JONES, AUDREY EVELYN (1929-2014), athrawes ac ymgyrchydd dros hawliau menywod

Enw: Audrey Evelyn Jones
Dyddiad geni: 1929
Dyddiad marw: 2014
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: athrawes ac ymgyrchydd dros hawliau menywod
Maes gweithgaredd: Addysg; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: Jean Silvan Evans

Ganwyd Audrey Jones ar 15 Hydref 1929 yn Bushey, Hertfordshire, yr hynaf o dri o blant John Henry Reed (1901-1971), heddwas, ac Evelyn Mary Reed, (ganwyd Tofield, 1898-1938), gwerthwraig papurau newydd. Roedd ganddi frawd Bernard (ganwyd 1936) a chwaer Marion (ganwyd 1938). Ar ôl marwolaeth gynnar ei mam, symudodd y teulu i Essex. Enillodd Audrey le yn Chelmsford County High School for Girls, ac aeth ymlaen i raddio ym Mhrifysgol Southampton (1950) a chwblhau Tystysgrif Addysg Olradd ym Mhrifysgol Manceinion. Yn 1951 priododd Hugh Gabriel Jones (1923-2011); ganwyd un mab iddynt, Robert, yn 1951. Cymro oedd Hugh, a symudodd y teulu i Gymru pan benodwyd ef gan gwmni cemegol rhyngwladol Dow Corning yn gyfrifol am logisteg cludiant.

Gwnaeth Audrey ei marc yn gyntaf oll fel athrawes ysbrydoledig. Wedi ymgartrefu ym Mro Morgannwg, yn 1960 ymunodd â'r hyn a ddaeth wedyn yn Ysgol Gyfun St Cyres ym Mhenarth, lle'r arhosodd am ddeng mlynedd ar hugain, gan ennill enw fel hyrwyddwraig ddigyfaddawd addysg merched a chodi i fod yn Ddirprwy Bennaeth, safle na lwyddai ond ychydig o fenywod i'w gyrraedd yn ysgolion cyfun y 1980au. Yn benderfynol o herio rhywiaeth mewn addysg, anogai ferched i astudio gwyddoniaeth a mathemateg a mynnai fod gan y bechgyn agwedd gadarnhaol at y merched. Yn Undeb Cenedlaethol yr Athrawon gweithiodd i hyrwyddo addysg merched ac ymchwil ar anffafriaeth ar sail rhywedd mewn ysgolion. Ymhlith y teyrngedau iddi pan fu farw, roedd un gan ei chyn-ddisgybl yr athletwraig bara-olympaidd y Farwnes Tanni Grey-Thompson, a ddywedodd ei bod yn 'athrawes ryfeddol' ac yn 'ddylanwad enfawr' ar ei bywyd.

Roedd Audrey yn un o sylfaenwyr Pwyllgor Hawliau Menywod Cymru (WWRC), corff a ddeisebodd Senedd Ewrop yn 1975 ar driniaeth gyfartal i weithwyr gwryw a benyw ac a esblygodd yn 1984 yn Gynulliad Menywod Cymru (WAW). Anfonodd WAW gynrychiolwyr i bob cyfarfod mawr o Gynhadledd Menywod y Byd y Cenhedloedd Unedig, ac yn 2000 cafodd achrediad gan Gyngor Economaidd a Chymdeithasol y CU, pan ddylifrodd Audrey y cais yn Efrog Newydd â'i llaw ei hun. Daeth WAW yn brif sylfaen ar gyfer ymgyrchu Audrey.

Wedi iddi ymddeol yn 1990, ymroddodd yn llawnach i'r llwyfan byd-eang. Cynrychiolodd WAW yn y paratoadau ar gyfer cyfarfod arwyddocaol Cynhadledd Menywod y Byd y CU yn Beijing yn 1995, gan fynychu cyfarfodydd mewn dinasoedd yn Ewrop a drafftio adroddiadau. Bu Beijing yn drobwynt o ran prif-ffrydio cydraddoldeb y rhywiau, gan sefydlu Datganiad Beijing a'r Llwyfan Gweithredu. Mynychodd Audrey sesiynau blynyddol Efrog Newydd i adolygu cynnydd ar Beijing yn gyson tan ryw ddwy flynedd cyn iddi farw, gan gynnwys cynadleddau mawr Beijing+5 (2000) a Beijing+10 (2005).

