Ganwyd John William Jones 16 Mawrth 1868 yn Cae'r Hafod, Cyfylliog ger Rhuthun, a symudodd yn 1886 i Lerpwl i weithio fel saer coed yng nghwmni David Roberts (1806-1886) a'i fab John Roberts (1835-1894) a fu yn Aelod Seneddol Bwrdeistref Fflint, 1878-92. Mynychodd JW, fel y daethpwyd i'w alw, ysgolion nos ac ysgolion technegol gan ddysgu'n gyflym, ac o fewn wyth mlynedd cychwynnodd fel adeiladydd ar ei liwt ei hun. Defnyddiwyd ef am ei fedr fel saer coed gan adeiladwyr o bob tu i afon Mersi.
Yn 1895 priododd Sarah Catherine Owens o Lanrhaeadr-ym-Mochnant a bu hi yn gaffaeliad mawr ac yn fam i bedwar o feibion ac un ferch. Penderfynodd pob un o'r bechgyn, Rowland Owen Jones (1898-1964), William Glyn Jones (1900-1986), John Trefor Jones (1902-2001) a Howell Vaughan Jones (1913-1979), ymuno yn y cwmni fel cyfarwyddwyr, a bu'r ferch Gwladys Elinor yn fawr ei diddordeb yng ngwaith y cwmni.
Yn y cyfnod cynnar daeth JW i adnabod rhai o adeiladwyr pennaf Cymry Lerpwl, fel John Jones, Calderstones, John Hughes, Allerton ac E. R. Jones, Aigburth, a chafodd gefnogaeth dda ganddynt. Erbyn 1900 sefydlodd ei gwmni adeiladu, ei swyddfa a'r iard yn Trentham Avenue, mewn lle hwylus ac yn agos i Orsaf Rheilffordd Parc Sefton. Llwyddodd i berswadio Richard Jones, Allerton (1874-1923) i fod yn gyd-gyfarwyddwr yn y cwmni. Parhaodd y bartneriaeth hyd farwolaeth Richard Jones, ac erbyn hynny yr oedd tri o'i fechgyn ef ei hun yn gallu ysgwyddo cyfrifoldeb. O 1900 hyd y Rhyfel Byd Cyntaf, bu'r cwmni yn adeiladu tai amrywiol o amgylch Parc Sefton yn Allerton, Childwall, Wavertree, Calderstones ac Anfield. Cynigiai'r cwmni bob math o wasanaeth yn ymwneud â'r diwydiant tai, megis adnewyddu a phaentio. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf peidiodd y gwaith adeiladu ond llwyddodd y cwmni oherwydd fod ganddynt gymaint o wasanaethau i'w cynnig ac i'w cadw yn brysur. Felly yn 1919 yr oeddynt ymysg y cwmnïau cyntaf i ddechrau adeiladu ar raddfa fawr. Erbyn 1923 daeth y cwmni yn gwmni cyfyngedig, J. W. Jones and Sons, gyda'u swyddfeydd newydd hardd yng nghanol Allerton Road, rhif 158.
Daeth y ffyrm yn adnabyddus a cheisiai J. W. Jones gyflogi Cymry Cymraeg fel seiri maen a seiri coed. Heidiodd dwsinau ohonynt o gefn gwlad Gogledd Cymru i weithio yn ei gwmni, cartrefu yn Allerton, ac aros ar hyd eu hoes yn y gwaith adeiladu. Adeiladwyd miloedd ar filoedd o dai, fflatiau, siopau a stadau cyfan o dai cyngor, fel Springwood, rhan o stad fawr Speke, Larkhill a Lisburn yn West Derby yn ogystal â stadau tai yn Huyton a Bootle. Ymddiriedai yr awdurdodau lleol yn llwyr ynddo. Adeiladodd strydoedd o dai preifat yn Wavertree, Mossley Hill, Woolton ac Allerton. Ef a adeiladodd Garth Drive, Allerton lle y bu ei gartref ei hun am gyfnod yn rhif 10. Rhoddodd yr enw Hiraethog ar y tŷ. Adeiladodd Tanat Drive cysylltiol gan roddi iddo enw'r dyffryn y ganwyd ei briod ynddo ym Maldwyn.
Rhoddwyd iddo yn 1923 gytundeb i atgyweirio a chynnal a chadw holl adeiladau cyhoeddus Lerpwl oedd o dan arolygaeth y Weinyddiaeth Gwaith. Bu yn gyfrifol am y dasg hon hyd 1938. Ymgymerodd â thasgau eraill o'r pwys mwyaf, fel Swyddfa Ganolog y Llythyrdy yn nhref Widnes, ychwanegiadau i Ysbyty Gwasanaeth Pensiwn a gwaith cynnal a chadw ar Neuadd Croxteth a Neuadd Speke. Gwahoddwyd y cwmni yn 1938, gyda nifer o adeiladwyr mawr eraill, i fod yn gyfrifol am adeiladau pwysig y ddinas pe ceid rhyfel. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd bu'r cwmni yn atgyweirio cannoedd o dai a ddinistriwyd gan yr Almaenwyr.
Meddai ar gyfrifoldeb pendant i'r ddinas a bu yn Gynghorydd Ceidwadol dros Allerton ar Gyngor y Ddinas o 1932 i 1938, a gweithredodd ar nifer fawr o bwyllgorau yn ymwneud â thai, dŵr, mynwentydd a chymorth cyhoeddus. Bu'n weithgar iawn ym mywyd Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Ar ddau achlysur ef oedd Cadeirydd Cyfarfod Blaenoriaid Cymdeithasfa'r Gogledd, a bu ar Bwyllgor Gwaith y Genhadaeth Gartref a'r Genhadaeth Dramor yn y Gymanfa Gyffredinol. Bu'n weithgar iawn ym mywyd capeli Fitzclarence, Liscard, Seacombe a Webster Road lle yr etholwyd ef yn flaenor yn 1911. Bu o fudd mawr fel Cadeirydd Pwyllgor yr Adeiladau pan adeiladwyd y capel newydd yn Heathfield Road yn 1925-26, ac yn hynod o haelionus, ef a'r holl deulu, yn cynnwys ei forwyn o Gymraes. Yn 1933 etholwyd ef yn Llywydd Henaduriaeth Lerpwl.
Yn 1938 addasodd i'r Gymraeg basiant Saesneg o eiddo cwmni James Broadbent a'i Feibion, Leeds, yn dwyn y teitl, 'Adeiladu yr Eglwys'. Amcan y pasiant oedd cyfleu i'r ifanc ac i'r oedolion anghenion pennaf yr eglwys gartref fel ag yn India, sef gobaith, gwroldeb, gwasanaeth a gofal. Gwnaed y meini o flociau o bren ysgafn yn ffitio i'w lle'n hwylus. Darparodd J. W. Jones ddwy set o feini at wasanaeth yr eglwysi, ac anfonai'r blociau mewn cist i'r eglwysi a ddymunai lwyfannu'r pasiant, a oedd yn para tua awr a hanner.
Bu'n llysgennad ardderchog i'r Cymry yn ninas Lerpwl, a bu colled fawr ar ei ôl pan fu farw ar 24 Awst 1945. Gosodwyd ef i orffwys ym meddrod y teulu ym mynwent Allerton.
Dyddiad cyhoeddi: 2014-11-17
Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.