Ganwyd Mary Williams ar 26 Mehefin 1883 yn Aberystwyth. Hi oedd plentyn hynaf John Williams (ganwyd1827), gweinidog capel Presbyteraidd y Tabernacl, a'i wraig Jane Williams (ganwyd1845). Roedd ganddi chwaer, Jennie (Ruggles-Gates yn ddiweddarach, ganwyd1884) a brawd, John (ganwyd1889), a fu farw yn blentyn.
Cafodd Williams ei haddysg gynnar yn Ysgol Elfennol Aberystwyth. Yn 1895, yn ddeuddeg oed, gadawodd Aberystwyth i barhau â'i haddysg yn Llundain yn y Camden School for Girls. Aeth wedyn i'r North London Collegiate School for Girls, ysgol uchel ei bri lle'r enillodd dystysgrif ddosbarth cyntaf yn Arholiad Mynediad Llundain ym Mehefin 1901.
Yn 1901 dychwelodd Williams i Aberystwyth ac enillodd ysgoloriaeth mynediad am dair blynedd yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, a estynnwyd am bedwaredd flwyddyn yn 1904. Cafodd Ddosbarth Cyntaf Dwbl mewn Almaeneg a Ffrangeg yn 1905. Fel y rhan fwyaf o ferched a gafodd addysg brifysgol yr adeg honno, treuliodd Williams gyfnod byr fel athrawes ysgol uwchradd: bu'n Athrawes Ddosbarth Iau mewn Ffrangeg a Saesneg yn Portsmouth County Secondary School for Girls rhwng 1905 a 1906, ac yn Athrawes Hŷn mewn Ffrangeg yn Ysgol Sir Llandeilo y flwyddyn ddilynol. Yn 1907 enillodd radd Meistr am ei thraethawd ar fersiwn Hen Almaeneg Perceval, Hanes y Greal.
Rhwng 1907 a 1910 daliodd Gymrodoriaeth Ymchwil gan Brifysgol Cymru a'i galluogodd i astudio yn y Sorbonne a'r Collège de France ym Mharis. Yn 1910 derbyniodd ei doethuriaeth gan Brifysgol Paris am draethawd yn Ffrangeg yn archwilio perthynas chwedl Gymraeg Peredur â'r fersiynau Ffrangeg ac Almaeneg. Cafodd grant arbennig wedyn er mwyn gallu aros ym Mharis tan fis Medi 1912, heblaw pedwar mis ym Mhrifysgol Genedlaethol Iwerddon yn Nulyn lle bu'n astudio Hen Wyddeleg yn ddwys. Yn 1914 enillodd Ysgoloriaeth Ymchwil gan Gynghrair Brydeinig Menywod Prifysgol.
Cafodd Williams ei swydd academaidd gyntaf yn 1912 fel Darlithydd Cynorthwyol mewn Ffrangeg ym Mhrifysgol Manceinion. Y flwyddyn ddilynol fe'i penodwyd yn Ddarlithydd mewn Iaith a Llenyddiaeth Ffrangeg yng Ngholeg y Brenin Llundain, swydd a ddaliodd tan 1918. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, bu hefyd yn dysgu Ffrangeg ac Almaeneg mewn sawl ysgol yn Llundain, traddododd ddarlithoedd ar gyfer myfyrwyr yn astudio am y radd newydd mewn Masnach ym Mhrifysgol Llundain, a bu'n darllen gyda myfyrwyr a oedd yn paratoi ar gyfer gradd Anrhydedd B.Sc. mewn Economeg a'r Ddiploma mewn Peirianneg. Yn 1915, argymhellodd y Cyngor Academaidd y dylid ei phenodi'n Ddarllenydd y Brifysgol, ond oherwydd oedi yn sgil y rhyfel ni ddyfarnwyd y Ddarllenyddiaeth gan y Senedd tan Ionawr 1919. Yn 1920, fe'i penodwyd yn Bennaeth Adran yn gyfochrog â'i Darllenyddiaeth mewn Romáwns a Ffiloleg. Yn ystod y cyfnod hwn roedd hefyd yn flaenllaw yng nghylchoedd Cymry Llundain trwy fod yn llywydd Cymdeithas Llundain Cyn-fyfyrwyr Aberystwyth a Chymdeithas Cymry Prifysgol Llundain.
