OWENS, JOHNNY RICHARD (JOHNNY OWEN) (1956-1980), paffiwr

Enw: Johnny Richard Owens
Ffugenw: Johnny Owen
Dyddiad geni: 1956
Dyddiad marw: 1980
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: paffiwr
Maes gweithgaredd: Chwaraeon a Gweithgareddau Hamdden
Awdur: Mel Williams

Ganwyd Johnny Owen yn Ysbyty Gwaunfarren ym Merthyr Tudful ar 7 Ionawr 1956, y pedwerydd o wyth o blant i Dick Owens (1927-2013) a'i wraig Edith (ganwyd Hale, 1927). Ei enw bedydd oedd Johnny Richard Owens. Treuliodd ei fagwraeth yn 12 Heol Bryn Selu, tŷ cyngor ar rent ar stâd fawr Gellideg.

Datblygodd ddiddordeb mewn paffio yn wyth oed, a dechreuodd fynychu Clwb Amatur Merthyr gyda'i frawd Vivian, a daeth ei dad yn hyfforddwr iddo. Erbyn 1970 a 1973 enillodd Bencampwriaethau Cymru oed ysgol; cynrychiolodd Gymru 17 o weithiau, gan golli ond dwywaith.

Gyda'i holl lwyddiannau ym myd paffio amatur, daeth yn amser iddo symud ymlaen. Ar ei ffurflen gais wrth droi'n broffesiynol roedd yn awyddus i roi ffurf Gymraeg ar ei enw, sef Sion Rhisiart Owain. Ond fe'i perswadiwyd i fabwysiadu'r enw Johnny Owen oherwydd rhyw syniad gan rai na fyddai enw Cymraeg yn dderbyniol yn boliticaidd gan y proffesiwn.

Felly, ar 1 Medi 1976, trodd yn broffesiynol, o dan y rheolwr Dai Gardiner a oedd yn hen baffiwr, a dechreuodd ei raglen hyfforddi yng Nghampfa Tredegar Newydd, Cwm Rhymni, ychydig filltiroedd o'i gartref ym Merthyr. Yn ei ornest broffesiynol gyntaf ar 30 Medi 1976, llwyddodd i drechu ei gyd-Gymro George Sutton o Gaerdydd ar bwyntiau dros wyth rownd i ennill ei deitl cyntaf, a chipio Pencampwriaeth Pwysau Bantam Cymru.

Oherwydd ei gorffolaeth eiddil a thenau cafodd Johnny ei lysenwi 'y dyn coes matsen' (matchstick man) a dyma sut yr hyrwyddwyd ef ar y posteri. Un o'i gryfderau mwyaf fel paffiwr oedd ei stamina anhygoel a'i allu i ymlid ei wrthwynebwyr yn ddidrugaredd mewn gornestau hir.

Oherwydd ei lwyddiannau, cafodd gyfle i wynebu Paddy Maguire ar 29 Tachwedd 1977 yn ei nawfed ornest broffesiynol, a hynny am y teitl Prydeinig. Curodd Johnny hwnnw drwy ataliad yn yr unfed rownd ar ddeg i ennill Pencampwriaeth Pwysau Bantam Prydain. Johnny Owen oedd y Cymro cyntaf mewn 64 mlynedd i ddal y teitl hwn. Roedd y bachgen o Ferthyr ar ei ffordd i'r brig.

Saith mis yn ddiweddarach, gyda phymtheg llwyddiant ac un ornest gyfartal y tu cefn iddo, camodd Johnny Owen i'r sgwâr yng Nglynebwy i wynebu Paul Ferreri, yr Awstraliad a oedd â pharch byd eang iddo. Erlidiodd Johnny Owen hwnnw o gwmpas y sgwâr, yn ei ffordd ddeheuig, mewn gornest hynod galed, am bymtheg rownd. Mewn dyfarniad clir, Johnny Owen a gyhoeddwyd yn Bencampwr Pwysau Bantam newydd y Gymanwlad.

