Fe wnaethoch chi chwilio am meiriadog
Ganwyd Ivor Lewis ar 27 Hydref 1895 yn Llanddeusant, Sir Gaerfyrddin, yn unig blentyn i Lewis Lewis, ffermwr diwylliedig, a'i wraig Mary (ganwyd Davies). Cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Llandeilo, ac er i'w fam dduwiol obeithio y byddai ei mab yn mynd i'r weinidogaeth ryw ddydd, ei uchelgais ef oedd bod yn feddyg. Ar ôl iddo ddilyn astudiaethau cyn-glinigol yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd rhwng 1915 a 1918 dechreuodd ei hyfforddiant clinigol yn Ysbyty Coleg y Brifysgol, Llundain. Yno dyfarnwyd iddo Fedal Aur Lister mewn llawfeddygaeth cyn graddio'n MB BS yn 1921, wedi iddo ennill MRCS LRCP y flwyddyn flaenorol.
Wedi iddo raddio, ac o dan ddylanwad ymarferwyr o fri megis Wilfred Trotter a Gwynne Williams, penderfynodd Lewis ar yrfa fel llawfeddyg. Gan weithio fel swyddog llawfeddygol preswyl yn Ysbyty Lewisham yn ystod y 1920au enillodd MD Llundain yn 1924 ac MS yn 1930, ac yna symudodd i Plymouth lle y daeth yn llawfeddyg a chyfarwyddwr meddygol yn Ysbyty'r Ddinas. Tra bu yno hyrwyddodd yr arfer o ganiatáu i gleifion dderbyn ymweliadau gan eu perthnasau bob dydd, peth anarferol yr adeg honno. Yn 1933 dychwelodd Lewis i Lundain, gan dreulio'r deunaw mlynedd canlynol fel llawfeddyg a chyfarwyddwr meddygol yn Ysbyty North Middlesex.
Yn ystod y blynyddoedd hynny gwnaeth Lewis enw rhyngwladol mawr iddo'i hun ym meysydd llawfeddygaeth yr abdomen a'r frest, ac yn 1939 ef oedd y cyntaf ym Mhrydain i gyflawni embolectomi ysgyfeiniol. Yn sgil ei fri cafodd ei wahodd i ymweld â llawer o ysbytai yn yr Unol Daleithiau ac yn Ewrop, ac ar 10 Ionawr 1946 cafodd glod mawr am ei Ddarlith Hunterian ar driniaeth lawfeddygol carcinoma'r oesoffagws yng Ngholeg Brenhinol Llawfeddygol Lloegr. Ddwy flynedd wedyn derbyniwyd ef yn FRCS trwy etholiad. Yn ystod y blynyddoedd hyn cafodd Lewis gefnogaeth sylweddol gan ei wraig Nancy (ganwyd Faux, 1909-1990) a briododd yn 1944. A hithau'n anesthetydd profiadol, cydweithiodd y ddau yn wych gyda'i gilydd yn Ysbyty North Middlesex ac wedi hynny hyd ei ymddeoliad.
Cafodd Ivor a Nancy bedwar o blant, a daeth y ddwy ferch yn athrawesau a'r ddau fachgen yn feddygon. Ac yntau'n Gymro i'r carn roedd Lewis yn benderfynol o fagu ei blant mewn amgylchedd hollol Gymreig. Felly, yn 1951, ar frig ei yrfa fel llawfeddyg, symudodd y teulu i ogledd Cymru pan benodwyd Lewis yn llawfeddyg ymgynghorol yn Ysbyty'r Royal Alexandra Hospital yn y Rhyl, ac mewn dau ysbyty'r frest cyfagos yn Abergele a Llangwyfan. Ymddeolodd o'i swydd yn y Rhyl yn 1960 ond parhaodd i weithio yn Abergele a Llangwyfan am ddeng mlynedd eto. Un o'r pethau a roddodd y boddhad mwyaf iddo yn ystod y blynyddoedd y bu'n gweithio yng ngogledd Cymru oedd y cyfle i hyfforddi llawfeddygon ifainc o rannau eraill o'r byd, yn enwedig o Awstralia a Chanada. Bu'n gefnogwr cadarn i Gymdeithas Lawfeddygol Cymru am flynyddoedd lawer, gan wasanaethu'n Llywydd arni yn 1959 a 1960. Fel aelod hirdymor o Fwrdd Ysbytai Rhanbarthol Cymru cyfrannodd i ddatblygiad ehangach gwasanaethau iechyd yn ei famwlad.
Roedd iaith, llên a thraddodiadau Cymru yn agos iawn at ei galon, ac roedd wrth ei fodd pan urddwyd ef â'r wisg wen yng Ngorsedd y Beirdd yn Eisteddfod Genedlaethol Rhydaman yn 1970, dan yr enw barddol Ifor o Wynfe. Yn 1977 fe'i hanrhydeddwyd gan Brifysgol Cymru yn Aberystwyth, pan dderbyniwyd ef i radd DSc honoris causa gan Ganghellor y Brifysgol, Tywysog Cymru, yng ngwydd y Canghellor blaenorol, Dug Caeredin.
Bu Ivor Lewis farw yn 86 oed ar 11 Medi 1982 yn Llanelwy, sir Ddinbych. Er na wireddodd obeithion ei fam iddo fynd i'r weinidogaeth, parhaodd yn Gristion ymroddedig ar hyd ei fywyd, gan wasanaethu fel blaenor Presbyteraidd yng Nghapel Marli, Cefn Meiriadog, lle cynhaliwyd ei angladd. Fe'i claddwyd wedyn, yn ôl ei ddymuniad, ym mynwent Twynllanan ym man ei eni, Llanddeusant.
Y flwyddyn ar ôl ei farwolaeth, yn sgil lansio cronfa gan feddygon Ysbyty Glan Clwyd, sefydlwyd darlith flynyddol, Darlith Goffa Ivor Lewis, ac fe'i cynhelir o hyd yn y Ganolfan Addysg Olradd yn Ysbyty Glan Clwyd. Yn 2011 agorwyd adran gleifion allanol newydd yn yr ysbyty a'i henwi'n Adeilad Ivor Lewis. Felly y coffheir campau llawfeddyg a arloesodd trwy gyfuno'r dulliau abdomenol a thorasig o dorri cancer yr oesoffagws, a dyn a wnaeth gyfraniad nodedig i fywyd cyhoeddus Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 2015-05-13
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.