Ganwyd Wil Sam ar 28 Mai 1920 yn Belle Vue, Llanystumdwy, yr ieuengaf o ddau fab Gabriel Jones, morwr, a'i wraig Ann (ganwyd Owen). Daeth ei frawd Elis Gwyn (1918-1999) yn adnabyddus fel arlunydd ac awdur, a bu'n cydweithio'n agos â Wil Sam ym maes y ddrama. Bu farw eu tad mewn damwain ar y môr ym 1939.
Cafodd Wil Sam ei addysg ffurfiol yn Ysgol Eglwys Llanystumdwy ac Ysgol Sir Porthmadog, ond nid oedd ei fryd ar yr ochr academaidd. Hogyn da ei law oedd Wil Sam yng ngolwg ei athrawon a'i bleser mewn peiriannau, yn arbennig mewn moto-beic. Ar ôl gadael yr ysgol cafodd le fel prentis mewn garej ym Mhwllheli, ond gadawodd ar ôl iddo wrthod trin cerbydau milwrol o'r gwersyll ym Mhenyberth. Ymhen dyddiau cafodd swydd mewn garej arall yn Abersoch. Cofrestrodd fel Gwrthwynebydd Cydwybodol yn ystod yr Ail Ryfel Byd, a bu'n ymgyrchydd brwd dros ddiarfogi niwclear (CND) yn nes ymlaen. Roedd yn genedlaetholwr twymgalon ar hyd ei fywyd, a phan sefydlwyd Cymdeithas yr Iaith yn 1962 ymunodd â hi a chymryd rhan yn yr ymgyrch baentio arwyddion ffyrdd. Mae ei ddrama 'Mae Rhywbeth Bach...' (1969) am y Gymdeithas ac yn gyflwynedig iddi. Ymwelai yn rheolaidd ag Iwerddon gan fynychu theatrau Dulyn, ac roedd cenedlaetholdeb Gwyddelig yn ddylanwad cryf arno.
Yn 1953 priododd â Dora Ann Jones a mynd i fyw i'r Crown (hen dafarn gynt). Cawsant ddwy ferch, Mair ac Elin. Sefydlodd Wil Sam ei fusnes garej ei hun lle cafodd dros y blynyddoedd ddeunydd i'w ddramâu wrth iddo gyfarfod â chymeriadau lliwgar, gwrando ar eu straeon a chlywed iaith Eifionydd ar eu gwefusau. Bu'n cario plant i Ysgol Chwilog am chwarter canrif.
Yn 1956 rhoddodd Emyr Humphreys ei gomisiwn cyntaf iddo i sgrifennu drama radio. Ffrwyth y comisiwn oedd y gomedi 'I Bant y Bwgan'. Cyffesodd Wil Sam ei fod wrth ysgrifennu ar gyfer y radio yn cadw'r llwyfan yn gyson yng nghefn ei feddwl. Ysgrifennodd Emyr Humphreys ac yntau y ddrama 'Dinas' ar y cyd yn 1970. Yn 1962 cafodd Wil Sam gomisiwn gan Gwmni Drama Coleg y Gogledd, Bangor i sgrifennu drama hir, 'Gwalia Bach', ond ni chafodd ei chyhoeddi fel eraill o'i ddramâu. Yn yr un flwyddyn enillodd ar y ddrama fer yn yr Eisteddfod Genedlaethol am 'Dalar Deg'. Flwyddyn yn ddiweddarach, blwyddyn bwysicaf ei yrfa, cyhoeddwyd y gyfrol Pum Drama Fer a rhoes y garej heibio a symud i Tyddyn Gwyn yn Rhoslan er mwyn ennill ei fywoliaeth yn sgrifennu - y cyntaf i wneud hynny yn y Gymraeg. O ganol y chwedegau hyd 1976 bu'n rhan annatod o Theatr Y Gegin, Cricieth gyda'i delfryd genedlaetholgar ar batrwm Theatr y Pike yn Nulyn. Ei frawd Elis Gwyn oedd yn cynhyrchu ac yntau yn gofalu am ddramâu gwreiddiol a chyfieithiadau Cymraeg. Dwy ddrama o'r cyfnod hwn oedd 'Y Chwilotwr' (1968) a 'Seimon y Swynwr' (1969). Aelod o Gwmni'r Gegin oedd Stewart Jones yr actor a roes gig a gwaed i sgript unigryw Ifas y Tryc am y tro cyntaf yn 1964. Bydd ei ymadroddion yn rhan o'n hiaith am genedlaethau: 'Britannia rwls ddy Wêls', 'Ingland Refeniw', 'Sgersli bilîf', a 'Dw i'n deud dim … deud ydw i.'
