JONES, DILLWYN OWEN PATON (DILL) (1923-1984), pianydd jazz

Enw: Dillwyn Owen Paton Jones
Dyddiad geni: 1923
Dyddiad marw: 1984
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: pianydd jazz
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth
Awdur: Rhidian Griffiths

Ganed Dill Jones ar 19 Awst 1923 yn Sunny Side, Castellnewydd Emlyn, yn fab i John Islwyn Paton Jones, rheolwr banc, a'i wraig Lavinia (ganwyd Bevan). Etifeddodd ddoniau cerddorol o ddwy ochr y teulu, gan fod ei dad yn ganwr da a'i fam yn bianydd dawnus. Mynychodd Goleg Llanymddyfri lle y clywodd recordiadau jazz am y tro cyntaf; bu'n gweithio wedyn yn y banc ond yr oedd yn canu'r piano mewn achlysuron lleol gyda'r nos. Gwasanaethodd yn y Llynges o 1942 hyd 1946 a chafodd gyfle i berfformio mewn darllediadau ar rwydwaith y Lluoedd Arfog. Yn 1946 ymgymerodd â chwrs astudio'r piano a'r organ yng Ngholeg Cerdd y Drindod yn Llundain ac yn 1947 ymunodd â band dan arweiniad y drymiwr Carlo Krahmer, a chyd-chwarae â Duncan White a Humphrey Lyttleton. Perfformiodd yng Ngŵyl Jazz gyntaf Nice, Ffrainc yn 1949, a bu'n chwarae wedi hynny ym mand Vic Lewis, cyn gweithio fel pianydd ar fwrdd y llong Queen Mary yn 1950, er mwyn gallu ymweld â chlybiau jazz Efrog Newydd. Chwaraeodd gyda nifer o fandiau yn Llundain a chyflwyno rhaglen arloesol 'Jazz Club' i'r BBC. O 1958 ymlaen bu'n arwain ei driawd ei hun yn Llundain.

Ymfudodd i UDA yn 1961 a threuliodd weddill ei oes yn Efrog Newydd gan chwarae gyda nifer o fandiau adnabyddus. Rhwng 1969 ac 1973 roedd yn aelod o'r 'JPJ Quartet' gyda Budd Johnson, Oliver Jackson a Bill Pemberton, yna o 1974 canolbwyntiodd ar berfformio unigol. Dychwelodd i Gymru yn 1978 i berfformio yng Ngŵyl Jazz Cymru yng Nghaerdydd. Ar hyd ei yrfa amlygodd ddawn i amrywio'i arddull ac ni chafodd anhawster i fod yn rhan o fandiau o wahanol fathau, ac ar yr un pryd ragori fel unawdydd. Cyfrifid ef yn feistr ar 'Harlem stride' Fats Waller a cherddoriaeth Bix Beiderbecke fel ei gilydd.

Roedd i'w urddo i'r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Llanbedr Pont Steffan yn 1984, ond bu farw cyn hynny, yn Efrog Newydd, 22 Mehefin 1984. Cynhaliwyd gwasanaeth coffa iddo yn eglwys Sant Pedr, Lexington Avenue, 29 Mehefin. Cyhoeddwyd casgliad o recordiadau o'i waith, 'Davenport Blues', yn 2004.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2014-05-19

Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.