ef yn Archdderwydd Gorsedd Beirdd Ynys Prydain, y ffermwr cyntaf i dderbyn yr anrhydedd, a bu'n gweinyddu dros seremonïau'r Orsedd yng Nghaerdydd y flwyddyn honno. Yn anffodus, methodd â bod yn bresennol y flwyddyn ganlynol a gellid synhwyro pryder cenedl gyfan ar y maes yn Eisteddfod y Bala am gyflwr iechyd un o'i hanwyliaid pennaf. Cyn diwedd y mis fe'i collwyd. Bu farw ar 18 Awst 2009 o gancr y pancreas a chladdwyd ei gorff ym mynwent Blaenannerch. Ar ei garreg fedd cerfiwyd un o'i gwpledi enwocaf:

Mae alaw pan ddistawo
Yn mynnu canu'n y co'.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2015-03-03

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.