Yn agosach i gartref, hyrwyddodd hawliau menywod trwy Blaid Lafur Bro Morgannwg, gan wasanaethu ar y pwyllgor cyffredinol a'r pwyllgor gwaith. Mynnodd fod ei Fforwm Menywod yn parhau pan oedd cyfarfodydd merched yn unig yn cael eu cwestiynu yng nghylchoedd y Blaid Lafur, gan ddadlau fod ar fenywod angen cynifer o lwyfanau â phosibl i hyrwyddo cydraddoldeb, a gwyddai bob amser pwy oedd ar flaen y gad yn hybu buddiannau menywod pan oedd angen canfod siaradwyr ar gyfer cinio blynyddol y Fforwm i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Menywod.

Roedd ganddi ddiddordeb mawr mewn celf, a lluniodd gasgliad dethol o waith gan artistiaid cyfoes a weithiai yng Nghymru. Cysylltodd WAW â Chymdeithas Celfyddydau Menywod, ac er nad oedd yn artist, daeth yn Gadeirydd arni am rai blynyddoedd. Roedd yn un o sylfaenwyr Archif Menywod Cymru, corff sy'n gweithio i godi proffil menywod yn hanes Cymru, ac yn aelod o Gymdeithas Fawcett, gan ddylanwadu ar ei grŵp addysg. Roedd hefyd yn hoff iawn o gerddoriaeth, a llwyddodd i gael amser i fynychu cyngherddau'n frwd.

Roedd Audrey yn un o 60 o ffeministiaid blaenllaw y DU a ddewiswyd i'w cyf-weld ar gyfer archif y Llyfrgell Brydeinig 'Sisterhood and After: The Women's Liberation Oral History Project' a ddogfennodd atgofion ymgyrchwyr ar flaen y gad dros cydraddoldeb gwleidyddol a chymdeithasol yn y 1970au a'r 80au. Ar wefan y Llyfrgell Brydeinig ceir crynodeb o'i chyfweliad sain chwe awr a mwy, a chlip fideo o Audrey yn nodweddiadol gynhyrfus yn sôn am y rhywiaeth a oedd yn amlwg mewn cwestiynau arholiad ar y pryd.

Wrth i ddatganoli fynd rhagddo yng Nghymru, roedd Audrey yn ymgyrchydd brwd pan ymunodd y WAW â grwpiau menywod eraill mewn mudiad grymus i ddarbwyllo'r Cynulliad Cenedlaethol newydd i ymrwymo i gyfleoedd cyfartal, ac aeth ar y strydoedd gydag aelodau eraill WAW i berswadio Llafur i fabwysiadu efeillio etholaethau er mwyn sicrhau cydraddoldeb y rhywiau yng nghynrychiolaeth Llafur yn y Cynulliad cyntaf. Roedd Audrey yn awyddus bob amser i gynnwys merched ifainc yn WAW a chadw i fyny ag ymchwil ar hawliau menywod. Yn 2016, daeth WAW â'r ddau nod hyn at ei gilydd trwy sefydlu Gwobrau Coffa Audrey Jones am Ymchwil gan Fenywod er anrhydedd iddi.

Aeth Audrey yn sâl wrth ddychwelyd o gyfarfod yn Llundain i baratoi am gynhadledd ryngwladol Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Ddileu Gwahaniaethu yn erbyn Menywod, a bu farw o glefyd y galon ar 16 Awst 2014 yn 84 oed. Ar ôl gwasanaeth angladdol dyneiddiol, fe'i claddwyd yn 'Natural Burial Meadow' Caerdydd yn Sain Nicolas.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2017-02-08

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.