ELLIS, TECWYN (1918-2012), addysgwr, ysgolhaig ac awdur

Enw: Tecwyn Ellis
Dyddiad geni: 1918
Dyddiad marw: 2012
Priod: Elin Valerie Ellis (née Jones)
Rhiant: Margaret Jane Ellis (née Edwards)
Rhiant: David John Ellis
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: addysgwr, ysgolhaig ac awdur
Maes gweithgaredd: Addysg; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Arwyn Lloyd Hughes

Ganwyd Tecwyn Ellis ar 24 Ebrill 1918 yng Nghae Crydd, tyddyn bychan ar stad y Pale yng Nghaletwr, Llandderfel, Sir Feirionnydd, yn unig blentyn i David John Ellis a'i wraig Madge (ganwyd Edwards). Fel brodor o Benllyn, ac o Edeirnion yn ddiweddarach, roedd ei adnabyddiaeth o'r cymydau hyn - eu hanes, eu traddodiadau a'u teuluoedd - yn ddihysbydd.

Addysgwyd ef yn ysgol y cyngor Llandderfel; ysgol ramadeg y bechgyn, Y Bala, a Choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, lle graddiodd gydag anrhydedd mewn cerddoriaeth (1939) a Chymraeg (1940). Ar ôl cyfnod o weithio ar y tir yn ystod 1940-46 (bu'n diwtor ar ddosbarthiadau Cymdeithas Addysg y Gweithwyr ym Mhenllyn, Edeirnion ac Uwchaled y pryd hwnnw yn ogystal), dychwelodd i'r 'Coleg ger y lli' yn 1946 gan ennill DipAdd (dosb. cyntaf) y flwyddyn ganlynol. Dilynwyd hyn gan draethawd MA nodedig yn 1951 ar y testun 'Bywyd a gwaith Edward Jones (Bardd y Brenin)' a gyhoeddwyd chwe blynedd yn ddiweddarach gan Wasg Prifysgol Cymru.

Bu'n athro yn ysgol ramadeg y Frenhines Elizabeth, Caerfyrddin, 1947-51, ac yn ysgol ramadeg y bechgyn, Y Bala, 1952-58. Treuliodd 1958-60 fel Swyddog Ymchwil yng Nghyfadran Addysg, CPC, Aberystwyth. Bwriad yr ymchwil hwn, yn ei eiriau ef, 'oedd dadansoddi'r iaith Gymraeg o safbwynt ieithyddiaeth ddiweddar a threfnu patrymau brawddegol yr iaith i gyfarfod â gofynion dysgu Cymraeg fel ail iaith'. (Swydd dros dro am ddwy flynedd oedd hon a chafodd ei ryddhau o'i swydd yn Y Bala i ymgymryd â'r gwaith.) Troi i weinyddu fu ei hanes wedyn am y gweddill o'i yrfa: bu'n Ddirprwy Gyfarwyddwr Addysg Meirionnydd yn ystod 1960-73, ac yna yn Gyfarwyddwr Addysg cyntaf Gwynedd o 1974 hyd ei ymddeoliad yn Ebrill 1983. Yn ystod ei gyfnod fel Cyfarwyddwr bu'n bleidiwr selog dros addysg ddwyieithog yn yr ysgolion, a hynny pan oedd Cyngor Gwynedd, fel Awdurdod Addysg Lleol, yn llunio a gweithredu ei bolisi iaith.

Yn ychwanegol at ei ymroddiad fel addysgwr, cofnodir hefyd ei gyfraniadau ysgolheigaidd a cherddorol. Cyhoeddodd y gweithiau canlynol: Edward Jones Bardd y Brenin 1752-1824 (1957); Canu Cynnar (2000); Gyda'r Godre (2000) - cyfrol hunangofiannol; Ymlaen â Ni…(2002); Tonau Derfel (2012). Cyfrannodd i'r Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940 (1953) ac i Atlas Meirionnydd (1974) a chafwyd erthyglau niferus a phwysig ganddo ar agweddau ar iaith, hanes llên a cherddoriaeth Cymru, yn bennaf yn ystod y 18 a'r 19g., mewn gwahanol gylchgronau. Ceir rhestr o'i gyhoeddiadau rhwng 1946-99 yn Gyda'r Godre (tt. 149-51).

Roedd yn aelod o Orsedd y Beirdd (Urdd Derwydd) dan yr enw 'Tecwyn Derfel'. Rhoddodd flynyddoedd o wasanaeth fel pregethwr lleyg, organydd mewn sawl capel, arweinydd band a chymanfaoedd canu a beirniad cerdd mawr ei barch mewn llawer o eisteddfodau - lleol, taleithiol a chenedlaethol. Bu'n aelod ffyddlon o Gymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirionnydd ac yn gadeirydd ei Chyngor, 1986-2000; is-lywydd o 2000 ymlaen.

Gŵr hynaws a charedig ei natur oedd Tecwyn Ellis, a chwbl ddiymhongar. Cofir amdano gyda pharch ac edmygedd am ei sêl dros addysg ddwyieithog a'r diwylliant Cymraeg, a hefyd am ei gyfraniadau ysgolheigaidd a cherddorol dros y blynyddoedd.

Priododd, 21 Rhagfyr 1963, ag Elin Valerie Jones, Mynytho, a oedd yn athrawes cerdd yn Ysgol Botwnnog ar y pryd. Ganed tri phlentyn iddynt, mab a dwy ferch. Bu farw 17 Medi 2012 yn 94 oed a chladdwyd ef ym mynwent newydd Llandderfel, ar 21 Medi. Cynhaliwyd Gwasanaeth Coffa yng Nghapel Pendref, Bangor, yn ddiweddarach ar yr un diwrnod.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2016-07-27

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.