PRYCE, THOMAS MALDWYN (1949-1977), rasiwr ceir

Enw: Thomas Maldwyn Pryce
Dyddiad geni: 1949
Dyddiad marw: 1977
Priod: Fenella J. Pryce (née Warwick-Smith)
Rhiant: Gwyneth Pryce (née Hughes)
Rhiant: Jack Pryce
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: rasiwr ceir
Maes gweithgaredd: Chwaraeon a Gweithgareddau Hamdden
Awdur: Gethin Matthews

Ganwyd Tom Pryce yn Sir Ddinbych ar 11 Mehefin 1949, ac fe'i magwyd yn Nantglyn. Roedd yn ail fab i Jack Pryce (bu farw 2007), heddwas a ddaeth yn sarsiant yn ddiweddarach, a'i wraig Gwyneth (ganwyd Hughes, bu farw 2009), nyrs ardal. Bu farw ei frawd hŷn, David J. Pryce (1947-1950), yn dair oed. Roedd arwyddion cynnar y gallai'r mab ieuengaf gael ei ddenu gan fyd moduro: yn fachgen ifanc fe deithiodd Tom gyda'i dad i wylio Grand Prix Prydain yn Aintree, a'i arwr oedd y Pencampwr Byd o'r Alban, Jim Clark. Dywedir iddo yrru fan (oddi ar y ffordd) pan yn 10 oed; yn 12 oed dywedodd wrth ei rieni mai ei uchelgais oedd rasio ceir.

Roedd yn dilyn cwrs amaethyddiaeth ym 1970 pan enillodd y Daily Express Crusader Championship ar gyfer gyrwyr ifanc, a'r wobr oedd car Fformiwla Ford a chefnogaeth i'w rasio am flwyddyn. Symudodd i lety ger Brands Hatch ac am y pedair blynedd nesaf bu'n dysgu'r grefft o rasio yn y pencampwriaethau iau. Enillodd bencampwriaeth F100 ym 1972 ac fe greodd argraff yn Fformiwla 3, Fformiwla Atlantic a Fformiwla 2. Fe ddaeth ei gyfle i symud ymlaen i Fformiwla 1 ym 1974, diolch i dîm Token - tîm bychan newydd, heb lawer o adnoddau. Ras gyntaf y car oedd y Tlws Rhyngwladol yn Brands Hatch, lle dechreuodd Tom yn olaf ar y grid ac yn y ras ei hun ni pharodd y car ond 15 o lapiau. Fe gystadlodd tîm Token nesaf yn Grand Prix gwlad Belg, lle dechreuodd Tom yn safle 20 allan o 31, o flaen rhai gyrwyr profiadol - y tro hwn fe barhaodd ei ras am 66 o lapiau cyn dod i ben oherwydd gwrthdrawiad â char arall. Yna, oherwydd gwleidyddiaeth fewnol byd rasio, fe wrthodwyd lle i Pryce yn y GP ym Monaco, ac felly fe gystadlodd yn y ras Fformiwla 3, a enillodd gyda mantais ryfeddol o 21 o eiliadau o flaen pawb arall. O ganlyniad, cynigiwyd cyfle i Pryce gyda thîm F1 Shadow, a chystadlodd iddynt am y tro cyntaf yn GP yr Iseldiroedd ym Mehefin 1974. Yn gyffredinol, byddai ceir tîm Shadow yn llercian rhywle yng nghanol y cystadleuwyr, ond gydag amgylchiadau ffafriol fe ddangosai Pryce ei fod yn gallu hawlio lle ar y podiwm. Yn ei ail GP i Shadow ar drac Dijon yn Ffrainc fe ddechreuodd o'r trydydd safle ar y grid; yn ei bedwaredd ras ar drac enwog y Nurburgring fe hawliodd ei bwynt cyntaf ym mhencampwriaeth F1 trwy orffen yn y chweched safle.

Yn y glaw yr oedd talent Pryce amlycaf: pryd bynnag y casglai'r cymylau, symudai Tom tua'r blaen. Fe ddaeth ei ganlyniad gorau ar ei drac gartref, Brands Hatch, yn ‘Ras y Pencampwyr’ 1975 (ras lawn Fformiwla 1, er nad oedd y canlyniad yn cyfrif tuag at y bencampwriaeth). Yn y glaw mân fe ddaeth yn ail yn y rhagbrofion (perfformiad o ‘hudoliaeth bur’ yn ôl Autosport). Collodd dir ar ddechrau'r ras ond brwydrodd yn ôl i'r ail safle ac roedd yn pwyso am y safle cyntaf pan fethodd car arweinydd y ras. Gyrrodd Pryce yn fuddugoliaethus i dderbyn y faner ddu-a-gwyn, dros hanner munud o flaen y car nesaf, gan ddod yn gyfartal â'r record am lap cyflymaf y trac.

