Ganwyd Caradog Prichard ar 3 Tachwedd 1904 ym Methesda, yr ieuengaf o dri mab i John Pritchard a Margaret Jane (ganwyd Williams), ei wraig. (Dywed Caradog mai ei 'chwiw' ef ei hun oedd sillafu ei enw yn 'Prichard'.) Chwarelwr yn Chwarel y Penrhyn oedd ei dad; buasai allan ar streic ar ddechrau anghydfod hir a chwerw 1900-3, er iddo efallai dorri'r streic yn ddiweddarach. Dim ond pum mis oed oedd Caradog pan laddwyd John Pritchard mewn damwain yn y gwaith, ar 6 Ebrill 1905. O ganlyniad cafodd Caradog a'i frodyr fagwraeth dlawd ac ansefydlog, a thaflodd salwch meddwl eu mam yn y man gysgod pellach dros eu bywydau.
Cyflwr ei fam, a'i hanallu i sicrhau modd cynhaliaeth, a orfododd Caradog i ymadael ag Ysgol Sir Bethesda yn 1922 gan fynd i weithio fel is-olygydd ar Yr Herald Cymraeg. Yn 1923 symudodd i Ddyffryn Conwy gan barhau i weithio ar yr Herald cyn cael ei gyflogi gan y Faner fel gohebydd. Yr un flwyddyn aed â'i fam i Ysbyty Gogledd Cymru, Dinbych, sef ysbyty meddwl, lle'r oedd i dreulio gweddill ei hoes (bu farw 1 Mai 1954). Roedd Caradog wedi dechrau ymhel â barddoni erbyn hyn, gan ennill gwobrau a chadeiriau mewn eisteddfodau lleol, ac fel bardd y daeth i sylw cenedlaethol pan enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Caergybi, 1927; ac yntau'n 22 oed, ef oedd yr ieuengaf erioed i'w hennill. Aeth ymlaen i gyflawni'r gamp unigryw o ennill y Goron deirgwaith yn olynol gan mai ef a'i cipiodd hefyd yn Eisteddfodau Treorci, 1928, a Lerpwl, 1929.
Yn 1927 symudodd Caradog i Gaerdydd, lle bu'n gweithio ar y Western Mail am saith mlynedd. Ochr yn ochr â'i waith bob dydd, astudiodd Gymraeg a Saesneg yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, gan raddio yn 1933. Yn ystod yr un haf priododd Mattie Adele Gwynne Evans (1908-1994), athrawes a ddeuai'n wreiddiol o'r Gilfach-goch. Yn 1934 symudodd y ddau i Lundain lle parhaodd Caradog i newyddiadura. Bu'n is-olygydd ar y News Chronicle am rai blynyddoedd ond derbyniodd yr alwad i'r fyddin yn 1942; disgrifiodd ei hyfforddiant milwrol yn Donnington gyda chryn ffraethineb yn ei ddyddlyfr 'R Wyf Innau'n Filwr Bychan (1943), a gyhoeddwyd o dan yr enw Pte P. Ar ôl cael ei symud o un barics i'r llall bu yn India am ddwy flynedd, yn gweithio i'r Swyddfa Dramor yn Delhi lle harneisiwyd ei ddawn ysgrifennu at bwrpas propaganda Prydain. Dychwelodd i Lundain yn 1946 gan ailgydio yn ei hen swydd ar y Chronicle, ond yn 1947 croesodd i ochr arall Stryd y Fflyd i weithio i'r Daily Telegraph, fel is-olygydd seneddol. Yr un flwyddyn ganed merch, Mari, iddo ef a Mattie.
Daliodd Caradog i farddoni ar hyd ei gyfnod yn Llundain, er mai ffrwyth y blynyddoedd cyn iddo symud yno oedd prif gynnwys ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, Canu Cynnar (1937). Cyflwynodd y gyfrol honno i'w fam a'i chyd-gleifion yn yr ysbyty yn Ninbych, ac ymwneud â hi a'i threialon yr oedd llawer o'r cerddi gan gynnwys y tair pryddest goronog, 'Y Briodas', 'Penyd' ac 'Y Gân Ni Chanwyd'; roedd siom, tristwch a dadrith yn thema amlwg yng ngweddill y cerddi. Parhaodd yr ysfa i gystadlu yn gryf ynddo ac yn Eisteddfod Genedlaethol Dinbych, 1939, bu bron iddo ennill y Goron am y pedwerydd tro; dyfarnodd y beirniaid mai ei gerdd ef oedd yr orau yn y gystadleuaeth ond daethant i'r penderfyniad dadleuol nad oedd hi ar y testun, sef 'Terfysgoedd Daear', ac ataliwyd y wobr. Cerdd yn cyfiawnhau hunanladdiad oedd un Caradog ac fe'i cynhwyswyd yn ei ail gyfrol o farddoniaeth, Tantalus (1957), ochr yn ochr â cherddi'n edrych yn ôl ar ddyddiau mebyd, cerddi'n deillio o'i brofiadau yn yr Ail Ryfel Byd a cherddi i gydnabod.
