BARTRUM, PETER CLEMENT (1907 - 2008), ysgolhaig achau Cymru

Enw: Peter Clement Bartrum
Dyddiad geni: 1907
Dyddiad marw: 2008
Priod: Barbara Bartrum (née Spurling)
Plentyn: Jonathan Bartrum
Rhiant: Kate Isabel Bartrum
Rhiant: Clement Osborn Bartrum
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ysgolhaig achau Cymru
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Ysgolheictod ac Ieithoedd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Michael Siddons

Ganwyd Peter Bartrum yn Hampstead, gogledd Llundain, ar 4 Rhagfyr 1907, yn fab i Clement Osborn Bartrum a'i wraig Kate. Dyfeisiodd ei dad gloc Bartrum, sydd bellach yn yr Amgueddfa Gwyddoniaeth yn Llundain, ac roedd ei hen-ewythr yn brifathro Ysgol Berkhamsted. Cafodd ei addysg yng Ngholeg Clifton, Briste, ac enillodd ysgoloriaeth mathemateg i Goleg y Frenhines, Rhydychen yn 1926. Ymunodd â'r gwasanaeth trefedigaethol yn 1930, a threuliodd ei yrfa broffesiynol fel meteorolegydd yn Bermuda a Gorllewin Affrica, gan gynnwys Sierra Leone a Nigeria. Ar ôl ymddeol yn 1955 gweithiodd am gyfnod yn y Swyddfa Meteoroleg. Priododd Barbara Spurling (1910-2003) yn 1934, a chawsant un mab, Jonathan.

Yn ei eiriau ei hun roedd gan Bartrum 'awydd sylfaenol i roi trefn ar bethau'. Daeth hyn i'r amlwg yn ei ieuenctid trwy ddiddordeb mewn dosbarthu planhigion. Tynnodd siart o'i berthnasau, ac aeth ymlaen at fythau Groegaidd, ac yn ddiweddarach at chwedlau Arthuraidd a'r Mabinogion, a'i harweiniodd at chwedloniaeth Cymru a'i hachau cynharaf. Dechreuodd ymweld â'r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, Llyfrgell Ganolog Caerdydd, y Llyfrgell Brydeinig a llyfrgelloedd eraill, er mwyn astudio'r achau cynharaf a oedd ar gael. Cafodd fod llawer o'r hen achresi heb eu cyhoeddi, a bod llawer o'r hyn a gyhoeddwyd yn anghywir. Aeth ati felly i astudio'n systemataidd y llawysgrifau cynharaf i gyd sy'n cynnwys achau chwedlonol a hanesyddol, gan gymharu a golygu'r testunau, a dysgodd ddarllen Cymraeg er mwyn gwneud hyn. Arweiniodd hyn at gyfres o erthyglau (1950-62) a fu'n sylfaen ar gyfer ei lyfr pwysig Early Welsh Genealogical Tracts (1966), sy'n casglu ac yn golygu'r testunau achyddol cynharaf, gan eu cyflwyno am y tro cyntaf ar ffurf hygyrch a dibynadwy.

Bu swyddogaeth bwysig i achau yng Nghymru erioed, ac o dan Gyfraith Hywel Dda roedd rheidrwydd cyfreithiol ar bawb i wybod eu hachau. Roedd astudiaeth o achau'r tywysogion a'r uchelwyr yn rhan o hyfforddiant traddodiadol y beirdd, ac mae casgliadau o'r achau hyn gan genedlaethau o feirdd wedi goroesi o'r bymthegfed ganrif hyd ddiwedd y gyfundrefn farddol, y rhan fwyaf heb eu cyhoeddi. Er nad oedd gwybodaeth am achau yn anghenraid cyfreithiol ar ôl sefydlu Cyfraith Loegr, parhaodd y Cymry i roi pwysau mawr ar eu hachau.

