TURNER, MERFYN LLOYD (1915-1991), diwygiwr cymdeithasol ac awdur

Enw: Merfyn Lloyd Turner
Dyddiad geni: 1915
Dyddiad marw: 1991
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: diwygiwr cymdeithasol ac awdur
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil
Awdur: Llion Wigley

Ganwyd Merfyn Turner ym Mhenygraig, Rhondda ar 20 Hydref 1915 yn fab i Edward Godfrey Turner a'i wraig Lizzie Violet Turner (née Lloyd). Roedd ganddo un brawd, Rhiwallon, a dwy chwaer, Beryl a Corriswen. Crwydrodd y teulu cryn dipyn yn ystod ei blentyndod gan fod ei dad yn weinidog gyda'r Wesleaid, a mynychodd nifer o ysgolion gwahanol, o Amlwch i Lanfyllin. Astudiodd Hanes, Economeg a Llenyddiaeth ym mhrifysgol Aberystwyth rhwng 1934 a 1937, ac aeth ymlaen i ennill Diploma mewn Addysg yng Ngholeg Westminster y flwyddyn ganlynol. Bu'n athro yn Eastbourne am gyfnod byr cyn i'r Ail Ryfel Byd ymyrryd.

Roedd yn heddychwr o argyhoeddiad ac aeth o flaen tribiwnlys De Cymru yn Aberystwyth fel gwrthwynebwr cydwybodol ym 1940. Gwrthodwyd ei gydnabod, ac felly hefyd gan y Tribiwnlys Apeliadol, a bu'n rhaid iddo fynychu archwiliad meddygol cyn cael ei alw fyny i'r fyddin. Gwrthododd gydymffurfio, ac arweiniodd hynny at ei erlyn a'i ddedfrydu i dri mis o garchar gyda llafur caled a dreuliodd yng ngharchar Abertawe. Galluogodd y ddedfryd iddo ddychwelyd i'r Tribiwnlys Apeliadol, lle'i esgusodwyd bellach o wasanaeth milwrol yn amodol arno'n gwneud gwaith cymdeithasol. Cychwynnodd ar ei yrfa fel gweithiwr ac adferwr cymdeithasol mewn clwb ieuenctid yn ardal Tiger Bay, Caerdydd. Symudodd i Lundain ym 1944 er mwyn gweithio gyda dynion digartref yn yr Oxford House Settlement ym Methnal Green. Bu'n byw a gweithio yn Llundain am weddill ei oes, er iddo ymweld â Chymru yn rheolaidd ac ysgrifennu a darlledu'n helaeth yn y Gymraeg.

Cafodd ei apwyntio'n warden y Webbe Boys Club ym Methnal Green ym 1946 a gyda'i gydymdeimlad nodweddiadol a naturiol â phobl yr ymylon gweithiodd yn arbennig o agos gyda'r bechgyn nad oedd yn medru cydymffurfio â rheolau'r clwb. Gyda chymorth nawdd o'r London Parochial Charities, sefydlodd glwb arbennig i'r bechgyn hyn ar hen gwch camlas o'r enw Normanhurst yn ardal Wapping o afon Tafwys. Gweithiodd fel warden ei arbrawf cymdeithasol cyntaf nes 1952. Yn y cyfamser, ysbrydolwyd ei ddiddordeb angerddol ym mywyd a gofal carcharorion gan ei brofiadau ei hun, a dechreuodd ymweld â hwy yn wirfoddol ym 1946, yng ngharchar Pentonville yn fwyaf arbennig, a pharhaodd i wneud hynny'n rheolaidd am dros ddeugain mlynedd. Sylwodd faint ohonynt oedd yn gadael y carchar yn ddigartref a heb unrhyw deulu i'w cefnogi. Sicrhaodd gymorth unwaith eto o'r London Parochial Charities ym 1954 i sefydlu cartref teuluol ar gyfer tua deuddeg o gyn-garcharorion a fyddai'n rhoi'r cyfle iddynt ganfod gwaith a chyfeillgarwch, yn hytrach na gorfod troi i'r tai llety cyffredin a'r canolfannau derbyn, a oedd yn debyg iawn i'r carchar o ran eu hamodau. Prynodd dŷ helaeth yn ardal Highbury, gogledd Llundain, ac agorwyd Norman House ym 1955 gydag ef ei hun fel y warden cyntaf. Priododd wirfoddolwraig a ddaeth i weithio yno o'r enw Shirley Davis (ganwyd1932) a chawsant bump o blant - dau fachgen a thair merch (tripledi). Ysbrydolwyd y syniad ar gyfer y fenter yn rhannol gan ei deithiau rheolaidd yng ngwledydd Sgandinafia yn y pedwardegau a'r pumdegau, lle gwelodd drosto'i hun ddulliau o drin ac adfer carcharorion a oedd yn llawer llai cosbedigaethol nag yr oedd yr agwedd draddodiadol tuag atynt ym Mhrydain yn ei ganiatáu.

