Fe wnaethoch chi chwilio am 1941

Canlyniadau

BARRETT, JOHN HENRY (1913-1999), naturiaethwr a chadwraethwr

Enw: John Henry Barrett
Dyddiad geni: 1913
Dyddiad marw: 1999
Priod: Ruth M Barrett (née Byass)
Plentyn: Jane Barrett
Plentyn: Robert Barrett
Plentyn: Richard Barrett
Plentyn: Michael Barrett
Rhiant: Evelyn Marion Barrett (née Back)
Rhiant: John Ambrose Barrett
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: naturiaethwr a chadwraethwr
Maes gweithgaredd: Natur ac Amaethyddiaeth
Awdur: David Saunders

Ganwyd John Barrett ar 21 Gorffennaf 1913 yn King's Lynn, yr hynaf o bedwar o blant John Ambrose Barrett, cemegydd mewn bragdy, a'i wraig Evelyn Marion. Lladdwyd ei dad ar 31 Gorffennaf 1917 tra'n gwasanaethu fel swyddog signalau gyda Brigâd y Reifflwyr ar y Ffrynt Gorllewinol; roedd yn un o'r rhai cyntaf i'w gladdu ym mynwent New Irish Farm, Gwlad Belg.

Mynychodd Barrett ysgolion yn Norwich a Southwold, a bu'n Repton wedyn o 1927 i 1932, gan fynd ymlaen i Gaergrawnt i astudio söoleg. Newidiodd wedyn i economeg ac yna i ddaearyddiaeth. Ni roddodd unrhyw sylw i'r byd naturiol tan 1932 pan fu iddo ddarganfod The Birds of the British Isles and their Eggs gan T. A. Coward. Ymysg y rhai a ddylanwadodd arno roedd y naturiaethwr mawr o Norfolk Ted Ellis a Jim Vincent y ceidwad o fri yn Hickling Broad.

Wrth adael Caergrawnt gofynnwyd iddo gan Fwrdd Penodiadau'r Brifysgol a oedd wedi ystyried gofalu am eliffantod yn jynglau Burma Uchaf. O fewn awr roedd wedi ymrestru gyda dyddiad hwylio. Gwasanaethodd gyda J. H. Williams (‘Elephant Bill’), ond ysywaeth daeth yr antur i ben yn ddisymwth pan ddaliodd falaria'r ymennydd. Ar ôl taith ddeng niwrnod i'r ysbyty mewn basged ar gefn eliffant daeth y siom o gael ei ddanfon adref yn glaf.

Ym Mawrth 1937 derbyniodd gomisiwn pedair blynedd gyda'r RAF, ac fel rhan o'i hyfforddiant treuliodd gyfnod yng ngwersyll Penyberth lle llosgwyd yr unig hangar gan genedlaetholwyr Cymreig. Flynyddoedd yn ddiweddarach derbyniodd radd er anrhydedd gan Brifysgol Cymru yng nghwmni Saunders Lewis, un o'r tri a gyneuodd y tân.

Yn 1940, priododd Ruth Byass a fu'n gefn mawr iddo yn ei holl weithgareddau. Ganwyd iddynt un ferch, Jane yn 1941, a thri mab, Michael yn 1942, Richard yn 1946 a Robert yn 1951.

Ym Medi 1941, ac yntau'n Arweinydd Sgwadron, ymunodd â'r sgwadron Halifax cyntaf yn Linton, ger Caerefrog, ond cafodd ei saethu i lawr y tro cyntaf iddo hedfan dros yr Almaen. Glaniodd yn ddiogel trwy barasiwt yn Schleswig Holstein, a threuliodd y blynyddoedd nesaf mewn cyfres o wersylloedd carcharorion rhyfel ar draws yr Almaen a Gwlad Pwyl. Ymhlith ei gydnabod yno roedd John Buxton a oedd yn adnabod Ynys Sgogwm yn dda yn sgil ei briodas â Marjorie, un o chwiorydd Ronald Lockley, George Waterston a anafwyd yn wael yng Nghreta ac a fyddai'n nes ymlaen yn dod â bywoliaeth yn ôl i Fair Isle, a Peter Conder a ddaliwyd gyda 51fed Adran yr Ucheldir ym Mehefin 1940 ac a fyddai'n cydweithio'n agos ag ef wedi'r rhyfel fel warden Ynys Sgogwm 1947-1954.

