Ganwyd Huw Lewis ar 13 Ionawr 1931 ym Mrondeifi, Llandysul, Ceredigion, yr hynaf o bedwar plentyn Rhys Lewis a Myra Lewis (née Evans). Cafodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Llandysul, Ysgol Ramadeg Llandysul a Choleg Llanymddyfri, ac oddi yno enillodd ysgoloriaeth i'r London College of Printing.
Treuliodd ddwy flynedd yn y fyddin yn cwblhau ei Wasanaeth Cenedlaethol gan wasanaethu'n bennaf yn yr Aifft a threulio'r rhan fwyaf o'i amser yno'n gwneud mapiau. Ond Cardi i'r carn oedd Huw Lewis ac ar ôl cwblhau ei brentisiaeth yn y maes argraffu yn Llundain daeth yn ôl i Landysul yn 1954 i weithio ym musnes y teulu, Gwasg Gomer. Roedd y wasg - a sefydlwyd gan ei dad-cu, John David Lewis, yn Market Stores, Llandysul, yn 1892 - bellach yng ngofal meibion J. D. Lewis: Rhys Lewis (tad Huw) ac Edward Lewis. Daeth John Lewis, mab Edward Lewis a chefnder Huw, yntau'n ôl o Lundain i weithio yng Ngwasg Gomer yn 1959. Ar ôl cyfnod Rhys Lewis ac Edward Lewis (bu farw Rhys Lewis yn 1961 ac Edward Lewis yn 1965) cymerodd y ddau gefnder at yr awenau. Canolbwyntiai Huw Lewis, fel ei dad o'i flaen, yn bennaf ar yr ochr argraffu a John Lewis, fel ei dad yntau, ar yr ochr gyhoeddi ac ar weinyddiaeth y cwmni'n gyffredinol. Yn ôl tystiolaeth John Lewis yn ei hunangofiant Creu Argraff, 'hyfryd yw gallu cofnodi i ni gydweithio'n hapus am yn agos i ddeugain mlynedd'. Pan ymddeolodd Huw Lewis yn 1995 parhaodd y cwmni dan arweiniad John Lewis hyd nes i'w fab yntau, Jonathan Lewis, ddod yn Rheolwr Gyfarwyddwr yn niwedd y nawdegau.
Gwelwyd chwyldro yn y byd argraffu rhwng saithdegau a nawdegau'r ganrif ddiwethaf gyda'r symud i gysodi ar ffilm ac argraffu leitho. Roedd Gwasg Gomer ar flaen y gad yn ei hawydd i fuddsoddi yn y dechnoleg ddiweddaraf gan anelu at y safonau argraffu uchaf yn ddieithriad. Roedd Huw Lewis yn ei elfen ynghanol y peiriannau argraffu a chymerai falchder yn niwyg ac ansawdd y gwaith a gynhyrchid. Bu'n gadeirydd Panel Dylunio Cyngor Llyfrau Cymru am nifer o flynyddoedd. Ond roedd hefyd yn ddarllenwr brwd ac ymddiddorai yn holl ystod y llyfrau a gyhoeddai'r wasg. Ymfalchïai yn ei berthynas ag awduron, arlunwyr a dylunwyr llyfrau ac roedd wrth ei fodd yn eu cwmni. Drwy ei ymwneud ag Undeb Cyhoeddwyr a Llyfrwerthwyr Cymru, ac yn arbennig fel cadeirydd yr Undeb, bu'n hael ei gyngor a'i gefnogaeth i genhedlaeth newydd o gyhoeddwyr-argraffwyr wrth iddynt hwythau geisio ymsefydlu a datblygu eu busnesau.
Dyn pobol oedd Huw Lewis ac roedd yn ei elfen yn dal pen rheswm â phwy bynnag y deuai ar eu traws, boed ar gornel stryd yn Llandysul neu ar faes eisteddfod neu sioe. Yn wir lle bynnag y'i gwelid byddai pobl wedi ymgasglu o'i gwmpas. Roedd yn storïwr heb ei ail ac yn llawn hwyl a direidi. Yr oedd hefyd yn ŵr parod iawn ei gymwynas ac âi allan o'i ffordd i helpu unrhyw un.
Gwasanaethodd ar nifer o bwyllgorau cenedlaethol: er enghraifft Cyngor Darlledu Cymru y BBC (1982-87), Llysoedd y Llyfrgell Genedlaethol a'r Eisteddfod Genedlaethol. Bu hefyd yn gweithio ar ran Ymddiriedolaeth y Tywysog fel mentor i bobl ifainc oedd yn ceisio sefydlu busnesau eu hunain. Ond diau mai achosion lleol oedd agosaf at ei galon. Bu'n aelod ffyddlon o gapel Penybont, Llandysul ac yn ddiacon er 1972. Yn wir roedd achos y Bedyddwyr yn rhan fawr o'i fywyd er iddo droi i mewn i eglwys y plwyf ar dro gyda'i wraig a'r merched. Bu hefyd yn Ysgrifennydd Cymanfa Ganu Bedyddwyr Dyffryn Teifi am dros chwarter canrif. Roedd wrth ei fodd yn canu ac roedd yn aelod o'r côr a ddechreuodd fel Gleisiaid Teifi dan arweiniad Catherine Watkin ac wedyn Elwyn Davies. Roedd yn un o sylfaenwyr y clwb cinio lleol a bu'n llywydd fwy nag unwaith ar gymdeithas Cymrodorion Llandysul. Gweithredodd yn ddiwyd i sefydlu ysgol feithrin yn Llandysul ac i sefydlu ysgol uwchradd ddwyieithog yn y cylch, Ysgol Dyffryn Teifi, a gwasanaethodd fel llywodraethwr yr ysgol am flynyddoedd lawer.
Yr oedd yn bennaf oll yn ddyn teulu. Priododd â Vera Williams, a hanai o Dregaron, yn 1956 a chawsant ddau o blant: Nerys a Rhian. Ymfalchïai yn ei deulu a dotiai ar ei bum ŵyr gan ymhyfrydu yn eu llwyddiant.
Roedd Huw Lewis yn Gymro cadarn, yn Gardi balch ac yn gymwynaswr mawr ei barch. Roedd ei gyfraniad o fewn ei filltir sgwâr yn amhrisiadwy. Ond ei gyfraniad arhosol oedd ei gyfraniad i dwf a datblygiad Gwasg Gomer mewn cyfnod o newid mawr, ynghyd â'i gefnogaeth i do newydd o gyhoeddwyr-argraffwyr gan sicrhau bod cyhoeddi Cymraeg a Chymreig yn parhau i ffynnu yn yr unfed ganrif ar hugain.
Bu farw yn ei gartref yn yr Hendre, Llandysul, ar 11 Rhagfyr 2008, ar ôl cystudd hir. Cynhaliwyd ei angladd yng nghapel Penybont, Llandysul ar 17 Rhagfyr ac fe'i claddwyd ym mynwent y capel, man gorffwys ei rieni, ei dad-cu a'i fam-gu, J. D. Lewis a Hannah Lewis, ac aelodau eraill o'r teulu.
Dyddiad cyhoeddi: 2017-04-26
Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.