Fe'i ganwyd mewn cartref symudol yng Nghae Siop y Bont, Pontyberem, Sir Gaerfyrddin, ar 25 Mawrth 1915, yn ferch i Archibald James Squires, gweithiwr dur, a'i wraig Emily (ganwyd Rickards). Roedd y pâr wedi priodi yng Nghasnewydd yn 1911. Enw gwreiddiol Dorothy oedd Edna May Squires. Fe'i magwyd ym mhentref Dafen ger Llanelli, ac ymddangosodd hi am y tro cyntaf fel cantores yn y Ritz Ballroom, Llanelli gyda'r Denza Players, band dawns lleol.
Roedd yn gantores bert, bersain a llawn cymeriad, ac yn ugain oed penderfynodd adael Cymru, lle roedd wedi gweithio mewn swyddi di-nod, gan gynnwys cyfnod tu ôl i'r cownter yn y siop Woolworth's leol, a mynd i geisio ei ffortiwn yn Llundain. Yn fuan iawn roedd yn gweithio yng nghlwb y Burlington yn y West End ac yn 1936 perfformiodd ar radio'r BBC. Tua'r adeg yma cwrddodd â'r arweinydd band Billy Reid (1902-1974), gŵr priod y ffurfiodd hi berthynas broffesiynol a phersonol agos ag ef. Roedd gan Reid gysylltiadau helaeth yn y maes, a bu ei pherthynas ag ef yn gymorth mawr i'w gyrfa. Ef a luniodd ac a gyfeiliodd lawer o'i chaneuon mwyaf llwyddiannus yn y blynyddoedd oddeutu'r rhyfel, gan gynnwys 'The Gypsy', 'This is my mother's day' a 'Safe in my arms'.
Yn 1945 daeth Squires yn gantores breswyl ar raglen 'Variety Bandbox' y BBC a pherfformiodd yn y London Palladium. Roedd ei pherthynas â Reid wedi bod yn danllyd iawn erioed, a daeth i ben yn ddiurddas yn 1951 pan ffraeodd y ddau yn gyhoeddus mewn bar yn y theatr yn Llanelli a oedd yn eiddo iddynt ar y cyd. Yr achos llys dilynol dros asedau'r ddau oedd y cyntaf o lawer yng ngyrfa hir Squires fel ymgyfreithiwr.
Ar ôl iddi ymwahanu oddi wrth Reid, cwrddodd â Roger Moore, model gwryw ac actor anadnabyddus ar y pryd, a ffolodd arno'n syth. Yn 1953 ysgarodd Moore oddi wrth ei wraig er mwyn priodi Squires, ac aeth y ddau i Hollywood gyda'r bwriad o hyrwyddo ei yrfa. Squires oedd yn bennaf cyfrifol am negodi rhan Moore yn ffilm MGM The Last Time I Saw Paris, lle ymddangosodd gydag Elizabeth Taylor, ac aeth gyrfa Moore ar i fyny yn sydyn iawn o hynny ymlaen. Fel y cynyddodd ei gyfleoedd ef, prinhau wnaeth ei rhai hithau. Roedd tipyn o sôn bod Moore yn anffyddlon iddi, ac yn 1961 cyhoeddodd ei fod yn ei gadael am yr actores Luisa Mattioli. Roedd hyn yn ergyd ofnadwy i Squires, a gwrthododd ganiatáu ysgariad tan 1968.
Erbyn hyn roedd Squires yn brin o arian, ac aeth pethau o ddrwg i waeth yn sgil ei thuedd i fynd i gyfraith am yr achos lleiaf. Daeth sawl cwmni cyfryngau ac unigolion dan ei llach, ac er iddi ennill ambell achos, collodd lawer mwy, nes iddi gael ei dyfarnu'n 'vexatious litigant' yn 1987. O ganlyniad ni châi ddwyn achos heb ganiatâd penodol yr Uchel Lys. Roedd hefyd wedi mynd yn fethdalwraig erbyn hynny.
Roedd Dorothy Squires yn seren fywiog a hardd ym myd adloniant. Ac yn fwy na hynny, fel y rhan fwyaf o gantorion poblogaidd llwyddiannus, roedd ganddi ddawn gerddorol wirioneddol. Roedd ei ffans yn niferus, yn ffyddlon ac yn drefnus iawn. Yng nghyfnod ei llewyrch roedd yn un o'r perfformwyr Prydeinig mwyaf carismataidd a llwyddiannus. Ni ddylid gadael i helbulon ei bywyd personol fwrw i'r cysgod ei holl gyraeddiadau fel perfformwraig boblogaidd benigamp.
Cafwyd tro trist ond calonogol yn rhan olaf ei bywyd. Dioddefodd y gwarth o gael ei throi allan o'i chartef mawreddog. Daeth y newyddion am hyn i Esme Coles, siopwraig a ffan ymroddedig, ym mhentref Trebanog ar waelod Cwm Rhondda. Roedd Mrs Coles yn berchen ar dŷ gwag yn y pentref, a chynigiodd hwn i Squires yn rhad ac am ddim. Derbyniodd Squires yn syth, gan gyrraedd yn dawel bach yng nghanol nos gyda chwpl o gesys yn cynnwys ei heiddo personol a sawl blychaid o bapurau cyfreithiol. Bu'n byw yn dawel ac yn enciliol yn y tŷ hwn, 153 Heol Trebanog, am weddill ei hoes, ond cafodd groeso gan bobl y pentref.
Bu Dorothy Squires farw o gancr yr ysgyfaint ar Ebrill 14 1998 yn Ysbyty Llwynypia mewn ystafell, yn ôl y sôn, a addurnwyd ar orchymyn Roger Moore gan y tusw mwyaf o flodau a dderbyniwyd erioed yn yr ysbyty bach lleol hwn. Claddwyd ei gweddillion ym mynwent Streatham Park, claddfa a gysylltir â'r Variety Artists Benevolent Fund.
Dyddiad cyhoeddi: 2015-08-14
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.