Ar ôl cyfnod Theatr y Gegin trodd Wil Sam i sgrifennu mwy ar gyfer radio a theledu. Lluniodd ryw ugain o ddramâu byrion, cannoedd o sgriptiau Ifas y Tryc a chryn hanner dwsin o sgriptiau ffilm ar gyfer y teledu, sgriptiau dramâu dogfen, a chyfresi megis 'Y Garej' a 'Dr. Shady'. Perfformiwyd llawer o'i ddramâu am y tro cyntaf gan Theatr Bara Caws, cwmni a oedd yn gydnaws â'i anian fel dramodydd a gwerinwr. Datgan rhai mai 'Ty Clap' (1977) yw ei ddrama orau ond ym marn eraill 'Y Sul Hwnnw' (1981) yw ei glasur. Y mae 'Y Fainc' (1967) hithau yn ddrama drawiadol am rwystredigaethau sgrifennwr.
Yn ogystal â'i ddramâu cyhoeddwyd darlith ganddo ar gyflwr y theatr Gymraeg, Y Toblarôn (1975), a chyfrol o straeon byrion, Dyn y Mynci (1979). Yn 2005 ac yntau'n 85 oed lansiwyd tair cyfrol o'i waith: Mân Bethau Hwylus (Cymeriadau Eifionydd), Newyddion Ffoltia Mawr (casgliad o'i golofnau doniol yn Y Cymro) a Rhigymau Wil Sam. Yn ei flynyddoedd olaf roedd yn aelod brwd o ddosbarth prydyddu Twm Morys yn Llanystumdwy.
Cafodd Wil Sam ei anrhydeddu droeon tua diwedd ei fywyd. Trefnodd yr Academi Gymreig gyfarfod i ddathlu ei ben blwydd yn 70 oed yn 1990, ac yn 1995 cafodd wobr Bafta Cymru am ei gyfraniad i fyd y ddrama. Yn 2002 cyflwynodd Theatr Bara Caws raglen deyrnged iddo, ac yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn yn 2003 trefnwyd Gwyl Wil Sam. Dyfarnwyd iddo MA er Anrhydedd gan Brifysgol Aberystwyth yn 2003, a'r flwyddyn ddilynol derbyniodd Gymrodoriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Bangor.
Er iddo dderbyn yr anrhydeddau hyn, ni chaed astudiaeth wirioneddol deilwng o'i waith tan 2010 pan gyhoeddwyd Wil Sam y Dyn Theatr. Dramodydd ei filltir sgwâr yn Eifionydd ydoedd, ac eto bu ei ddramâu anarchaidd gyda llu o gymeriadau'r ymylon, ei synnwyr digrifwch unigryw a'i athrylith theatrig yn ddiddanwch pur i Gymru gyfan. Haedda ei ystyried ar wastad byd-eang awduron theatr yr abswrd gan iddo gyfuno'r elfen honno gyda thraddodiad ffars y neuadd bentref. O dan y doniolwch a'r ffraethineb mae hurtrwydd bywyd a thristwch a gwewyr y ddynoliaeth.
Bu farw Wil Sam yn 87 oed ym Mangor ar 15 Tachwedd 2007. Caed Gwasanaeth Coffa yng nghapel Moreia, Llanystumdwy a rhoed ei weddillion i orffwys ym Mynwent Newydd Llanystumdwy ar 21 Tachwedd.
Dyddiad cyhoeddi: 2015-02-05
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.