Yn 1961 cyhoeddodd Caradog Un Nos Ola Leuad, ei unig nofel ond un a wnaeth wir argraff ar y byd llenyddol Cymraeg. A hithau wedi'i seilio'n agos ar blentyndod yr awdur ym Methesda, fe'i croesawyd fel darlun argyhoeddiadol a dirdynnol o fyd plentyn ac o chwalfa'r byd hwnnw, gyda dadfaeliad cymdeithas gyfan yn sgil y Rhyfel Byd Cyntaf yn gefndir i'r stori. Roedd newydd-deb yn ei pharodrwydd i drafod pynciau tabŵ fel gwallgofrwydd, hunanladdiad a gwyrdroad rhywiol, yng ngonestrwydd diarbed ei phortread o'r gymdeithas chwarelyddol ac yn ei defnydd, yn y naratif fel yn y ddeialog, o dafodiaith, sef Cymraeg llafar ardal Bethesda. Mae ei phoblogrwydd wedi parhau a thros y blynyddoedd fe'i haddaswyd ar gyfer radio, teledu, llwyfan a ffilm. Bu'r nofel yn fawr ei dylanwad ar do diweddarach o lenorion Cymraeg ac mae bellach wedi'i chyfieithu i nifer o ieithoedd gan gynnwys Saesneg (yng nghyfres Penguin o glasuron yr ugeinfed ganrif), Ffrangeg, Almaeneg, Iseldireg, Eidaleg, Groeg, Tsiec, Daneg a Hebraeg.
Yn 1962 daeth Caradog i amlygrwydd eto trwy ennill cadair Eisteddfod Genedlaethol Llanelli. Mae ei awdl, 'Llef Un yn Llefain', yn mynegi dadrithiad offeiriad sy'n teimlo ei fod wedi methu yn ei alwedigaeth - galwedigaeth yr oedd y bardd ei hun wedi'i hystyried ar fwy nag un adeg yn ei fywyd. Cyhoeddwyd yr awdl mewn cyfrol o farddoniaeth yn dwyn yr un teitl yn 1963, ond cerddi a oedd wedi gweld golau dydd o'r blaen oedd y rhain bron i gyd. Cyfrol o straeon wedi'u seilio ar fywyd Caradog oedd Y Genod yn ein Bywyd (1964); gwerth hunangofiannol yn hytrach nag unrhyw werth llenyddol mawr sydd iddynt.
Roedd Caradog yn weithgar gyda Chymdeithas Cymry Llundain mewn ffordd dawel, y tu ôl i'r llenni (e.e. bu'n golygu eu papur, Y Ddinas, yn y 1940au a thrachefn yn y 1950au), tra oedd ei wraig lawer mwy allblyg, Mattie, ynghanol bwrlwm cymdeithasol y gymuned honno. Roedd hi'n drefnwraig o fri a daeth y nosweithiau llawen a'r partïon a gynhaliai yn eu cartref yn St John's Wood yn adnabyddus, fel y cyngherddau a'r cymanfaoedd canu a drefnai yn yr Albert Hall. Roedd ei daliadau gwleidyddol, fel Rhyddfrydwraig ronc, yn dra gwahanol i eiddo Caradog, a oedd yn Dori. Er hynny, gyda'i hanian ymarferol a phenderfynol, bu'n angor ym mywyd ei gŵr, yn enwedig yn ystod ei frwydr ag alcohol a'r cyfnodau o iselder a ddeuai i'w ran weithiau.
Ymddeolodd Caradog o'r Daily Telegraph yn 1972 ond daliodd i newyddiadura rywfaint; e.e. parhaodd i anfon adroddiadau i'r papur o'r Eisteddfod bob mis Awst a bu ganddo golofn yn y Bangor and North Wales Weekly News. Cyhoeddodd hunangofiant gonest a difyr, Afal Drwg Adda (1973), a chasgliad cyflawn o'i gerddi (1979). O ddarllen y ddwy gyfrol, ynghyd ag erthyglau a ysgrifennodd, sylweddolir bod ei alltudiaeth fel rhywun a dreuliodd dros hanner ei oes yn Llundain, ymhell o'i wreiddiau Cymreig, wedi bod yn destun euogrwydd iddo ond hefyd yn ysgogiad creadigol pwysig. Mae'n wir hefyd ei fod, fel Ceidwadwr, brenhinwr ac eglwyswr, yn llenor sy'n sefyll gam y tu allan i fyd llenyddol Cymraeg ail hanner yr ugeinfed ganrif.
Bu Caradog Prichard farw 25 Chwefror 1980 yn 75 mlwydd oed a chafodd ei gladdu ym mynwent Eglwys Coetmor, Bethesda.
Dyddiad cyhoeddi: 2015-09-08
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.