Cafodd Bartrum fod yr achau cynnar yn gywirach mewn llawysgrifau cyfoes, a bod y rhannau cynharaf yn mynd yn fwyfwy llwgr trwy gopïo diweddarach. Sefydlodd destun mor ddibynadwy â phosibl, felly, trwy ganolbwyntio ar lawysgrifau o tua 1500 ymlaen. Yn 1976 cyhoeddwyd y cyntaf o'i ddau gasgliad anferth, Welsh Genealogies AD 300-1400 (8 cyfrol, Gwasg Prifysgol Cymru, dyddiedig 1974), gyda bron i 1000 o dudalennau o achau, a'r un faint o fynegeion. Tanbrisiwyd y diddordeb yn y pwnc yn ddirfawr, a dim ond can copi a argraffwyd. Bu'n rhaid cyhoeddi fersiwn microfiche yn fuan wedyn. Un o nodweddion pwysig y mynegeion yw eu bod yn cyfeirio at y ffynonellau llawysgrif cynharaf ar gyfer pob unigolyn yn yr achau. Yn y rhagymadrodd esboniodd Bartrum ddiben a rhychwant y casgliadau hyn, sef rhoi trefn ar yr achau traddodiadol, a'u cyflwyno mor ddibynadwy â phosibl yn ôl y llawysgrifau cynharaf.

Aeth ymlaen i lunio parhad i'r achau gan dynnu ar gasgliadau pwysig a wnaed gan hynafiaethwyr bonheddig yn yr ail ganrif ar bymtheg yn ogystal â gwaith y beirdd. Cyhoeddwyd ei ail gasgliad mawr, Welsh Genealogies AD 1400-1500, mewn deunaw cyfrol gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn 1983. Er mai dim ond can mlynedd yr estynnodd hwn yr achau, roedd bron ddwywaith maint y casgliad cyntaf. Yn ogystal â'r teuluoedd Cymreig nad oeddent wedi dod i'r amlwg yn y cyfnod cynharach, cynhwysai deuluoedd Seisnig ac Eingl-Normanaidd a ymsefydlodd yng Nghymru, yr 'Advenae', a hepgorwyd bron yn llwyr o'r gyfres gyntaf. Oherwydd natur ffynonellau'r achau roedd angen ychwanegiadau a chywiriadau, ac fe gyhoeddwyd y rhain gan y Llyfrgell Genedlaethol mewn cyfres o atodiadau, yr olaf yn 2003.

Yn bwysicach o lawer na'u gwerth ar gyfer haneswyr teulu, enillodd y casgliadau hyn eu plwy yn fuan iawn fel arfogaeth anhepgor i'r sawl a astudiai bron unrhyw wedd ar Gymru'r Oesoedd Canol. Maent yn fodd i adnabod unigolion a'u perthynas, gan gynnwys pobl sy'n ymddangos mewn cofnodion hanesyddol a llawer o noddwyr y beirdd. Arwydd o'u pwysigrwydd oedd y grant a ddyfarnwyd i Adran y Gymraeg Prifysgol Aberystwyth gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau i baratoi fersiwn digidol o'r gwaith cyfan.

Ffrwyth ei ddiddordeb mewn hanes cynnar a chwedlonol oedd ei Welsh Classical Dictionary: People and History and Legend up to about AD 1000 , a gyhoeddwyd gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn 1993. Roedd hwn yn seiliedig ar nodiadau a wnaethai dros flynyddoedd maith, ac mae'n ffrwyth darllen eang iawng, er na allai ymweld â llyfrgelloedd mor aml oherwydd ei oedran. Dyfarnwyd gradd D. Litt. er anrhydedd iddo gan Brifysgol Cymru yn 1988.

Ar wahân i achau a chwedloniaeth, ymddiddorai mewn posau mathemategol, ac yn ogystal ag erthyglau ar bynciau meteorolegol cyhoeddodd bapurau ar berthynoldeb ac ar faes electromagnetaidd Null, gan gynnwys papur dan y teitl 'Rotation in General Relativity with Applications to the Case of a Rotating Particle', a gyhoeddwyd gan y Gymdeithas Frenhinol. Roedd yn gerddor brwd, a bu ei wraig ac yntau'n aelodau ffyddlon o'r eglwys yn Berkhamsted, Hertfordshire, gan ganu gyda'i gilydd mewn côr a berfformiai waith Bach.

Bu Peter Bartrum farw yn Hemel Hempstead ar 14 Awst 2008.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2018-12-14

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.