Ganwyd Eric Sunderland ym Mlaenau ger Rhydaman, Sir Gaerfyrddin ar 18 Mawrth 1930, yn ail fab i Leonard Sunderland (1898-1990), Arolygwr Glanweithdra gyda Chyngor Dyffryn Aman, a'i wraig Mary Agnes (ganwyd Davies, 1901-1997). Ei frawd hŷn oedd Terence Raymond Sunderland (1921-2012). Cafodd Eric ei addysg yn Ysgol Ramadeg Dyffryn Aman; Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth (1947-50), BA Dosbarth Cyntaf Daearyddiaeth ac Anthropoleg; Coleg y Brifysgol, Llundain, Ph.D. Anthropoleg (1954). Priododd â Jean Patricia Watson (1931-) ar 19 Hydref 1957, a ganwyd iddynt ddwy ferch, Helen Rowena (1958-) a Frances Anne (1960-).
Ar ôl cyfnod yn ymchwilydd gyda'r Bwrdd Glo Cenedlaethol, cafodd swydd fel darlithydd mewn Anthropoleg ym Mhrifysgol Durham yn 1958 ac fe'i penodwyd i'r Gadair yn y pwnc hwnnw yn 1971, gan ei dal hyd 1984 tra'n gwasanaethu fel Dirprwy Is-Ganghellor y Brifysgol (1979-1984). Yn 1984 fe'i penodwyd yn Brifathro Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor (swydd a ailddynodwyd yn Is-Ganghellor Prifysgol Cymru, Bangor ddegawd yn ddiweddarach) ac ymddeolodd yn 1995. Gwasanaethodd fel Is-Ganghellor y Brifysgol ffederal 1989-1991. Dyfarnwyd LL.D iddo gan Brifysgol Cymru yn 1997, gan gydnabod y rhan flaenllaw a chwaraeodd wrth lywio'r ddau sefydliad trwy gyfnodau anodd. Ar adeg ei benodiad roedd Bangor wedi ei hollti gan anghydfod mewnol, yn bennaf ynghylch materion ieithyddol. Roedd yr ysbryd yn isel a'r sefyllfa ariannol braidd yn fregus. Aeth Sunderland i'r afael â'r problemau gyda dirnadaeth anthropolegydd. Yn Gymro Cymraeg, agorodd linellau cyfathrebu angenrheidiol a chyflwynodd hinsawdd newydd o ran perthynas â'r staff. Nid ochelodd gamau angenrheidiol i adfer iechyd ariannol chwaith, megis cau adrannau hirsefydlog. Yn yr un modd, wrth i Brifysgol Cymru ymdrechu i ganfod strwythur a fyddai'n cydnabod hunaniaeth ei cholegau cyfansoddol a hefyd werth ei photensial cyfunol, cyfrannodd Sunderland i'r cymod ymddangosiadol a luniwyd erbyn iddo ymadael â'i swydd. Ei ran ffurfiol olaf ym mywyd prifysgolion Cymru oedd fel Llywydd Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan (1998-2001).
Ers dechrau ei yrfa yn Durham roedd wedi dangos ei allu a'i barodrwydd i wasanaethu mewn amryw swyddogaethau y tu hwnt i'w gyfrifoldebau academaidd a gweinyddol o fewn ei sefydliad ei hun. Am ugain mlynedd o 1978 gwasanaethodd fel Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb Rhyngwladol y Gwyddorau Anthropolegol ac Ethnolegol, ac yna fel ei Lywydd hyd 2005. Cafodd Fedal Aur y corff hwnnw am ei wasanaeth, a daeth yn ffigwr adnabyddus mewn cylchoedd anthropolegol ar draws y byd. Gwasanaethodd hefyd fel Llywydd y Sefydliad Anthropolegol Brenhinol, Llundain, 1989-1991. Tystiai'r penodiadau hyn i'w statws proffesiynol ymhlith anthropolegwyr, a hefyd i'w allu i ddygymod â chymhlethdodau cyrff o'r fath. Ymhlith ei gyhoeddiadau roedd llyfrau cywaith ar Genetic Variation in Britain (1973), The Exercise of Intelligence: Biosocial Preconditions for the Operation of Intelligence (1980) a Genetics and Population Studies in Wales (1986).