Y cam naturiol nesaf oedd y teitl Ewropeaidd. Felly, gyda'i ddilynwyr ymroddgar, teithiodd Johnny i Almeria, Sbaen, i herio Juan Francisco Rodriguez o'r dref, am ei deitl Ewropeaidd. Hon oedd ei ddeunawfed ornest a'r tro cyntaf i Johnny ymladd dramor, ac er iddo ragori'n fawr ar ei wrthwynebydd, colli fu ei hanes mewn gornest ddadleuol gyda chyfres o honiadau o chwarae budr gan ei wrthwynebydd. Roedd y dyfarniad yn sarhad ar enw da paffio. Dyma'r tro cyntaf yn ei yrfa broffesiynol i Johnny golli.

Ar 13 Mehefin 1979, amddiffynnodd ei deitl Prydeinig am y drydedd waith drwy guro Dave Smith yn y ddeuddegfed rownd i hawlio'r Gwregys Lonsdale i'w gadw. Cafwyd cyfle i dalu'r pwyth yn ôl i Juan Francisco Rodriguez yng Nglynebwy ar 28 Chwefror 1980, drwy ei guro ar bwyntiau mewn dyfarniad di-ddadl a chyhoeddwyd Johnny Owen yn Bencampwr Pwysau Bantam newydd Ewrop.

Ar 28 Mehefin, amddiffynnodd Johnny ei deitl yn llwyddiannus yn erbyn John Feeney, gan ei guro yntau hefyd ar bwyntiau dros bymtheg rownd. Yn syth ar ôl ei ornest lwyddiannus yn erbyn Feeney, daeth y newyddion drwy Mickey Duff, yr hyrwyddwr paffio enwog o Lundain, am gyfle i ymladd am Deitl Bantam y Byd y WBC yn yr Unol Daleithiau yn erbyn (Guada)lupe Pintor o Fecsico. Trefnwyd yr ornest ar gyfer 19 Medi yn Los Angeles.

Camodd Johnny Owen, y dyn coes matsys fel y'i gelwid ef, i'r sgwâr i ganol awyrgylch bygythiol, tanllyd y gynulleidfa, yn barod i ymlid ei wrthwynebydd, eu harwr Lupe Pintor, o'r eiliad gyntaf. Erbyn rownd wyth roedd Johnny ar y blaen. Yn y nawfed rownd trawyd ef i'r llawr am y tro cyntaf yn ei yrfa broffesiynol, ond cododd ar ei draed mewn amrantiad.

Yn y ddeuddegfed rownd, fodd bynnag, fe'i trawyd ef eto i'r llawr ond y tro yma yn anymwybodol. Nid ymatebodd Johnny i unrhyw driniaeth, ac fe'i cludwyd i'r ysbyty ar unwaith. Methwyd â'i ddadebru, a bu farw 46 diwrnod yn ddiweddarach mewn ysbyty yn Ninas yr Angylion, nos Sadwrn, 4 Tachwedd 1980. Ymddengys fod gan Johnny benglog frau iawn, a hyn a fu achos ei farwolaeth.

Yn ei ymdrech i ennill coron y byd yn erbyn Lupe Pintor, collodd nid yn unig yr ornest, ond ei fywyd hefyd. Ni feiodd teulu Johnny erioed Lupe Pintor am ei farwolaeth, ac yn wir anogodd tad Johnny iddo ddal ati i baffio.

Fe'i claddwyd ym Mynwent y Pant, uwchlaw tref Merthyr. Roedd yna 1000 o alarwyr, yn oerfel y glaw, yn sefyll ar ymyl y ffordd o Ferthyr hyd at y fynwent i dalu'r deyrneged olaf i un o blant y dref. Talwyd teyrngedau iddo gan bobl dros y byd i gyd, yn dyst o'u cariad tuag ato. Yn eu mysg roedd rhai oddi wrth Muhammad Ali a Tom Jones.

Ar ei garreg fedd ceir arysgrifen o dan ei enw yn Gymraeg sef 'Gwir Fab o Gymru'. Ugain mlynedd yn ddiweddarach, fe godwyd cerflun o Johnny Owen yng Nghanolfan Siopa Merthyr, sy'n wynebu tuag at ei gartref a Gellideg. Roedd Lupe Pintor yno ar gyfer y dadorchuddiad i dalu'r deyrnged olaf.

Ymladdodd Johnny Owen wyth gornest ar hugain, gan golli dwy yn unig, ac yn gyfartal mewn un.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2016-05-18

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.