Yn 1921 dychwelodd Williams i Gymru ar ôl cael ei phenodi i'r Gadair mewn Ieithoedd Modern yng Ngholeg y Brifysgol Abertawe a oedd newydd ei sefydlu. Pan ddaeth Almaeneg yn adran ar wahân yn 1932, daliodd y Gadair Ffrangeg tan 1948. Yn ôl un o'i chyn-ddisgyblion a'i holynydd yn ei swydd yn Abertawe, yr Athro Armel Diverres, Williams 'presented an austere exterior, but those able to probe soon found that she possessed a strong sense of fun and a genuine warmth of feeling' (The Times, 31 Awst 1977). Roedd ei hymroddiad i ddysg ac ysgolheictod yn angerddol trwy gydol ei bywyd. Yn ôl pob sôn byddai diofalwch o ran iaith a meddwl, boed yn y Ffrangeg, y Gymraeg neu'r Saesneg, yn dân ar ei chroen.
Ar 4 Ionawr 1922 priododd Dr George Arbour Stephens, cardiolegydd a oedd hefyd yn aelod o Gyngor y Coleg ac yn Gadeirydd Pwyllgor Addysg Abertawe. Chwaraeodd y ddau ran flaenllaw ym mywydd cyhoeddus a gwleidyddol Abertawe. Williams oedd Llywydd a sylfaenydd cangen De Cymru y Gymdeithas Ieithoedd Modern ac Is-Lywydd Cymdeithas Ryddfrydol Abertawe.
Yn 1948, tair blynedd ar ôl marwolaeth ei gŵr, symudodd Mary Williams i Brifysgol Durham lle penodwyd hi'n Athro Ffrangeg ac yn Bennaeth Adran Gweithredol. Daliodd y swydd hon tan ei hymddeoliad yn 1952, pan symudodd i Lundain am gyfnod byr, cyn dychwelyd i Gymru.
Yn 1934 dyfarnodd Llywodraeth Ffrainc yr anrhydeddau Officier d'Académie a Chevalier de la Légion d'Honneur iddi i gydnabod ei gwasanaeth i iaith a llên Ffrangeg. Yn ei haraith dderbyn soniodd sut yr ysgogwyd ei diddordeb yn y diwylliant Ffrangeg gan ei mam a roddodd iddi ei gwers Ffrangeg gyntaf gan ddangos y tebygrwydd rhwng Ffrangeg a Chymraeg. Pwysleisiodd Williams werth dwyieithrwydd fel modd i feithrin heddwch rhyngwladol, ac roedd ganddi wybodaeth weithredol o'r Gymraeg, Ffrangeg, Almaeneg, Lladin, Eidaleg a Phrofensaleg.
Ymddiddorai Mary Williams yn hanes cerddoriaeth Cymru, ac roedd yn mwynhau nofio a chwarae tennis a golff. Bu'n gymwynaswraig i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, mynychodd gyfarfodydd y Gyngres Geltaidd, roedd yn Gymrawd y Gymdeithas Anthropolegol Frenhinol, ac yn Llywydd y Gymdeithas Llên Gwerin rhwng 1961 a 1963. Roedd hefyd yn aelod gweithgar o Lys Prifysgol Abertawe, a chymerodd ddiddordeb arbennig yn neuadd breswyl y brifysgol a enwyd er anrhydedd iddi yn 1967.
Bu Mary Williams farw yn Aberystwyth ar 17 Hydref 1977 yn 94 oed.
Dyddiad cyhoeddi: 2017-02-01
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.