Ganwyd Maurice Turnbull yng Nghaerdydd ar 16 Mawrth 1906, y trydydd o chwech o blant Philip Bernard Turnbull (1879-1930), perchennog llongau, a'i wraig Annie Marie Hennessy Oates (c.1879-1942). Chwaraeodd ei dad hoci dros Gymru ac enillodd fedal efydd gyda thîm Cymru yng Ngemau Olympaidd 1908. Addysgwyd Maurice yn Ysgol Downside a Phrifysgol Caergrawnt. Priododd Elizabeth Brooke, Scunthorpe yn 1939, a ganed iddynt dri phlentyn: Sara, Simon a Georgina.
Chwaraeodd Maurice Turnbull ei gêm gyntaf i Forgannwg yn 1924 tra yn ddisgybl ysgol yn 18 mlwydd oed, a chyfrannodd yn sylweddol, ar sail ei sgôr o 40 rhediad yn y batiad cyntaf, at fuddugoliaeth ei dîm yn erbyn swydd Gaerhirfryn. Yn 1926 enillodd ei Las Caergrawnt a sgoriodd ei gant cyntaf mewn gêm ddosbarth cyntaf, sef 106 heb fod allan yn erbyn swydd Gaerwrangon ar faes Parc yr Arfau, Caerdydd. Yn 1929 bu'n gapten Prifysgol Caergrawnt a sgoriodd dros 1,000 o rediadau i dîm y Brifysgol. Fe'i dewiswyd ar gyfer taith yr MCC i Awstralia a Seland Newydd, a chwaraeodd i Loegr am y tro cyntaf yn y Gêm Brawf gyntaf yn erbyn Seland Newydd ym mis Ionawr 1930. Ef oedd cricedwr cyntaf Morgannwg a aned yn y sir i chwarae mewn Gêm Brawf. Chwaraeodd gyfanswm o naw Gêm Brawf, gan gynnwys pob un o'r Gêmau Prawf yn erbyn De Affrica yn 1930-31, ac ar y daith honno sgoriodd 139 yn erbyn Western Province. Cofnodwyd hanes ei deithiau gyda'r MCC yn y ddwy gyfrol a ysgrifennodd gyda M. J. C. Allom, The book of the two Maurices (1930) a The two Maurices again (1931).
Bu'n arwain tîm Morgannwg yn 1929, ac, wedi ei benodi'n gapten yn 1930, arweiniodd y sir am ddeg tymor gan gael ei gydnabod yn gapten ysbrydoledig. Yn ei dymor cyntaf sgoriodd 1,655 o rediadau a gorffennodd y sir yn unfed ar ddeg yn Nhabl y Bencampwriaeth. Ei fatiad gorau i'r sir oedd yr un yn 1932 pan sgoriodd 205 yn erbyn swydd Nottingham, a'i bowlwyr yn cynnwys Harold Larwood a Bill Voce, y bowlwyr 'bodyline' arswydus. Cytunodd i weithredu fel ysgrifennydd y sir yr adeg yma, a gyda'i gyfaill J. C. Clay, ymdrechodd yn ddygn yn ystod gaeaf 1932-33 i godi digon o gyllid i sicrhau parhad y tim sirol. Yn 1933 sgoriodd 1,542 o rediadau, gan gynnwys 200 heb fod allan yn erbyn swydd Northampton, ac fe'i dewiswyd eto i chwarae dros Loegr yn y Gêmau Prawf yn erbyn India'r Gorllewin yn Lord's a'r Oval. Yn 1934 bu'n flaenllaw yn y trafodaethau a arweiniodd at gyfuno siroedd Morgannwg a Mynwy, gan felly ymestyn ardal ddewis y clwb. Chwaraeodd yn erbyn India yn 1936, a bu'n ddewiswr ar gyfer Gêmau Prawf 1938 ac 1939. Yn 1939, ei dymor olaf gyda Morgannwg, sgoriodd 1,234 o rediadau ar gyfartaledd o 28.69, gyda sgôr uchaf o 156 yn erbyn swydd Gaerlŷr yng ngêm olaf y tymor.
Chwaraeodd Maurice Turnbull fel mewnwr i Gymru yn erbyn Lloegr yn y gêm rygbi gofiadwy yn 1933 pan gurodd Cymru Loegr am y tro cyntaf ar faes Twickenham, ac felly ef yw'r unig un i chwarae criced mewn Gêm Brawf i Loegr a rygbi rhyngwladol i Gymru: un arall o gricedwyr Morgannwg i chwarae yn y gêm honno oedd Wilfred Wooller. Yr oedd Turnbull eisoes wedi chwarae rygbi i Ysgol Downside a Phrifysgol Caergrawnt, a chwaraeodd ei gêm gyntaf i Gaerdydd yn ystod tymor 1931-32. Hefyd, chwaraeodd hoci a sboncen dros Gymru ac, yn un o sefydlwyr Clwb Sboncen Caerdydd, enillodd bencampwriaeth sboncen De Cymru.
Gwasanethodd yn y Gwarchodlu Cymreig yn yr Ail Ryfel Byd. Yn Uwchgapten yn y Bataliwn Cyntaf, fe'i lladdwyd ger pentref Montchamp ar 5 Awst 1944 tra'n arwain grŵp bach yn ystod gwrth-ymosodiad gan yr Almaenwyr yn dilyn glaniadau D-Day yn Normandi.
Dyddiad cyhoeddi: 2015-02-20
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.