O bosibl fe allai fod wedi esgyn eto i ben y podiwm ar ôl GP Awstria ar 17 Awst 1975: yn y glaw trwm fe ruthrodd o'r 15ed safle ar y grid i'r trydydd safle ar ôl 29 o'r 54 o lapiau arfaethedig, ond dyna pryd bu'n rhaid rhoi'r gorau i'r ras. Fodd bynnag, dyna flas cyntaf Pryce o'r podiwm mewn ras ar gyfer pencampwriaeth F1.

Oddi ar y trac, roedd Tom yn ddyn swil a di-ymffrost: byd i ffwrdd o'r ddelwedd o siampên a phartïon oedd yn nodweddiadol o raswyr y 1970au. Yn wir, pan gyfarfu â'i ddarpar wraig, Fenella (Nella) J. Warwick-Smith (ganwyd 1955), dywedodd wrthi ei fod yn fecanydd fel na fyddai'n ymddangos ei fod yn brolio. Fe briododd y ddau yn Otford, Swydd Caint, ym mis Ebrill 1975. Roedd yn well ganddo gwmni mecanyddion y tîm na bywyd cymdeithasol gwyllt rhai o'r raswyr, a dywedir bod yn rhaid i reolwr y tîm ddweud y drefn wrtho am gael olew ar ei oferôls. Ar y trac, roedd ei arddull drawiadol o yrru yn atyniadol i lu o gefnogwyr, a ryfeddodd wrth i Pryce daflu ei gar yn erbyn y cyrbau, gan ddefnyddio pob modfedd o'r trac.

Profodd tymor 1976 yn rhwystredig i dîm Shadow, na feddai gefnogaeth ariannol y timoedd mawr i ddatblygu'r car yn barhaol i gadw'n gystadleuol. Er gwaethaf sïon y byddai Pryce yn cael ei ddenu gan un o'r timoedd blaenllaw, fe arhosodd yn deyrngar i Shadow lle cafodd ei barchu a'i edmygu. Fe ddaeth canlyniad gorau'r tymor i Pryce yn y ras gyntaf, ym Mrasil, lle symudodd o'r 12fed safle ar y grid i orffen yn drydydd a hawlio lle ar y podiwm am yr eildro ym mhencampwriaeth F1. Yr ail ganlyniad gorau iddo ym 1976 oedd pedwerydd safle yn ei ras gartref yn Brands Hatch, ond am y rhan fwyaf o'r tymor bu Pryce yn brwydro yn erbyn diffygion ei gar. Yn ras olaf y tymor, gornest enwog lle penderfynwyd tynged y bencampwriaeth mewn tywydd hynod stormus yn Siapan, roedd Pryce yn rasio'n gryf yn yr ail safle nes i fethiant mecanyddol, unwaith yn rhagor, ddod â'i ras i ben.

Dechreuodd tymor 1977 gyda dwy ras yn Ne America lle methodd car Shadow Pryce â gorffen, er iddo rasio yn yr ail safle ym Mrasil. Cynhaliwyd y ras nesaf yn Kyalami, De Affrica, ar 5 Mawrth. Roedd yn glawio ar gyfer y sesiwn ymarfer gyntaf, ac amser Pryce oedd y gorau; fodd bynnag yn y sesiwn ragbrofol nid oedd ei Shadow yn gallu gwneud yn well na'r 15fed safle. Ar ddechrau'r ras, am resymau na fydd byth yn hysbys, fe lithrodd Pryce yn ôl i tua diwedd y rhes o geir, ond yna fe wthiodd ei ffordd heibio i'r ceir o'i flaen ac erbyn diwedd y 22ain lap roedd yn herio ar gyfer yr 11fed safle. Ar yr adeg honno fe redodd marsial tân ifanc, di-brofiad ar draws darn cyflymaf y trac gan gario diffoddydd tân er mwyn delio â digwyddiad digon dibwys. Roedd Tom yn teithio ar gyflymder o 170 m.y.a., heb olwg glir o'r sefyllfa gan ei fod y tu ôl i gar arall, ac nid oedd unrhyw gyfle iddo osgoi gwrthdrawiad. Lladdwyd ef a'r marsial yn y fan a'r lle.

Fe gladdwyd Tom Pryce yn Otford, ond fe drysorir y cof amdano ym myd rasio ceir ac yn enwedig yng Nghymru. Gan nad oes yr un Cymro wedi cystadlu yn Fformiwla 1 ers ei ddyddiau ef, fe deimlir y golled yn fwy yn ei famwlad. Ar ddiwrnod ei benblwydd yn 60 oed, dadorchuddiwyd cerflun ohono yn Rhuthun, y dref lle'i magwyd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2014-07-04

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/