Bu Barrett yn aelod o'r tîm a gefnogodd ddihangfa'r ‘Ceffyl Pren’ o Stalag Luft III yn 1943. Yn ystod ei gyfnod hir yn y carchar astudiodd adar, yn enwedig yr asgell fraith a golfan y coed, ond collwyd ei nodiadau maes amhrisiadwy wrth i'r carcharorion gael eu symud yn bellach i'r gorllewin oddi wrth y Rwsiaid tua diwedd y rhyfel.

Wedi iddo gael ei ryddhau ac yntau bellach yn Asgell-Gomander, nid apeliai gyrfa yn yr RAF adeg heddwch, ac roedd ei ddewis yrfa yn ganlyniad uniongyrchol i'w brofiad fel carcharor rhyfel pan oedd astudiaethau natur wedi goleuo tywyllwch y blynyddoedd maith. Yn 1947 penodwyd Barrett gan y Cyngor er Hyrwyddo Astudiaethau Maes newydd - yn ddiweddarach y Cyngor Astudiaethau Maes - fel Warden Canolfan Faes Dale Fort a oedd newydd ei sefydlu yn sir Benfro.

Barrett oedd y dyn gorau i fod wrth y llyw mewn cyfnod o arloesi arwrol gyda adnoddau ariannol prin. Llwyddodd i ddatblygu ffyrdd o adnabod anifeiliaid a phlanhigion yr arfordir ac i ddehongli yn ei ddull dihafal ddaeareg a thirwedd rhyfeddol gorllewin Sir Benfro. Honnodd na fu iddo ddarllen maes llafur Safon-A erioed, ond datblygodd ei faes llafur ei hun i gwmpasu hanfodion yr arfordir. Nid oedd fawr neb yn siomedig â'r canlyniad, ond gwae'r sawl na allai gadw i fyny â chyflymdra ei gerddediad, byddent yn cael eu gadael ar ôl!

Yn ogystal â'i waith yn Dale Fort roedd Barrett hefyd yn gyfrifol am gludo ymwelwyr a nwyddau i Ynys Sgogwm. Wedi iddo ymddeol o'r Ganolfan Faes yn 1968 wynebodd her newydd trwy sefydlu Uned Cefn Gwlad Sir Benfro yn Broad Haven lle cychwynnodd y rhaglen hynod boblogaidd o deithiau tywys ar hyd llwybr yr arfordir a darlithoedd yr un mor boblogaidd gyda'r nos. Nid oedd neb gwell na Barrett ei hun i agor llygaid pobl i hyfrydwch yr arfordir lle roedd cymaint i'w ddarganfod. Bu ei lwyddiant yn batrwm ar gyfer mentrau tebyg mewn parciau cenedlaethol a chefn gwlad ledled Prydain.

Roedd Barrett yn ddarlledwr cyson mewn rhaglenni natur ar radio a theledu, a'r mwyaf cofiadwy efallai oedd y sesiynau ymholiadau gwrandawyr gyda Derek Jones yn y cyfresi Living World neu Wildlife. Mewn cydweithrediad â'r Athro Maurice Yonge cynhyrchodd yr arweinlyfr cyntaf ar yr arfordir - Collins Pocket Guide to the Seashore (1958). Cyhoeddwyd ei golofn ‘The Countryman’ yn y Western Mail am gyfnod o bymtheng mlynedd, 1974-1989. Cafodd ei Plain Man's Guide to the Dale Peninsula lawer o glod, a chyhoeddodd o leiaf saith ar hugain o bapurau a nodiadau gwyddonol ar bynciau mor amrywiol ag arferion bridio'r asgell fraith, gylfinir yn lladd crainc ac arolwg awyr o'r nythfa gwylanwyddau ar Ynys Gwales.

Gwasanaethodd ar bwyllgorau niferus yn lleol ac yn genedlaethol, yn ymwneud â chefn gwlad, y môr a materion eglwysig, a rhwng 1982 a 1987 ef oedd golygydd Nature in Wales . Derbyniodd MBE am ei wasanaeth i gadwraeth, MSc er anrhydedd gan Brifysgol Cymru, Gwobr y Parciau Cenedlaethol 1989, ac yn 1996 Gwobr H H Bloomer y Gymdeithas Linneaidd am gyfraniad i fioleg gan fiolegydd amatur.

Bu John Barrett farw ar 9 Chwefror 1999 yng nghartref nyrsio Torestin, Tiers Cross, sir Benfro, ac ar ôl gwasanaeth angladdol yn Eglwys St James, Dale llosgwyd ei gorff yn Amlosgfa Parc Gwyn, Arberth. Cynhaliwyd gwasanaeth coffa iddo yn Eglwys St James ar 22 Gorffennaf 1999.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2018-01-18

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Canlyniadau