Norman House oedd y tŷ hanner ffordd cyntaf ym Mhrydain ar gyfer cyn-garcharorion. Dilynwyd ei esiampl ledled y deyrnas yn y pumdegau hwyr a'r chwedegau, gan greu model newydd ar gyfer gofal carcharorion wedi iddynt gael eu rhyddhau. Derbyniodd ei arbrawf sêl bendith swyddogol o'r chwedegau cynnar ymlaen trwy grantiau llywodraeth i sefydlu tai hanner ffordd o'r un math. Rhannu bywyd fel teulu oedd yr allwedd i lwyddiant Norman House, a phrif nod y fenter oedd cynnig amgylchedd diogel a sefydlog i'r dynion er mwyn iddynt allu ailsefydlu eu hunain yn y gymdeithas. Adlewyrchai hyn gred ganolog Turner mai amodau cymdeithasol, emosiynol a theuluol difreintiedig oedd yn arwain at y mwyafrif o droseddau yn hytrach nag unrhyw fath o ddrygioni cynhenid: 'No man is born a criminal, and no man is only a criminal'. Credai o ganlyniad bod caethiwo'r rhan fwyaf o garcharorion yn ddiangen ac yn amhriodol, ac y byddent yn ymateb yn well ac yn llai tebygol o ail-droseddu petai dulliau eraill o'u hadfer o fewn y gymuned yn cael eu datblygu a'u defnyddio. Amlinellodd y model amgen hwn i garchar yn ei bamffled pwysig Prisoners Progress, a gyfieithwyd i'r Gymraeg gan ei gyfaill agos Dyfnallt Morgan (1917-1994).

Daeth yn ffigwr adnabyddus ym Mhrydain yn y pumdegau trwy'r rhaglenni radio a theledu a gyflwynodd i'r BBC ynglŷn â phrofiadau carcharorion, y digartref a'r gwrthodedig yn y gymdeithas. Ymddangosodd ar Desert Island Discs hyd yn oed ym 1963. Credai'n gryf ym mhwysigrwydd dysgu a dangos empathi a chefnogaeth trwy brofiad ymarferol, a threuliodd dri mis yn byw mewn tŷ llety cyffredin er mwyn deall yn well y math o amgylchedd llwm a wynebai carcharorion ar ôl iddynt gael eu rhyddhau. Cerddodd strydoedd cefn Llundain gyda'r nos yn recordio pobl ddigartref ar gyfer rhaglenni radio am eu problemau, a gweithiodd mewn ffair yn Hoxton un haf er mwyn dysgu mwy am ddau griw afreolus o bobl ifanc oedd yn ymgynnull yno. Roedd ei barodrwydd cyson i'w roi ei hun mewn sefyllfaoedd a fyddai wedi brawychu eraill yn rhan o'i ddehongliad o Gristnogaeth yn nhermau byw o ddydd i ddydd, gyda phwyslais cadarn ar faddeuant a derbyniad. Parhaodd i weithio yn Norman House a'i ddau olynydd yn Llundain nes ei ymddeoliad ym 1980. Gweithiodd yn agos yn ei flynyddoedd hwyrach gyda charcharorion yn Broadmoor a ystyrid gan lawer y tu hwnt i unrhyw gymorth, a gyda charcharorion o wledydd tramor a oedd yn wynebu cael eu halltudio, yn aml am resymau gwleidyddol.

Roedd yn ŵr tal, main, rhadlon a neilltuol o amyneddgar; yn beldroediwr dawnus (bu'n gefnwr chwith i Cardiff City am gyfnod); yn llwyrymwrthodwr; ac ysmygai bibell yn ddi-baid, yn rhannol oherwydd credai fod hynny'n ffordd o ennill ymddiriedaeth y carcharorion fel ymwelydd. Y gallu i wrando'n empathig a chynnig derbyniad diamod i'r carcharorion oedd y rhinweddau pwysicaf a ddatblygodd yn y rôl honno. Roedd ei waith gyda charcharorion yn gyffredinol yn arbennig o oleuedig, cydymdeimladol a modern, ac yn sicr roedd yn un o'r arloeswyr pwysicaf yn y maes yn ail hanner yr ugeinfed ganrif. Parchwyd ei syniadau trugarog gan farnwyr, cyfreithwyr a gwleidyddion blaenllaw ei oes, ym Mhrydain a thu hwnt, a chafodd ei waith ddylanwad arwyddocaol a pharhaol ar agweddau tuag at adfer a gofalu am gyn-garcharorion.

Ysgrifennodd chwech o lyfrau pwysig sy'n disgrifio ei arbrofion cymdeithasol a'i brofiadau fel ymwelydd: pedwar yn Saesneg, sef Ship without Sails (1953), Forgotten Men (1960), Safe Lodging (1961), A Pretty Sort of Prison (1964); a dau yn Gymraeg, O Ryfedd Ryw (1970) a Trwy'r Drws ac Allan (1987).

Bu farw o gancr yn Ysbyty Royal Free, Llundain ar 6 Awst 1991 a llosgwyd ei gorff yn amlosgfa St. Marylebone.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2014-10-24

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.