Wedi iddo ymddeol, prin y gellid disgwyl iddo roi'r gorau i'w waith gyda'r cyrff yr oedd eisoes yn gysylltiedig â hwy, na chwaith iddo wrthod y ceisiadau anochel am ei wasanaeth gyda chyrff newydd. Hyd 2010 parhaodd i gadeirio Gwasg Gregynog, lle roedd ei ddiddordeb a'i frwdfrydedd am lyfrau cain yn werthfawr iawn. Bu'n gadeirydd hefyd ar Bwyllgor Cymreig y Cyngor Prydeinig (1996-2001). Roedd ei wasanaeth fel petai'n ddibendraw, yn arbennig yng Ngwynedd, lle daliai i fyw, ac ar draws Cymru. Roedd yn aelod o Lys Llywodraethwyr yr Amgueddfa Genedlaethol (1991-1994) ac o Gyngor Darlledu Cymru (1996-2000). Ef oedd Prif Swyddog y Cyfrif ar gyfer y refferendwm ar ddatganoli yn 1997. Mae'r ymddiriedaeth iddo o bob tu yn amlwg hefyd o'i benodiad yn 2001 yn Gadeirydd y Comisiwn ar Drefniadaeth Etholiadol Llywodraeth Leol yng Nghymru (ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru). Gwasanaethodd fel Uchel Siryf Gwynedd (1998-1999) ac wedyn bu'n Arglwydd Raglaw (a Cheidwad Rholau) y sir tan 2006. Bu'n Gadeirydd Rhanbarthol y Gronfa Gelf ar gyfer Cymru (2005-2010). Ymhlith y cyrff eraill y bu'n gysylltiedig â hwy neu y cafodd ei ethol iddynt oedd Urdd Sant Ioan o Gaersalem (o 2000), Urdd Lifrai Cymru (o 2001), y Sefydliad Bioleg (o 2009), a Chymdeithas Ddysgedig Cymru (2010). Roedd yn gwbl weddus bod ei wasanaeth cyhoeddus helaeth yng Nghymru a'r tu hwnt yn cael ei gydnabod, a dyfarnwyd OBE iddo yn 1999 a CBE yn 2005. Rhoddwyd rhyddfraint Bangor iddo yn 2005.
Bu Eric Sunderland farw o gancr y cefndedyn yn ei gartref ym Miwmares, Môn, ar 24 Mawrth 2010. Cynhaliwyd ei angladd yn Eglwys Gadeiriol Bangor.
Mae rhai pobl yn gwneud eu cyfraniad trwy ganolbwyntio'n llwyr ar un maes neu weithgarwch. Nid dyna ffordd Eric. Gwerth ei fywyd a hanfod ei lwyddiant - ac efallai fod hyn yn wedd ar ei arbenigedd academaidd - oedd ei allu i ddeall 'o ble roedd pobl yn dod' a llunio ffyrdd o wneud amrywiaeth yn gryfder yn hytrach nag yn achos gwrthdaro. Ni olygai hynny ei fod heb gred gadarn na'i amcanion a'i uchelgais pendant ei hun. Roedd yn ŵr o Orllewin Cymru a ffynnodd yn y Gogledd (fel yr oedd wedi'i wneud yng Ngogledd Lloegr hefyd). Roedd yn Gymro Cymraeg balch, ac roedd cefnogaeth a chariad ei deulu yn hollbwysig iddo, ond yn ei gefndir teuluol a'i fywyd academaidd cyfunai ddau fyd gwahanol iawn. Llwyddodd i wneud hynny trwy'r doniau helaeth oedd ganddo, sef hiwmor, sensitifrwydd artistig a cherddorol, deallusrwydd, a diwydrwydd dibendraw.
Dyddiad cyhoeddi: 2015-10-28
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.