WILSON, HERBERT REES (1929-2008), gwyddonydd

Enw: Herbert Rees Wilson
Dyddiad geni: 1929
Dyddiad marw: 2008
Priod: Elizabeth Wilson (née Turner)
Rhiant: Jennie Wilson (née Humphrey)
Rhiant: Thomas Rees Wilson
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gwyddonydd
Maes gweithgaredd: Gwyddoniaeth a Mathemateg
Awdur: Lyn Owen

Ganwyd Herbert Wilson ar 20 Mawrth 1929 ar fferm ei daid yn Nefyn, Sir Gaernarfon, yn fab i Thomas Wilson, capten llong, a Jennie ei wraig. Addysgwyd Herbert yn Ysgol Ramadeg Pwllheli, ac aeth ymlaen i astudio ffiseg ym Mhrifysgol Bangor, gan raddio ag anrhydedd dosbarth cyntaf yn 1949. Enillodd ddoethuriaeth wedyn yn 1952 dan gyfarwyddyd yr Athro Edwin Owen. I gychwyn gweithiodd ym maes metelau, ond fe'i denwyd fwyfwy at faes newydd bioffiseg. Priododd â Beti Turner, cyd-fyfyriwr ag ef ym Mangor, yn 1952, a chawsant ddwy ferch ac un mab.

Ar ôl iddo ennill cymrodoriaeth gan Brifysgol Cymru, derbyniodd gynnig yn 1952 gan yr Athro Maurice Wilkins i ymuno â thîm yng Ngholeg y Brenin Llundain i astudio cyfansoddiad DNA. Yno ym Medi 1952 y dechreuodd ei waith arloesol, gan wneud astudiaethau diffreithiad pelydr-X o niwcleoproteinau a niwclei celloedd DNA. Dangosodd yr astudiaethau hyn fod yr un strwythur hanfodol yn perthyn i DNA o amryw ffynonellau byw a marw.

Yn Ebrill 1953 cyhoeddodd y cylchgrawn Nature dri phapur yn ymwneud â DNA. Roedd un o'r rhain gan Crick a Watson, un gan Franklin a Gosling, a'r trydydd gan Maurice Wilkins, Herbert Wilson ac Alexander Stokes. Teitl y papur olaf oedd 'Molecular structure of dyoxypentose nucleic acids'. Aeth y gwaith yn ei flaen wedyn a gwnaeth Herbert Wilson astudiaethau pellach i fireinio'r model DNA. I gydnabod y cynnydd yn y ddealltwriaeth o DNA, dyfarnwyd Gwobr Nobel ar gyfer Ffisioleg neu Feddyginiaeth yn 1962 i Francis Crick, James Watson a Maurice Wilkins.

Er nad oedd yn un o'r ymchwilwyr a dderbyniodd y Wobr Nobel ar y pryd, roedd cyfraniad Herbert Wilson yn bwysig dros ben ac mae wedi cael ei gydnabod yn eang ers hynny. Ym mynedfa cwadrangl Coleg y Brenin mae plac yn coffáu pum arloeswr DNA y sefydliad hwnnw yn gyfartal, gan restru Herbert Wilson ochr yn ochr â Rosalind Franklin, Raymond Gosling, Alexander Stokes a Maurice Wilkins. Rhoddwyd sylw i'w gyfraniad mewn rhifyn arbennig o'r cylchgrawn Nature a gyhoeddwyd yn Ionawr 2005.

Yn 1957 penodwyd Wilson yn ddarlithydd mewn Ffiseg yng Ngholeg y Frenhines Dundee (ar y pryd yn rhan o Brifysgol St. Andrew's), ac yn uwch-ddarlithydd yn 1964. Bu hefyd yn ymchwilydd ar ymweliad yn y Sefydliad Ymchwil i Gancr mewn Plant yn Boston Massachusetts yn 1962. Parhaodd gyda'i ymchwil ar astudiaethau pelydr-X o asidau niwclëig ac astudiaethau strwythurol o feirysau. Yn 1966 cyhoeddodd lyfr nodedig, Diffractions of X rays by Proteins, Nucleic Acids and Viruses. Daeth yn Ddarllenydd yn 1973 ym Mhrifysgol Dundee, ac fe'i penodwyd yn Athro Ffiseg ym Mhrifysgol Stirling yn 1983, swydd a ddaliodd nes iddo ymddeol yn 1991.

Derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys medal Rodman gan y Gymdeithas Ffotograffig Frenhinol am ei ffotograffeg pelydr-X cynnar. Fe'i hetholwyd yn Gymrawd Cymdeithas Frenhinol Caeredin yn 1975, cafodd ddoethuriaeth er anrhydedd mewn Gwyddoniaeth gan Brifysgol Cymru yn 2005, a derbyniodd Gymrodoriaeth gan Brifysgol Bangor yn yr un flwyddyn. Cadwodd gyswllt agos â Chymru trwy gydol ei fywyd, ac fe'i derbyniwyd i Orsedd y Beirdd yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd yn 2003. Bu farw o gancr, yn Stirling, ar 22 Mai 2008.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2016-05-26

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.